Y Bont Hydref 2012

Viva Guatemala

“Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru wedi cefnogi Cymorth Cristnogol ers blynyddoedd lawer oherwydd ein bod yn rhannu’r un weledigaeth – rhoi terfyn ar dlodi.  Credwn fod hyn yn alwad arnom gan Iesu, ac yn rhan o waith sefydlu Teyrnas Dduw ar y ddaear. Gelwir arnom i frwydro yn erbyn anghyfartaledd byd-eang ac mae Cymorth Cristnogol yn gweithio gyda phartneriaid lleol i  wneud hyn  mewn 50 o wledydd ar draws y byd.

Un o’r gwledydd hynny yw Guatemala, ac yn ystod 2012 byddwn fel aelodau ac eglwysi yn gwneud ymdrech arbennig i godi arian i gefnogi gwaith Cymorth Cristnogol yn Guatemala.

Nod yr apêl yw gofyn i’n haelodau gyfrannu neu gasglu £1 y mis sef o leiaf cyfanswm o £12 yr aelod dros y flwyddyn.  Bydd ein rhoddion yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl Guatemala.”

Mae dal cyfle i gyfrannu, drwy law y swyddogion….diolch.

Y Parch. Morris Morris

Sylw’r Mis

Lle i ddiolch!

Mis Hydref yn barod ac mae’r haf wedi ein gadael ni (……neu heb gyrraedd yn y lle cyntaf debyg!), llai o olau dydd a deiliach y coed ar fin disgyn.

Hefyd erbyn hyn mae’r coesau wedi dad-stiffio ar ol y daith feicio o amgylch Llyn Brenig y mis diwethaf! Un neu ddau wedi llwyddo i ddweud ‘helo’ i’r llwybr yn agosach na fasen nhw eisiau dwi’n siwr! Ond er lles iechyd a diogelwch fi fy hun……..well peidio sôn mwy am hynny! (…..Bradley Wiggins watch out!).

Taith noddedig i godi arian at Apêl Guatamala oedd y daith, ac er gwaetha’r coesau stiff y diwrnod wedyn (….ar cleisiau!!), balchder oedd y teimlad o fod wedi llwyddo godi ychydig o arian at yr Apêl.

Yr adeg yma o’r flwyddyn bydd ambell wasanaeth o ddiolchgarwch yn cael ei gynnal dwi’n siwr. Lle i ddiolch sydd gennym am lwyddiant ein cnydau a’r bwyd sy’n llenwi ein byrddau yma yn Nyffryn Clwyd bob dydd.

Nid mor lwcus yw trigolion Guatamala. Gwlad lle mae bron 50% o blant o dan 5 oed a diffyg maeth (y pedwerydd uchaf yn y byd). 53% yn byw mewn tlodi ac 13% yn byw mewn tlodi eithafol. Ynghlwn ag ansicrwydd economaidd y wlad, creisis bwyd a thrychinebau rheolaidd naturiol y wlad fel daeargrynfeudd, llifogydd ac ati, mae Guatamala yn gwynebu dyfodol anodd dros ben.

Rhaid i ni gofio felly pa mor lwcus yr ydan ni y diolchgarwch yma a bod gennym ni gyd wir le i ddiolch !

Gareth Pierce Jones

Newyddion a Chyfarchion

Anfonwn ein cofion at Helen Evans a Delyth Williams y ddwy’n gwella ar ol treulio cyfnod byr yn yr ysbyty.

Croeso i Caryl Vaughan Roberts, ffordd Dinbych, yn aelod yma ym Methania a llongyfarchiadau calonnog iddi hi ac Eilir ar fedydd eu mab bychan, Mabon. Edrychwn ymlaen i’w cwmni fel teulu ym mywyd y capel.

Llongyfarchiadau i Dyfrig Evans ar lwyddo yn ei arholiadau TGAU a dymuniadau gorau iddo yn Llysfasi.

Penwythnos y Plant

Tachwedd 10-11

Parti Pudsey

Dydd Sadwrn, Tachwedd 10

10.00-12.00

Stondinau, gemau a digonedd o goffi, te a bisgedi

 Operation Christmas Child

Llenwi bocsys esgidiau

Dydd Sul, Tachwedd 11

Cyfle i anfon anrhegion Nadolig at blant mewn angen. Byddem yn ddiolchgar am unrhyw roddion addas e.e. teganau (ond dim gynnau), llyfrau, brwshys dannedd, brwshys gwallt, sebon, fferins, menig, sgarffiau, capiau, breichledau, mwclis, papur a phensil, creonau neu roddion ariannol.

Hefyd, bocsys esgidiau gwag os gwelwch yn dda.

Diolch o galon i bawb ymlaen llaw am bob haelioni a charedigrwydd.

Taith Feics Y Brenig Medi 9

Diolch o galon i’r rhai o Fethania ac o’r Tabernacl a ddaeth draw i’r Brenig bnawn Sul Medi 9 ar gyfer y daith noddedig ar gyfer Apêl Guatemala. Roedd yn bnawn sych ond braidd yn wyntog, a’r llyn a’r bryniau o gwmpas yn gefndir deniadol i’r teithwyr.

Mentrodd rhyw ddauddeg pump o feicwyr o gwmpas y llyn yn cael eu harwain yn ofalus gan Robat Morgan a Stephen Edwards. Fe fu criw arall yn cerdded neu ar feic neu sgwter ar draws yr argae ac yn ôl. Bu’n daith digon di-drafferth ar wahan i ambell godwm, corwynt ar ffordd Nantglyn a chymryd troad anghywir oedd yn ein harwain ar ein pennau i’r llyn. Roedd paned a chacen yn y caffi ar ddiwedd y daith yn dderbyniol iawn. Diolch i Iwan Vaughan Evans am drefnu, i Ann a Gruff Richards a Geraint Ff. Roberts am gymorth stiwardio ac i Eilir Edwards am drefnu trelar.

Taith NODDEDIG oedd hon ac felly er mwyn sicrhau nad oedd y cyhyrau stiff a’r penolau tendar yn ofer gofynnwn yn daer am eich cefnogaeth i’r beicwyr er mwyn hybu’r apêl deilwng hon.

O Ble Daethoch Chi?

Diolch I Iwan Vaughan Evans am greu darlun o’i fywyd inni

Mi ges fy magu yng Nglanrafon ger Corwen yn bedwerydd o bump o fechgyn. Roedd mam yn dweud ‘mod i’n ysu am gael mynd i’r ysgol a ches fynd rai misoedd cyn fy amser. Roeddwn yn brysur a busneslyd yn ôl y sôn ac mae gen i graith ddeniadol iawn ar fy llaw chwith a ges i wrth chwarae o gwmpas efo concrete mixer.

Roeddwn i ymysg y rhai olaf i fynychu hen Ysgol Tŷ Tan Domen Y Bala cyn symud i Ysgol y Berwyn. Mae yna lun o’r disgyblion olaf hynny a fi ydi’r unig un ynddo mewn trowsus byr. Roedd yn cyfnod hapus iawn a ches lawer o gyfle i gystadlu yn Eisteddfodau’r Urdd, chwaraeon o bob math, perfformio dramau ac ati. Rhaid i mi gyfaddef fod fy mhlant fy hun wedi gorfod gweithio’n llawer caletach nag a wnes i, ond goeliwch i fod gen i Lefel O mewn amaethyddiaeth, gwaith metel a gwaith coed.

Dyddiau da oedd dyddiau coleg a choleg hyfforddi athrawon yn unig oedd Y Coleg Normal Bangor y dyddiau hynny. Roedd bron i ddau gant o o fyfyrwyr ym hob blwyddyn a phan adewais dim ond rhyw hanner dwsin o’r rhain oedd yn methu cael swydd. Treuliais fy mlwyddyn gyntaf mewn lojins ym Mhorthaethwy. Croesi Pont y Borth bob dydd a thaflu fy mrecwast i’r gwylanod am ei fod mor ofnadwy. Dilynais gwrs Addysg Gorfforol, Daearyddiaeth a Drama ac mae llawer o droeon hapus fy nghyfnod yno yn ymwneud a churo’r Brifysgol yn y Woolworth Cup, curo cynghrair Peldroed Y Carnarfon and District, perfformio drama Huw Lloyd Edwards ‘Y Llyffantod’ yn ‘Steddfod Genedlaethol Rhuthun 1973 i enwi dim ond ychydig. Gwnes ffrindiau am oes a mwynhau gwneud pethau dwl fel ‘benthyg’ giatiau Ysgol Uwchradd Machynlleth ar daith adre o Aberystwyth.

Cefais fy swydd dysgu gyntaf gan Awdurdod Addysg Clwyd y flwyddyn gyntaf y daeth i fodolaeth ym 1974. Ces fy lleoli yn Ysgol Rhoshelyg Rhosesmor ac roedd dros 200 o blant yno bryd hynny. Plant di-Gymraeg er fod llawer o neiniau a theidiau ac ambell riant yn Gymry. Ym 1982 symudais fel Pennaeth i Ysgol Gellifor a bum yno am bedair blynedd a hanner cyn symud i Ysgol Bro Aled Llansannan.

Bu’r 24 mlynedd a dreuliais yno yn rhai hapus dros ben. Plant cefn gwlad naturiol ac annwyl, 85-90% ohonynt yn dod o gartrefi Cymraeg, rhieni ac ardal gefnogol a chydweithwyr ymroddgar. Fe hedfanodd y blynyddoedd.

Mae Helen a minnau yn briod ers 28 o flynyddoedd. Priodwyd ni yng Nghapel Bethania gan y diweddar Barch O.R.Parry. Mae gennym dair o ferched, Catrin Eurgain ac Elliw. Mae Catrin yn athrawes Meithrin a Derbyn yn Ysgol Glanrafon yr Wyddgrug, Eurgain yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Gymraeg Cwm Rhymni Caerffili ac Elliw newydd raddio o Brifysgol Caerdydd ac yn gweithio fel cymhorthydd dysgu yn Ysgol Bro Cinmeirch, Llanrhaeadr. Tybed fydd hi am fod yn athrawes hefyd? Mae’n amlwg nad ydi Helen na minnau wedi eu perswadio fod dysgu yn waith caled, blinedig, llawn stress! Wedi byw efo pedair o ferched am cyn hired gallaf eich sicrhau na fyddaf byth yn gyfoethog ac mod i’n gwybod pryd i gadw’n ddistaw.

Wedi rhoi’r gorau i ddysgu ers blwyddyn bellach mae  amser wedi hedfan. Cefais gyfle i wneud dipyn o DIY ar y tŷ – dydi hwnnw byth yn gorffen. Bum yn cerdded llawer o gwmpas yr ardal hyfryd yma a cheisio cadw’n ffit trwy chwarae pêl droed a badminton. Ddiwedd mis Hydref rwyf yn edrych ymlaen at fynd i Batagonia i weld y wlad a chystadlu yn Eisteddfod y Wladfa gyda Chôr Taith i’r Paith o ardal Y Bala. Wedi dod adref mwynhau canu efo Côr Rhuthun ac edrych ymlaen at Eisteddfod Dinbych fydd hi.

Eirian Lloyd