Y Bont Mawrth 2013

 

Y Groglith

 O anhygoel groeshoeliad,-ar y pren

Gwelir prawf o’r cariad,

O fyd y cynhanfodiad

Llyw ei reddf fu deddf ei Dad.

 

Awr gadael, awr y gwadu, – awr anodd

Awr unig y barnu,

Awr o frad i’r Ceidwad cu,

Awr iasoer gwerthu’r Iesu.

 

Er hyfdra Golgotha’i gyd –

Mae’r newyddion hyfryd,

A ddaw beunydd o’i benyd,

A’r boen dros bechodau’r byd.

 Y Parch. Morris Morris 

Sylw’r Mis

Ffydd?

Wrth i mi dyfy fyny roedd hi’n arferiad i mi fynd i’r capel ddwywaith y Sul. Roedd fy nhad yn athro Ysgol Sul ac mae’n parhau i fod yn flaenor hyd heddiw. Oherwydd hyn mae crefydd a ffydd wedi bod yn rhan bwysig o fy mywyd.

Yn ystod y flwyddyn diwethaf, rhaid i mi gyfadde y bu i mi gwestiynu yr hyn oeddwn yn ei gredu am y tro cyntaf erioed. Bu i mi golli aelod ifanc, annwyl a hynod boblogaidd o fy nheulu, oedd hefyd yn digwydd bod yn ffrind gorau i mi. Roedd yn anodd iawn i mi gredu y buasai Duw yn gadael i rywbeth mor greulon ddigwydd i berson mor annwyl gyda chymaint mwy i’w gynnig. Pam gadael yr holl galonau yn deilchion?

Teimlais fy ngalar yn troi yn ddicter gan nad oedd ateb i’r cwestiynau. Er yr holl emosiynau, cafodd y boen ei leddfu hefo’r holl garedigrwydd a ddangoswyd tuag atom mewn amser tywyll. Dwi’n meddwl ein bod wedi cael digon o fwyd i borthi’r pum mil! Roedd gennym ddigon o ffydd y byddai caredigrwydd y gymdeithas yn ein cynnal trwy bob dim.

Er y cwestiynu, un peth sydd wedi helpu hefo’r galar yw’r gobaith y byddwn yn gweld y rhai yr ydym yn eu caru eto. Roedd hyn yn tawelu’r meddwl pan gollais i nain cyn y Nadolig.

Yn ddiweddar iawn fe gafodd fy nhad yng nghyfraith law driniaeth fawr ar ei galon. Tra roedd o dan y gyllell fe’m cymhellwyd i weddio ac erfyn ar Dduw i’w gadw’n saff. Ydy, mae’r ffydd yn dal i fod mor gryf ag erioed.

Rydym yn ffodus iawn o fod yn rhan o deulu bach clos ym Methania. Mae hi’n fis Mawrth ac ar ôl bwrlwm wythnos y dramâu rydym yn edrych ymlaen at y Gwanwyn a’r prydferthwch a ddaw i’w ganlyn.

Bywyd newydd, gobaith a chariad. 

Nia Angharad Jones

Newyddion a Chyfarchion

Cydymdeimlo

Ymddiheuriadau am fod yn hwyr yn cydymdeimlo â Iona a Huw McKee, Sion, Gruffudd ac Owain wedi colli tad a thaid sef Hywel Evans, Llandyrnog.Yr un yw’n cydymdeimlad â Bethan a Gerallt Tomos a Beca wedi i Bethan golli ei thad, Parch Gwynfryn Lloyd Davies, Wrecsam.

Brysiwch Wella!

Da iawn yw deall bod Robat Arwyn, Mair Roberts a John Rees Davies yn gwella wedi anhwylder a hefyd Eleri Hughes ar ôl  cael codwm egr. Cofion atoch eich pedwar a daliwch i wella.

Bu Elin Tudor yn Ysbyty Glan Clwyd yn cael tynnu ei phendics yn ddiweddar ac mae’n braf ei gweld wedi gwella erbyn y dramâu.

Anfonwn ein cofion hefyd at Llyr Morris yntau ddim wedi bod yn dda dros gyfnod y dramâu. Brysia wella Llyr.

Dramâu Bethania – Chwefror 2013

Diolch yn gywir iawn i’r llu o bobl a gymerodd ran mewn unrhyw fodd i wneud yr Ŵyl Ddramâu yn llwyddiant eto eleni.

Diolch yn fawr iawn hefyd i bawb am barhau i gefnogi’r ŵyl.

Gwerthfawrogir yr help, cydweithrediad a chefnogaeth pawb a diolch i Sioned a’r tîm yn Siop Elfair am werthu’r toncynnau.

Diolch hefyd i’r awduron am eu caniatâd i berfformio’u dramâu heb godi tâl arnom. Felly cyflwynir rhodd ariannol eleni at Elusennau Cancr a Stroke er cof am Delyth Williams (cyn ysgrifenyddes y dramau)

Diolch yn arbennig i Margaret am ei gwaith diflino yn trefnu’r wythnos gan sicrhau bod yr ŵyl yn rhedeg yn esmwyth. Diolch o galon i ti Margaret.

Newyddion

Cytûn – Rhaglen y Grawys

Bydd cyfarfodydd y Grawys eleni yn gyfres o fyfyrdodau Grawys dros amser cinio ar y dyddiadau isod. Bydd y cyfarfodydd yn dechrau am 12.30 a chinio cynnil am 1.00.

  • Mercher 6ed o Fawrth:  Capel Pendref
  • Mercher 13eg o Fawrth : Capel Ffordd Wynnstay
  • Mercher 20fed o Fawrth: Yr Eglwys Gatholig

Sasiwn y Plant

Cynhelir Sasiwn y Plant eleni yng Nghlawddnewydd Dydd Sul Ebrill 28.

Dyma’r meysydd dysgu i’r plant a’r oedolion eleni:

  • O dan 5: Emyn 387 pen 1
  • Bl 1 a 2: Emyn 387 Pen 1 a 4
  • Bl 3 a 4: Emyn 399 Pen 1,a,4.
  • Bl 5 a 6: Emyn 409. Pen 1,2 a 4
  • Bl 7-9:  Emyn 400  Pen 1 a 3 
  • Oedolion: Emyn 396
  • Maes holi plant: Aeth ffermwr i hau. Tudalen 356 y Beibl bach i Blant.
  • Maes holi oedolion: Luc 7 : 36 – 50

Bydd yr athrawon yn gwrando ar y plant yn adrodd eu penillion yn ystod mis Ebrill.

O’r Wyddfa i Ystrad  

Yn ystod yr hanner tymor bu Owain Dafydd, Bryn Eryl, yn cerdded 160 milltir o ben Yr Wyddfa i Ystradgynlais i godi arian ar gyfer Ymchwil Cancr Cymru a Thŷ Hafan.

Byddai’n falch iawn pe bai aelodau o’r capel yn gallu ei gefnogi yn ei ymdrech. Pe dymunech ei gefnogi mae gwefan bwrpasol ar gyfer hynny, sef

www.virginmoneygiving.com/

Ewch ar y safle hwn, daw blwch yn gofyn am enw eich ffrind i fyny, teipiwch Owain Dafydd, yna daw cyfle i glicio ar ‘O’r Wyddfa i Ystrad’.  Cliciwch ar y dewis hwn, yna rydych yn y dudalen sy’n rhoi cefndir yr ymdrech a’r cyswllt i gyfrannu.

Diolch o galon i bawb sy’n gallu cefnogi Owain a chodi arian at yr elusennau hyn.

O Ble Daethoch Chi?

Llinos Gerallt

Symudon ni o Henllan i Ddinbych pan oeddwn yn 10 mis oed, ac yno treuliais i a Dewi, fy mrawd, blentyndod hapus yn mynychu Ysgol Twm o’r Nant, Ysgol Glan Clwyd a Chapel y Fron. Ymlaen i’r brifysgol ym Mangor wedyn i astudio Cymraeg a Llên y Cyfryngau, a blwyddyn yn gwneud MA mewn Ysgrifennu ar gyfer y Theatr a’r Sgrïn.

Ar ôl gadael y coleg cefais swydd fel ymchwilydd radio yn y BBC ym Mryn Meirion, Bangor. Treuliais ddwy flynedd dedwydd yn ymchwilydd ar raglen ddyddiol Dei Tomos a Hywel Gwynfryn, ac yn gweithio ar yr opera sebon Rhydeglwys. Yna penderfynais fynd ar fy liwt fy hunan yn cyfieithu a sgriptio, a chefais waith ar y gyfres deledu Tipyn o Stad gyda chwmni Tonfedd Eryri yn y Felinheli.

Er fod Deian, fy ngŵr, wedi’i fagu yn Rhewl a minnau yn Ninbych doedd ein llwybrau heb groesi cyn inni gyfarfod ym Mangor.  Roedd o’n byw yng Nghaerdydd ar y pryd ond yn treulio cyfnod yn y Gogledd gyda’i waith fel peiriannydd sain ar gyfres Rownd a Rownd.

Roedd ein cartref cyntaf yn ardal Hirael ym Mangor a cawsom ddiwrnod bendigedig ar ddydd ein priodas yn Mai 2006. Ganed Elain yn 2007 a Cadi yn 2009, y ddwy yn Ysbyty Gwynedd. Ond er ein bod yn hapus ym Mangor roedd yna dynfa yn y ddau ohonom i ddychwelyd i Ddyffryn Clwyd. Fe symudon ni o Fangor pan oedd Cadi yn bythefnos oed – cyfnod prysur i ddweud y lleiaf!  Rydym yn byw yn Erw Goch, Rhuthun ers dros dair blynedd bellach. Rydw i’n storïo a sgriptio Pobol y Cwm ers chwe mlynedd ac yn treulio cyfnodau byr yn cydweithio gyda chriw o awduron yn stiwdio newydd BBC Cymru ym Mhorth y Rhath yng Nghaerdydd. Ond mae’r rhan fwyaf o’r gwaith yn cael ei wneud yn fy swyddfa fechan yn y tŷ, sydd yn gyfleus iawn efo dwy o ferched bach.

Mae’r ddwy wedi dechrau yn Ysgol Pen Barras ac wrth eu boddau yno. Cawsom groeso cynnes iawn fel teulu pan symudon ni i Rhuthun ac rydym yn hapus iawn yma. 

Llun Llinos Gerallt (1)

Diolch, Llinos, am rannu dy hanes efo ni. Gwyddom am dy ddawn fel dramodydd ers pan enillaist y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd.

Pob dymuniad da i ti’n dy yrfa i’r dyfodol.

Eirian Lloyd