Y Bont Mai 2013

 

Mater o anrhydedd…

Wrth i grefydd golli ei afael ar ein cyd-wladwyr, ac i’n Capeli lithro yn ddistaw i fro amherthnasedd, does ryfedd i rai edrych am lwybr tarw i adfer rhywfaint o’r gogoniant a fu! Y syniad diweddaraf yw i droi ein hysgolion yn faes cenhadol, gyda nifer o gynlluniau i annog eglwysi i feithrin perthynas gyda phlant a phobl ifanc, trwy gynnal gweithgareddau mewn ysgolion. Yn aml, ceir fod y gweithgarwch yn ffrwyth adain mwyaf eithafol yr eglwys, a’r syndod yw bod awdurdodau addysg yn barod i ganiatau gweithgarwch o’r fath gan fudiadau sydd eu hunain yn eithriadol gul ac anoddefgar. Pe byddem yn deall natur ein anghydffurfiaeth yn iawn, byddem yn codi mewn protest yn erbyn y fath weithgarwch, ac yn gwarchod ein hysgolion rhag eu troi yn faes cenhadol, a hynny yn amlach na pheidio yn gwbl ddiarwybod i rieni!

Nid nad ydym yn credu mewn cenhadaeth, ond bod yn rhaid i hwnnw bob amser fod yn onest a thryloyw.

Y Parch. Morris Morris

Sylw’r Mis

Roedd y Pasg eleni yn brofiad bendithiol unwaith eto i mi. Yn gyntaf ar Ddydd Gwener y Groglith cefais y pleser o wrando ar ddwy bregeth fendigedig dan ofal y Parch Gareth Edwards yn yr ŵyl bregethu yma ym Methania. Cefais gymaint o fwynhad yn gwrando ar ei lais melfedaidd a sylwais sut roedd ei natur hynaws a didwyll yn llwyddo i hoelio sylw a gwrandawiad ei gynulleidfa. Roedd gan Mr Edwards pawb mor dynn yng nghledr ei law. Gwefreiddiol.

Wedyn, fel y gŵyr rhai, i’n teulu ddechrau’r arferiad o fynd ar wyliau sgïo i’r Alpau dros wyliau’r Pasg. Aethom i Awstria eto eleni ac unwaith eto mynd ar fore Sul y Pasg i’r eglwys leol i gyd addoli. Hyn yn hytrach na rhuthro at y llethrau a mentro lawr y ‘red runs’!

Fel y profiad ym Methania ddeuddydd yng nghynt cawsom y pleser a’r boddhad llwyr o fod yn rhan o wasanaeth bendigedig, ond y tro hwn mewn eglwys ger Zell am See. Gwasanaeth a oedd yn gyfan gwbwl yn Almaeneg. Iaith estron ac annealladwy i ni, ond unwaith eto gwasanaeth hyfryd a llond addoldy o Gristnogion yn dathlu atgyfodiad ein Gwaredwr.

Braf oedd gweld yr addoldai yma mor llawn ar benwythnos mor bwysig yn ein calendr.

Brafiach fyth fuasai eu gweld yn llawn drwy gydol y flwyddyn ynte?

Huw McKee

Newyddion a Chyfarchion

Cydymdeimlo

Cydymdeimlwn fel eglwys â Beryl a Brynmor Roberts, Beryl wedi colli ei brawd, Meirion, wedi cystudd blin.

Gwella

Rydym yn falch o glywed bod Glenys Hughes, Glenfor wedi dod adref o’r ysbyty wedi codwm. Gobeithio’ch bod yn parhau i wella.

Eisteddfod yr Urdd

Pob lwc i bawb fydd yn cystadlu yn yr Eisteddfod yn Sir Benfro ddiwedd y mis. Edrychwn ymlaen i weld rhai ohonoch ar y teledu!

Dramâu Bethania – Chwefror 2013

Mae lluniau’r dramâu i gyd yn ein horiel luniau.

O Ble Daethoch Chi?

Catrin Elisabeth Hughes

Cefais fy ngeni yn ysbyty Llanelwy Mis Rhagfyr 1977, a chael magwraeth hapus iawn yn Llansannan gyda fy mrawd bach Dylan. Roedd Mam yn enedigol o Lanrhaeadr, a chartref Dad yn Nant Bleddyn, Llansannan, sydd bellach yn gartref i fy mrawd Dylan a’i wraig Siwan.

Mae gen i atgofion hapus o fynd i’r ysgol sul yn ifanc iawn, a chael cymryd rhan mewn gwasanaethau a chofio eistedd mewn sawl oedfa gyda Nain yn Capel Bethania yn y pentref.

Mynychais Ysgol Bro Aled yn Llansannan, ac treulio y ddwy flynedd olaf yn cael fy nysgu gan Iwan Vaughan Evans. Wedyn symud ymlaen i addysg ysgol uwchradd yn Ysgol y Creuddyn yn Llandudno. Ar ol gadael ysgol mi es yn fy mlaen i Coleg Ial yn Wrecsam i wneud cwrs NNEB Gofal plant. Ar ol gorffen cwrs dwy flynedd cefais fy swydd cyntaf yn ysgol gynradd Llannefydd, ac yno roeddwn am saith mlynedd gyda’r plant Meithrin. Symudais ymlaen wedyn i weithio fel arweinydd Cylch meithrin Gellifor. Penderfynais gael newid bach o weithio gyda plant ac dilyn cyfeiriad hollol wahanol a chael swydd yn Tesco yn Rhuthun am ddwy flynedd. Ond roedd fy nghalon yn dal gyda gweithio efo’r plant bach felly ar ol huna cefais swydd fel arweinydd Cylch Meithrin Rhuthun a Phwllglas.

Rwyf bellach yn gweithio yn Ysgol Twm o’r Nant yn Dinbych fel Cymhorthydd Dosbarth gyda plant Meithrin a Derbyn. Mae gweithio gyda plant yn dod a gymaint o fwynhad i mi yn enwedig wrth eu gweld yn datblygu sgiliau newydd wrth i’r flwyddyn fynd yn ei blaen.

Ar ol symud i’r ardal mi wnes i ymaelodi a chapel Bethania. Cefais alwad ffon un noson gan Bethan Tomos yn gofyn os buaswn yn cymryd rhan yn y dramau. Ar y dechrau mi wnes i wrthod, ond ar ol sidro mi ffoniais Bethan yn dol a chytuno i wneud, achos doeddwn ddim yn adnabod neb llawer ac roeddwn yn meddwl ei fod yn gyfle da i ddod i adnabod bobol. A dyna lle wnes i ddod ar draws Richard am y tro cyntaf, wrth actio gyda fo yn yr un un drama!!

Dwy flynedd yn ol mi wnes i a Richard briodi yn Bethania a chael diwrnod arbennig gyda teulu a ffrindiau. Bellach rydym wedi setlo yn Bro Deg gyda Tomos, Liam ac Eunice. Mae’r ddau yn mynychu Ysgol Pen Barras ac mi fydd Eunice yn eu dilyn ym mis Medi wrth ddechrau yn y Meithrin.

Mae symd o bentref bach yn y wlad i fyw i dref brysur yn newid byd, ond rwyf yn hapus iawn yma ac wedi gwneud gymaint o ffrindiau newydd dros y blynyddoedd, a gyda teulu Richard yn byw mor agos, rwyf yn teimlo yn gartrefol iawn.

Catrin

Diolch, Catrin, am erthygl ddifyr iawn.

Eirian Lloyd