Y Bont Ebrill 2013

 

Etifeddiaeth…

Wrthi’n byseddu eto trwy farddoniaeth Gerallt Lloyd Owen, a chael hyd i’w gerdd felys ar ‘Y Gwladwr’. Efallai mai fy ngwendid i ydyw, ond tueddaf i edrych ar y byd trwy lygaid un o ddilynwyr anheilyngaf yr Iesu, a gweld ystyr newydd mewn hen bethau o’r herwydd.

Wrth ddarllen y gerdd, gwelaf ddarlun o’r Eglwys hithau, yn enwedig Capeli syml cefn gwlad Cymru, a’r ychydig ‘styfnig sydd yn mynnu eu gwarchod…       (Mynnwch ddarllen y gerdd gyfan!)

 

‘Y mae’r goeden eleni

Yn hen, ond Derwen yw hi.

Hen dderwen a’i changhennau

Yn un cylch amdani’n cau.’

 

‘A enir yn yr anial

A dyf trwy ymdrech yn dal.’

 

‘O’r dderwen wyf fesen fach,

Mesen o un rymusach.

Bydded i mi egni hon,

Deunydd ei safiad union.’

 

Y Parch. Morris Morris

Sylw’r Mis

Pan oeddwn ar fy ngwyliau mis Awst diwethaf roeddwn mewn siop lyfrau (enfawr fel sydd yn nodweddiadol yn Texas!) fe dynnodd lyfr fy sylw gyda’r teitl ‘The Hole in Our Gospel’ wedi ei ysgrifennu gan Richard Stearns, llywydd ‘World Vision’ sef sefydliad sy’n helpu plant tlawd y trydydd byd.

Yn ei lyfr mae Richard Stearns yn gofyn y cwestiwn ‘Beth mae Duw yn ddisgwyl ohonom ?’ Cwestiwn syml ond hwyrach nad yw yr ateb mor syml a hynny fel sy’n dod yn amlwg drwy ddarllen y llyfr.

Mae Iesu Grist wedi son llawer am ddisgwyliadau Duw ohonom, ein perthynas hefo Duw a sut yr ydym i fyw ein bywydau. Mae Duw yn disgwyl mwy ohonom fel Cristion na mynd i’r capel ar y Sul ac ein gweddiau achlysurol. Mae Duw yn disgwyl ymrwymiad oes gennym, ac yn ôl Stearns mae yn galw arnom i fod bartneriaid iddo i newid y byd yn yr un mod wnaeth alw ar y deuddeg disgybl i newid y byd dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl.

Y syniad tu ôl i ‘The Hole in Our Gospel’ yw mae bod yn Gristion yn golygu mwy na cael perthynas bersonnol a thrawsffurfiol hefo Duw, mae yn golygu hefyd cael perthynas cyhoeddus a thrawsffurfiol hefo’r byd. Os nad oes gan ein ffydd bersonnol hefo Duw ddim cysylltiad hefo’r byd allanol yna mae rhywbeth ar goll yn ein ffydd. Mae hyn yn cael ei grynhoi yn Llythyr Iago Pennod 2 adnodau 14-26 ac mae adnod 17 yn dweud ‘…y mae ffydd ar ei phen ei hun, os nad oes ganddi weithredoedd yn farw.’

Bydded i ni felly ddilyn y neges yn Llythyr Iago a cheisio felly gwneud gwahanaieth er gwell i fywydau eraill drwy ein gweithredoedd.

Stephen Roberts

Newyddion a Chyfarchion

Cydymdeimlo Cydymdeimlwn fel eglwys â Iorwerth Turner sydd wedi colli ei frawd.

Ysbyty Treuliodd Trefor Jones gyfnod yn yr ysbyty yn ddiweddar gan dderbyn triniaeth.  Anfonwn ein cofion atoch gan obeithio eich bod yn gwella ac yn cryfhau erbyn hyn.

Magdalen Braf iawn oedd gweld nifer o’n hieuenctid yn cymryd rhan yn y sioe Magdalen yn Theatr John Ambrose.

Ennill cadair Llongyfarchiadau i Elan Llŷn ar ddod yn fuddugol yng nghystadleuaeth y gadair yn eisteddfod Ysgol Pen Barras am gerdd dan y teitl Gofod.

Llongyfarchiadau hefyd i holl blant ac ieuenctid Bethania ar eu llwyddiant yn Eisteddfodau Cylch a Sir yr Urdd a dymuniadau gorau i’r rhai sy’n mynd ymlaen i’r Genedlaethol yn Sir Benfro ym mis Mai.

Banc Bwyd Rhuthun Efallai eich bod yn ymwybodol fod Banc Bwyd wedi ei sefydlu yn Rhuthun i gyfarfod anghenion rhan arbennig o’n cymdeithas. Lleolir y Banc bwyd yng Nghanolfan  Awelon, Ffordd yr Ysgol a bydd yn dechrau gweithredu ar Ebrill 4. Menter gymunedol yw ac yn barod mae llawer o’n cymuned yn Rhuthun wedi gwirfoddoli i helpu mewn amrywiaeth o ffyrdd. Rydym ni ym Methania wedi penderfynu cefnogi trwy gasglu bwydydd mewn tun e.e. ffrwythau neu bysgod neu fwydydd sych e.e. grawnfwyd, reis neu basta. Mae bocs yng nghyntedd y capel i dderbyn eich rhoddion er budd y rheiny sydd mewn angen yn ein cymdeithas.

Dramâu Bethania – Chwefror 2013

Mae lluniau’r dramâu i gyd yn ein horiel luniau.

O Ble Daethoch Chi?

Margaret Roberts

Cefais fy magu ym mhentref Melin y Coed yn Nyffryn Conwy ac mae gen i atgofion melys iawn am fy mhlentyndod yng nghymdeithas glos y pentref a Chapel Bethel.

Mynychais y Gobeithlu yng ngofal y diweddar Mrs Cassie Hughes, a hithau’n ein dysgu i ganu gyda’r siart Sol-ffa ar wal y festri (sy’n dal yno heddiw 50 mlynedd yn ddiweddarach).

Bu’n brysur iawn yn ein hyfforddi yn y Gobeithlu; y Capel; yr Ysgol Sul; ar gyfer ‘Eisteddfod Tai’ y Gymdeithas; ac ar gyfer y brif Eisteddfod flynyddol. Bûm hefyd yn rhan o’r gwyliau dramâu a gynhaliwyd yn y Capel, a chofiaf am ymrwymiad Mrs Enid Roberts i’r gwyliau dramâu hynny; cyn iddi hithau ymddeol i Rhuthun a dod yn rhan o brysurdeb Capel Bethania a Gwyliau Dramâu Bethania.

Ar ôl gadael addysg yn Llanrwst a Choleg Technegol Llandrillo cefais swydd yn gwneud gwaith gweinyddol i Gyngor Sir Colwyn (yn Abergele yn gyntaf ac wedyn ym Mae Colwyn). Dyna lle roeddwn yn gweithio pan briodais â Brian a dod i fyw i Rhuthun, gan iddo gael ei eni a’i fagu yn yr ardal.

Naturiol wedyn oedd dod yn aelod o Gapel Bethania lle’r oedd ein cymdogion yn aelodau ac roedd cysylltiadau yno yn barod; heb son am gysylltiad aelod estynedig o’r teulu sef y diweddar Mr William Walter Taplin, a fu’n flaenor ym Methania.

Ar ôl i’r bechgyn (Llion ac Eilir) ddechrau ysgol cefais swydd weinyddol gydag Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Clwyd yn Rhuthun, ac erbyn hyn rwyf yn gweithio yn eu Swyddfa yn y Rhyl.

Fel gwelwch uchod am fy mhlentyndod ym Melin y Coed, dyw hi ddim yn syndod imi erbyn hyn droi mewn i “Mrs Dramâu Capel Bethania” (fel galwodd rhywun fi yn ddiweddar!). Rwyf yn dal i ymddiddori mewn dramâu ac yn mwynhau ceisio dod o hyd i ddramâu newydd nad ydi actorion Bethania wedi eu perfformio o’r blaen.

Margaret Bont

Diolch, Margaret, am erthygl ddifyr iawn.

Eirian Lloyd