Y Bont Tachwedd 2012

Daioni Duw

 ‘Yr wyf wedi dysgu bod yn fodlon, beth bynnag fy amgylchiadau’, dyna adnod felys i’w rhannu a saint Bethania ar fore Sul cyntaf mis Hydref. Adnod sydd yn ein hatgoffa nad yw daioni Duw yn pylu, na’i ofal yn lleihau, hyd yn oed pan mae yr awyr yn dywyll o’n cwmpas. Prin y meddyliais beth fyddai ein rhawd cyn ddiwedd y dydd!

Mae amgylchiadau yn medru ei goddiweddyd yn gwbl ddirybudd, a phryd hynny y dengys Duw ei hun ar ei orau, os y cawn nerth i’w geisio. Cyd-ddigwyddiad rhyfedd oedd i ‘MJ’ ddewis pregethu ar ddiolchgarwch fore ei Sul olaf, ac ar ‘gysur yn y storm’ gyda’r hwyr, ac mai yr adnod olaf a ddarllenodd oedd ‘Felly codwch eich calonnau, ddynion, oherwydd yr wyf yn credu Duw’ Boed felly!

(Diolch i bawb am eu caredigrwydd dros y dyddiau diwethaf, ac am y rhai fu yn gefn i mi ym Maengwyn.)

Morris

Y Parch. Morris Morris


Sylw’r Mis

Mae Penwythnos y Plant wedi hen sefydlu’i hun yng nghalendr blynyddol Bethania. Diolch i aelodau’r eglwys ac i gyfeillion cefnogol, mae mis Tachwedd yn gyfle i godi gwên a gobaith ymhlith plant tlawd ac anghennus y byd. Mae’n stori gyfarwydd iawn, bellach, felly digon yw crynhoi ychydig o ffeithiau a ffigurau dadlennol am gynllun bocsys esgidiau y llynedd:

1,089,018: nifer y bocsys esgidiau a anfonwyd o Brydain ac Iwerddon i blant mewn gwledydd eraill

500,000+: nifer y plant a’r oedolion sy’n gysylltiedig â llenwi bocsys esgidiau

16,184: nifer yr eglwysi, ysgolion, mannau gwaith a grwpiau cymunedol sy’n rhan o’r ymgyrch

7,500+: nifer y gwirfoddolwyr sy’n cynorthwyo i ddosbarthu’r bocsys esgidiau mewn gwledydd tramor

5,000+: nifer y gwirfoddolwyr ym Mhrydain sy’n cynorthwyo i gasglu, paratoi ac anfon y bocsys esgidiau

1,927: nifer y mannau cyhoeddus sy’n gweithredu fel mannau casglu bocsys esgidiau

14: nifer y gwledydd lle y mae plant yn derbyn bocsys esgidiau

Os hoffech chi fod yn rhan o’r gwaith pwysig hwn, mae croeso i chi lenwi bocs esgidiau gydag anrhegion fel menig, sgarff, het, sebon, gwlanen molchi, brwsh dannedd, past dannedd, tegan neu ddau ayyb neu mae croeso i chi ddod ag eitemau i’w rhoi mewn bocs, neu rodd ariannol. Mawr ddiolch am eich cefnogaeth gyson. Cofiwch y dyddiad: Tachwedd 10-11

Hedd ap Emlyn


Newyddion a Chyfarchion

Trist iawn oedd clywed am y brofedigaeth lem a ddaeth i ran ein Gweinidog a’r teulu ym marwolaeth sydyn ei dad, Parch Morris J Morris, ar ei ffordd adref i Fachynlleth. Cydymdeimlwn yn ddiffuant â Morris, Glenda, Esyllt, Llyr ac Elan yn eu hiraeth am dad a thaid annwyl iawn. Rydym i gyd yn meddwl amdanoch fel teulu.

Cofion at Mrs Rogers, Heol y Parc, sydd yn yr ysbyty ers cyfnod, gan obeithio eich bod yn gwella’n raddol.

Anfonwn ein cofion hefyd at Einir Jones a braf clywed ei bod yn  gwella’n dda ar ol cael triniaeth yn ddiweddar.

Dymunwn yn dda hefyd i Delyth, Min y Clwyd sydd yn Ysbyty Gwynedd yn dilyn triniaeth. Gobeithio y bydd hithau’n cryfhau a gwella’n fuan.

Cynhelir Cynhadledd Undydd Dydd Gweddi Byd Eang y Chwiorydd yng Nghapel y Borth, Porthmadog ar ddydd Mercher 14 Tachwedd i baratoi ar gyfer gwasanaeth Mawrth 1af, 2013 (rhwng deg o’r gloch y bore a thri o’r gloch y prynhawn). Bydd cyfarfod tebyg yn Nghapel Presbyteriaid Mancot ddydd Gwener 16 Tachwedd i baratoi am wasnaeth Saesneg.

Y mae Cinio a Sgwrs bellach wedi dirwyn i ben, gan fod ond ychydig iawn yn mynychu. Diolch serch hynny i’r ffyddloniaid a fu’n selog.

Bydd gwasanaeth Cymun yr Eglwysi Cyfamodol am un yn y llyfrgell ar ddydd Gwener cyntaf y mis.

Penwythnos y Plant

Tachwedd 10-11

Parti Pudsey

Dydd Sadwrn, Tachwedd 10

10.00-12.00

Stondinau, gemau a digonedd o goffi, te a bisgedi

 Operation Christmas Child

Llenwi bocsys esgidiau

Dydd Sul, Tachwedd 11

Cyfle i anfon anrhegion Nadolig at blant mewn angen. Byddem yn ddiolchgar am unrhyw roddion addas e.e. teganau (ond dim gynnau), llyfrau, brwshys dannedd, brwshys gwallt, sebon, fferins, menig, sgarffiau, capiau, breichledau, mwclis, papur a phensil, creonau neu roddion ariannol.

Hefyd, bocsys esgidiau gwag os gwelwch yn dda.

Diolch o galon i bawb ymlaen llaw

am bob haelioni a charedigrwydd.

O Ble Daethoch Chi?

Mrs Haf Jones

Ganwyd a magwyd fi yn Llangwm a mynychais yr ysgol gynradd yno, lle treuliais flynyddoedd hapus iawn. Ar ôl llwyddo’n yr arholiadau 11+ es i Ysgol Ramadeg Llangollen gan aros mewn ‘lojings’ o ddydd Llun tan ddydd Gwener.

Am sioc i hogan fach o Langwm! – Mynd o ysgol gwbl Gymreig i ysgol hollol Seisnig! Dyna pryd y profais am y tro cyntaf beth oedd hiraeth go iawn, a gofidiwn na faswn wedi mynd i Ysgol ‘Central’ Pentrefoelas gyda fy ffrindiau. (Fi oedd yr unig un o Langwm i fynd i Ysgol Llangollen y flwyddyn honno.)

Mae’n rhaid cyfaddef na fwynheais f’amser yn Llangollen, er imi wneud ffrindiau da yno. Fedrwn i ddim aros  gael ymadael yn 15 oed!

Treuliais ddwy flynedd wedyn yn helpu gartref ar y fferm cyn symud gyda fy rhieni i fyw i Gellifor. Cefais swydd fel Clerc yn Hufenfa Llandyrnog. Ar ôl tair blynedd symudais i Ddinmael a chael swydd fel clerc cyflogau yn Hufenfa Melin Rhug.

Priodi wedyn yn 1956 a dod ‘nôl i Ddyffryn Clwyd a phrynu tyddyn yn Llangynhafal. Treuliom flynyddoedd hapus iawn yno yn magu’r genod, Carys a Rhian.

Yn 1966 penderfynom symud i fyw i’r dref, i Ty’n y Parc, a chael croeso cynnes ym Methania. Yn 1970 cawsom golled fawr fel teulu a rhaid oedd chwilio am swydd unwaith eto.

Bum yn swyddfa y diweddar Bob Lloyd am flwyddyn cyn mynd yn Ysgrifenyddes i Ysgol Uwchradd Dinbych lle bum am dros ugain mlynedd, hyd f’ymddeoliad ddeunaw mlynedd yn ôl.

Ar ôl ymddeol cefais fwy o amser i roi sylw i’r teulu a chael cyfle i warchod y wyrion a’r wyresau pan oeddynt yn fach,- Elin a Heledd yma yn Rhuthun ac Owain, Dyfan a Gwion draw yn Sir Benfro. Mae’r pump bellach wedi tyfu i fyny.  I ble yr aeth yr holl flynyddoedd?!

Rwy’n mwynhau pob gweithgaredd o fewn y capel a chael ymuno â’r gwahanol gymdeithasau yn y dref. Mae’n braf cael cyfle i fynd am ambell wyliau, cael cymdeithasu gyda ffrindiau  a chael ambell glonc dros ‘baned o goffi!  Rwy’n hoff iawn o ddarllen a gwneud croeseiriau.

Teimlaf yn ffodus iawn o gael iechyd i fwynhau f’ymddeoliad.

Diolch yn fawr ichi am rannu dipyn o hanes eich  bywyd gyda ni Mrs Jones.                                                  

             

Eirian Lloyd