Y Bont Rhagfyr 2012 ac Ionawr 2013

Nadolig

Tramwywn ar gyflym adenydd myfyrdod i Fethlem yn awr,

I weled ffynhonnell llawenydd angylion a lluoedd y llawr.

Cans er ein mwyn ni ei wael ddynion gadawodd pob mawredd a bri,

Ac er ein mwyn ni ei elynion y daeth Ef i lawr i’n byd ni.

O rhyfedd oedd gweled Creawdwr Llywiwr y bydoedd i gyd,

Yn dyfod i fod yn Iachawdwr i brynu pechadur mor ddrud.

O gwyliwn rhag bod yn golledig ar ôl y fath gymod a gaed,

Ar ôl i’n Creawdwr caredig ein caru a’n prynu a’i waed.

Pwy bynnag a ffy am dderbyniad at Iesu, ein pabell wir gref,

Gan roddi iawn serchog ymlyniad wrth ei orchmynion pur Ef.

Ei sylfaen bob awr fydd safadwy, ni chryn ei adeilad un dydd,

Er rhuo holl stormydd ofnadwy y fagddu – diogel a fydd.

Rhisiart Ddu o Wynedd

Y Parch. Morris Morris


Sylw’r Mis

Yr Enfys

Os yw rhywbeth yn digwydd unwaith, nid yw ddim ond digwyddiad! Os y digwydd eto, fe dry yn gyd-ddigwyddiad, ond beth os yw yn digwydd drosodd a thro, yna mae rhaid bod rhyw gynllun ar waith!

Rhyw berthynas felly sydd rhwng ein teulu ni a’r enfys. Ar gynifer o adegau arwyddocaol beth oedd yno gefn y cymylau, ond bwa lliwgar yn ernes o bethau gwell i ddod. Ar ddiwrnod cyntaf Esyllt yn yr ysgol Feithrin, a ninnau newydd fudo o ddiogelwch Ceredigion i ddieithriwch Dyffryn Clwyd, wrth gyrraedd adref  o Ysbyty Alder Hey ar ôl mis o ofid gyda Llŷr, ac ar ddwsinau o adegau eraill. Digon felly ag i beri i ni oedi am ennyd wrth ei gweld, wrth gofio mor dyner yw’r gofal fu trosom.

Cofiwn fod hanes yr enfys gyntaf yn llyfr Genesis, yn union wedi i ddŵr y dilyw gilio, a Duw yn ei rhoi fel arwydd i Noa, ac fel addewid hefyd o berthynas newydd rhyngddynt. Mae’r un addewid ar ein cyfer ninnau hefyd, a phan mae cymaint o’n ffydd yn pwyso ar bethau na fedrwn eu gweld, mae’n dda weithiau gael arwydd clir o haelioni Duw.

Glenda Morris

Newyddion a Chyfarchion

Gyda thristwch mawr y clywsom ein bod wedi colli aelod o’n plith sef Delyth, Min y Clwyd. Cofiwn iddi fod yn weithgar fel ysgrifennydd y Dramau gyda Margaret am nifer o flynyddoedd ac, wrth gwrs, yn Anti Delyth i genhedlaeth o’n plant. Mae’n cydymdeimlad dwysaf â Tudor, Catrin a Ffion a’r teulu a ffrindiau i gyd yn eu hiraeth am un mor annwyl.

Yr un yw ein cydymdeimlad â Margaret Jean Jones sydd wedi colli ei brawd yn ddiweddar.

Bu Glenys Davies a Trefor Jones yn yr ysbyty am gyfnod ond rydym yn falch o ddeall bod y ddau adref ac yn gwella erbyn hyn.

Mae Mrs Rogers, Heol y Parc, bellach wedi symud o Ysbyty Rhuthun i gartref Dolwen yn Ninbych ac yn ymgartrefu’n dda yno.

Llongyfarchiadau i Barti Marchan ar eu llwyddiant yn yr Wyl Gerdd Dant yn Llandudno. Mae canran dda o’r parti yn aelodau ym Methania. Llongyfarchiadau hefyd i’r rhai o Frynhyfryd gafodd lwyddiant yn yr Wyl.

Llongyfarchiadau i Sion ac Eirian Lloyd ar ddod yn daid a nain unwaith eto – Elen a Gareth wedi cael merch fach, Ela.

Diolch o galon i Non a Hedd ap Emlyn am eu gwaith unwaith eto’n trefnu Penwythnos y Plant. Codwyd £300 ar gyfer Apêl Plant Mewn Angen a llwyddwyd i lenwi 104 o focsys esgidiau i’w hanfon at blant anghenus. Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth a charedigrwydd pawb a gyfrannodd mewn unrhyw fodd at geisio lleddfu rhywfaint ar galedi rhai o blant y byd.

O Ble Daethoch Chi?

Einir G Jones

Fe ges fy ngeni yr ieuengaf o bedwar plentyn a fy magu ar fferm yn ardal Peniel a Phrion ger Dinbych. Mi roeddwn i wrth fy modd yn byw ar fferm, yn helpio dad odro a rhoi llaeth i’r lloi a helpio mam fwydo’r moch. Mi fuaswn i’n treulio oriau maith yn y goedwig oedd ar dir y fferm ac yn marchogaeth y ferlen ar hyd y caeau, a deud y gwir mae’n dal i roi boddhad mawr i mi heddiw, i gerdded y caeau i’r coed ac edrych ar yr olygfa fendigedig o Ddyffryn Clwyd sydd i’w gael yno.

Mi ges ddilyn fy nau frawd a’m chwaer yn gynnar i Ysgol Prion, neu Pant Pastynog fel y gelwir hi heddiw. Dwi’n amau bod mam yn meddwl y buaswn i’n saffach yn y fan honno nac adre gan mod i braidd yn ‘accident prone’, a dal i fod heddiw fase rhai yn deud ! Trwy gyfnod fy mhlentyndod mi wnes ddisgyn o ben sawl peth a llwyddo i gael pwythau yn fy ngwefus, torri fy mraich, pwythau yn fy nghoes ac ambell beth arall !

Mi wnes fwynhau yn arw yn Ysgol Prion ac roedd yn ychydig o sioc mynd i ysgol fawr yn y dref pan es i Ysgol Glan Clwyd. Unwaith i mi basio fy Lefel ‘O’ mi wnes ddewis Saesneg, Hanes a Mathamateg i Lefel A, pynciau oedd a sydd hyd heddiw o ddidordeb mawr i mi gan mod i’n gweithio ym myd rhifau a fy niddordebau ydi darllen a Hel Achau.

Wedi gadael yr ysgol, es i Brifysgol Bangor i astudio Mathamateg, gan fwynhau tair blynedd bendigedig a llwyddo i gael gradd ar y diwedd ! Yn ystod y cyfnod yma mi wnes criw o ffrindiau bendigedig a bob blwyddyn mi rydan ni’n cael aduniad bach i ddal i fyny efo newyddion pawb.                                                 

Ar ol gwario rhai wythnosau yn Ffrainc hefo fy chwaer yn yr haf wedi i mi raddio, rhaid oedd chwilio am waith ac yn lwcus iawn mi wnaeth Mr Hooson gynnig gwaith i mi yn delio hefo cyfrifion Cyfreithwyr Swayne Johnson, gan ofyn i mi aros yno blwyddyn o leia, a dyma fi dal yne 25 mlynedd yn ddiweddarach!

Unwaith i mi ddod adre ar ol bod yn y Brifysgol, mi wnes ail ymuno hefo Clwb Ffermwyr Ifanc Nantglyn a chael hwyl yn cystadlu a chymdeithasu. Dyma lle nes i gyfarfod a Gareth gan symud i Rhuthun ar ol priodi ugain mlynedd yn ol, a dyma lle rydan ni wedi setlo hefo’r plant Dyfan a Siwan. Tybed os wnawn nhw drafeilio ymhellach o’u milltir sgwar na’u Mam !

Diolch yn fawr i ti am rannu dipyn o hanes dy fywyd gyda ni Einir .

Eirian Lloyd