Y Bont Chwefror 2013

‘Cristnogaeth21’

“Hoffwn yn unig anghytuno gyda’r dyfarniad, na fedd Cynog yr hawl i’w alw ei hun yn Gristion, na chanu emynau, na gweddïo! …   Tra fod Geraint yn gorfod barnu ar sail rhyw fformiwla etifeddol, dichon fod gan Dduw adnoddau eraill at ei alw, a rhinweddau eraill i’w hystyried. Cofiwn ‘fod y diafol hefyd yn credu’ chwedl Iago!

Ar gwestiynau mor fawr a chymhleth, efallai mai yr ymhoniad o sicrwydd yw y pechod mwyaf, a bod yr angen amdano yn celu mesur o anwadalwch ac ansicrwydd ffydd, na all oddef hyd yn oed ofyn cwestiwn. 

Ni fyddai cyffes Cynog o nemawr gysur i mi chwaith yng ngwyneb y ‘dyfroedd mawr a’r tonau’… Ond mynnaf fod calon Duw yn ddigon mawr i’w dderbyn yntau…., os erioed y derbyniodd fi! Cenwch a chyffeswch gyfeillion, canys angau yr Eglwys fydd pan yr el yn rhy gul i’ch cynnwys.”

Dyma ran o’r drafodaeth ddiweddaraf ar ‘cristnogaeth21’, beth am ymweld a’r wefan i weld y gweddill!

Ewch i www.cristnogaeth21.org a chliciwch ar y ‘Bwrdd Clebran’

Y Parch Morris Morris

Sylw’r Mis

Oes Ddigidol Bethania

Wrth gamu mewn i flwyddyn newydd cawn hefyd gyfle i gamu mewn i bennod newydd yn ein hanes yma ym Methania…

“Yr Oes Ddigidol”!

Dros y misoedd diwethaf mae gwefan newydd Capel Bethania wedi ei chreu drwy gymorth caredig Mari Wynne Jones a Sion Ifan McKee.  Cafwyd mewnbwn gan sawl aelod a theimlwn erbyn hyn bod y wefan yn barod i’w lansio’n ffurfiol.

Cyfeiriad y wefan yw www.bethaniarhuthun.org.uk

Ar y safle cewch gyfle i bori trwy ychydig o hanesion, gweld lluniau o aelodau yn mwynhau digwyddiadau fel dramâu ac ambell daith. Cewch gyfle i weld y fersiwn ddiweddaraf o’r Bont yn ogystal â rhai o’r misoedd a fu. Cewch hefyd weld digwyddiadau a dyletswyddau’r mis (rhag ofn eich bod wedi anghofio!). Gallwch hefyd gymryd y cyfle i gysylltu â’r Gwe-Feistri gan wneud sylwadau a chynnig  awgrymiadau i ddatblygu’r safle ymhellach.

Mae hwn yn ymdrech gennym i ddefnyddio dull fodern i gysylltu â’n haelodau, yn enwedig y rhai â’u bryd ar ddefnyddio technoleg i dderbyn eu gwybodaeth yn hytrach na phapur.

Na phryderwch chwi sydd yn fwy cyfforddus â’r fersiwn bapur. Bydd Y Bont yn ei ffurf draddiodadol ar gael fel arfer.

Ond cofiwch (os cewch gyfle) ewch i’r wefan i bori a rhowch sylwdau. Yn sgîl eich mewnbwn, medrwn ddatblygu’r wefan ymhellach gan gynnwys deunydd fydd at ddant pawb!

Huw McKee

Newyddion a Chyfarchion

Llongyfarchiadau i Ffion, Min y Clwyd a’i chymar Tom ar enedigaeth eu mab bychan, Hari Richard, cyn y Nadolig a hefyd i Tudor ar ddod yn daid a Catrin yn fodryb falch iawn.

Braf deall bod Glenys Hughes, Glenfor, yn gwella ar ôl cyfnod yn yr ysbyty cyn y Nadolig. Anfonwn ein cofion atoch a gobeithio y byddwch yn cryfhau a gwella’n fuan.

Cafwyd taith gerdded lwyddiannus eto eleni pan gyfarfu dros bump ar hugain ohonom ar Ddydd Calan a chael ein harwain ar hyd fryniau Clwyd gan Eilir Edwards. Cafwyd cryn hwyl a sgwrs ar ddiwrnod hyfryd o braf. Diolch i Eilir a Sion am drefnu ar ein cyfer a’n harwain yn ddiogel o gwmpas ardal Graigfechan.

Gweler y cerddwyr brwdfrydig isod yn ffres cyn eu taith. Buasai’n lun dra gwahanol, dybiwn i, ar ôl y cerdded! 

TaithGerddedAgos

Dramau Bethania – Chwefror 2013

Cofiwch am y Dramau fydd yn cael eu cynnal y mis hwn Nos Lun, Chwefror 11 hyd at Nos Sadwrn, Chwefor 16.

Diolch i bawb sydd yn gysylltiedig â hwy ac wedi bod mor ymroddgar i sicrhau llwyddiant eto eleni. Diolch yn arbennig i Iwan Vaughan a Helen Evans a fu’n darllen a chastio dramau a hefyd i Margaret Roberts am ei gwaith diflino eto eleni.

Cofiwch wahodd perthnasau a ffrindiau i ni gael llenwi’r festri bob nos a chael llond trol o hwyl!

Bydd tocynnau ar gael o flaen llaw yn Elfair a hefyd wrth y drws ar y noson.


O Ble Daethoch Chi?

Carol Edwards

 Cefais fy ngeni yng Nghorwen a symudodd y teulu i Ddinbych pan oeddwn yn ddwy oed, pan gafodd fy nhad swydd fel postfeistr yno.  Cefais fy addysg gynradd yn yr ysgol Gymraeg yn festri Capel Mawr Dinbych (roedd fy chwaer yn un o’r disgyblion cyntaf ar ôl sefydlu’r ysgol), ond yn fy mlwyddyn olaf symudom i safle newydd Ysgol Twm o’r Nant; cryn dipyn o newid byd i ni!  Pan ddaeth yn amser dechrau ysgol uwchradd roeddwn yn un o’r rhai cyntaf o Ddinbych i allu mynychu Ysgol Glan Clwyd yn y Rhyl.

Ar ôl astudio Lefel A Bioleg, Cemeg a Ffiseg penderfynais fy mod eisiau hyfforddi fel dietegydd, a gan mai dim ond tair prifysgol ym Mhrydain oedd yn cynnig gradd mewn Maetheg ar y pryd roedd yn rhaid mynd yr holl ffordd i lawr i Brifysgol Surrey yn Guildford.  Roedd arnaf hiraeth ar y dechrau gan fy mod mor bell o adref, ond mi wnes i wneud ffrindiau gyda dwy Gymraes o’r de, a rhyngddom fe wnaethom ffurfio Cymdeithas Gymraeg a chael cryn dipyn o hwyl yn trefnu gweithgareddau megis cinio Gwyl Ddewi a bandiau Cymraeg.  Hefyd, mi wnes i fynd ambell fore Sul i’r Capel Cymraeg yn Guildford a chael croeso mawr yno.

Gweithiais mewn ysbytai yn Lerpwl, Caerdydd a Llundain fel rhan o’r cwrs, ond ar ôl graddio penderfynais nad oeddwn eisiau gweithio mewn ysbyty, er bod yn dal gennyf ddiddordeb mewn coginio bwydydd iach hyd heddiw.  Cefais swydd fel rheolwr dan hyfforddiant gydag archfarchnad Sainsburys yn Cheltenham, ond ar ôl chwech mis sylweddolais nad oeddwn am barhau gyda’r gwaith yna chwaith!

Roeddwn yn falch o ddod yn ôl adre i Ddinbych, ac yn ffodus o gael cynnig swydd yn Ysgol Glan Clwyd fel athrawes Bioleg, gan hyfforddi fel athrawes gyda Phrifysgol Bangor tra’n gweithio.  Ar ôl tair blynedd cefais swydd fel pennaeth yr adran Fioleg yn Ysgol Maes Garmon. Yn ystod y cyfnod yma mi wnes i gyfarfod Meilir a phriodi yn 1985.  Ar ôl geni Siwan ac Osian penderfynais aros adre am gyfnod, cyn dychwelyd i yn Ysgol Glan Clwyd fel athrawes Bioleg ac Iechyd a Gofal.

Tua chwe blynedd yn ôl penderfynais ei bod yn amser dilyn gyrfa wahanol unwaith eto, ac astudiais gwrs rhan amser dros ddwy flynedd i hyfforddi fel athrawes Nam ar y Golwg, gan fynd i lawr i Gaerdydd ar nifer o benwythnosau i ddysgu Braille. Rydw i rwan yn mwynhau teithio o amgylch ysgolion y sir yn ymweld â phlant sy’n ddall neu gyda golwg rhannol. ‘Dwi ddim yn meddwl y byddaf yn newid gyrfa eto yn y dyfodol agos!

CarolEdwardsAgosach

Diolch yn fawr iti am rannu dipyn o hanes dy fywyd gyda ni Carol.

Eirian Lloyd