Y Bont Medi 2013

Cofleidio chwyldro

Her barhaus yr Eglwys yw ymddihatru o’i gwaddol diwylliannol, a darganfod ffyrdd o gyfarch cenhedlaeth newydd gyda newyddion da’r Efengyl. Mae hynny yn waith anodd weithiau, gan mai creaduriaid sy’n cyfarwyddo â phatrwm ydym oll. Ond lle bu cyfle a hamdden gynt i ddatblygu bywyd ac addoliad yr eglwys yn raddol a phwyllog, bellach fe’n wynebir â’r her o gofleidio chwyldro, neu farw.

Gwnaed ymdrech eisoes yn ein hoedfaon i bontio dau ddiwylliant, ond dichon fod mwy eto i’w wneud cyn y medrwn argyhoeddi ein hieuenctid ein bod yn eu cymryd o ddifri, ac am roi iddynt le gwirioneddol o fewn teulu’r ffydd. Ond deallwn hyn, nad chwiw ffasiwn mo’n hymdrech, ond ymgais ostyngedig i anrhydeddu galwad Crist arnom, ac i ddod â’r newydd da i glyw a bywydau’r rhai sydd â chystal hawl â ni, ar freintiau’r ffydd.

Y Parch Morris Morris

Sylw’r Mis

Perygl ! 

Sut ‘da chi’n ymateb pan ‘da chi’n gweld arwydd o berygl?  ‘Da ni yn aml iawn yn gweld rhybudd o berygl o’n blaen ar y ffordd fawr – a dyna arwydd i ni gymryd gofal wrth yrru’r car, reidio beic, cadw rheolaeth ar y beic modur, a hefyd cymryd gofal ar y palmant.

Mae nhw’n dweud wrtha i fod gan y corff reddf i’w baratoi i redeg i ffwrdd oddi wrth berygl. Rhywbeth i wneud hefo llif rhyw chwarren sy’n arllwys cemegyn i’r gwaed ac yn galluogi person i’w gwadnu hi o na o olwg perygl. Yr un reddf ag anifail. Wrth gwrs gall y gwrthwyneb ddigwydd, a rhywun yn rhewi’n stond yn y fan a’r lle hyd i’r perygl fynd heibio, gobeithio.  Ond pan welais yr arwydd annisgwyl yma yn Eglwys Sant Pedr, Rhuthun,

Danger

Holy Spirit

At Work

ychydig ar ôl y Sulgwyn, sefais yn ôl mewn tipyn o syndod – ond nid mewn dychryn.

Byddaf yn troi i mewn i eglwys Sant Pedr yn aml i amsugno’r awyrgylch dawel ddedwydd sydd yno. Wrth droi o’r eglwys meddyliais lawer am yr arwydd – yr arwydd annisgwyl.

Y mae rhywun, yn naturiol felly yn credu for Yr Ysbryd Glân ar waith o fewn muriau tai o addoliad, onid dyna arwyddocâd yr anogaeth i ni wylio ein traed a’n cerddediad pan awn i dŷ Duw?

Yna trodd fy meddwl at hanesion o ymyrraeth yr Ysbryd Glân ym mywyd pobl, e.e. bywyd y disgyblion ar ôl y Pentecost, a bywyd Saul o Tarsus, a fedyddiwyd yn Paul yr Apostol wedi i’r Ysbryd Glân ymyrryd yn ei fywyd.

Yna meddwl pryd yn ein hanes ni, fel cenedl, y cydnabuwyd fod yr Ysbryd Glân ar waith yn ein tir? Yn siŵr yn ystod y diwygiadau oes John Elias ac Evan Roberts a thystiwyd, wedi’r troedigaethau dan ddylanwad y diwygwyr, a thywalltiadau o’r ysbryd, na fu bywydau rhai pobl byth yr un fath wedyn.

Beth fyddai eich ymateb chi tybed i’r arwydd a welais i yn yr Eglwys ar sgwâr Rhuthun y diwrnod hwnnw? Yn sicr yr ydym yn disgwyl dylanwad yr ysbryd dwyfol a fewn ein heglwysi – ond be ‘di’r perygl?  Hwyrach y perygl ydi, o gael ein meddiannu gan yr ysbryd dwyfol, na fyddwn ninnau chwaith yr un fath wedyn.  Byddem yn bobl newydd yn gorffwys ar nerth y dwyfol, a’n meddyliau a’n chantau seciwlar, yn cael eu chwalu, a ninnau’n cael ein meddiannu gan feddyliau glân, pur a gobeithiol, er cyni, a chyfyngderau ein bywyd yn y ganrif yma.  Ond rhaid cofio hefyd bod yr Ysbryd yna i ni ar bob ffordd a gymerwn ni mewn bywyd, fel y digwyddodd i’r Apostol Paul.

Wrth gloi fy myfyrdod, cofiaf bregeth Y Parchedig Gareth Edwards yng nghapel Bethania, Rhuthun, fore’r Sulgwyn eleni, a’i ddatganiad nad oedd drysau caeedig yn rhwystr o unrhyw fath i’r Ysbryd Glân.

Ymyrryd â’r enaid, gwraidd ein bod, y mae’r ysbryd, ac allwn i ddim ymateb i’r arwydd a welais i yn yr eglwys, yn yr un modd â’r ffordd yr ymatebwn i’r arwyddion o beryglon ar y ffordd fawr.

Yma mae dirgelion ein ffydd.

Margaret Jean Jones

Newyddion a Chyfarchion

 

Cydymdeimlo – Rydym yn cydymdeimlo â Morfudd Pierce sydd wedi colli ei chwaer cyn yr haf.

Cerddwn Ymlaen – Llongyfarchiadau unwaith eto i Rhys ac Osian Meirion ar gyflawni’r gamp anhygoel o gerdded o Abertawe i Gaernarfon er budd Ambiwlans Awyr Cymru.

Eisteddfod Genedlaethol – Llongyfarchiadau i bawb gafodd lwyddiant yn Ninbych ym mis Awst. Robat Arwyn a’r côr ar y cyngerdd agoriadol arbennig, Beryl Lloyd Roberts a chôr yr Eisteddfod, Hanna Medi’n dawnsio, Elan Meirion ar yr unawd o sioe gerdd, Rhian Iorwerth a Pharti Marchan, Sion a Gruffudd yn Brassacino a phawb fu’n cymryd rhan mewn partïon a chorau ac yn yr amrywiol gyngherddau a chyflwyniadau. Braf iawn oedd gweld cymaint o’n haelodau’n dangos eu doniau.

Llongyfarchiadau i Dafydd Gwynedd wedi graddio o Brifysgol Aberystwyth a Leah Hughes wedi graddio o Brifysgol Caerdydd. Hefyd i Sion, Dyfan a Harri ar eu llwyddiant yn eu harholiadau TGAU ac Emyr Gwynedd yn ei arholiadau Lefel A. Dymuniadau gorau i bob un ohonoch wrth barhau â’ch addysg neu fentro i fyd gwaith.

Dyweddio – Dymuniadau gorau i Leah Telpyn ar ei dyweddïad efo Dan yng Nghaerdydd.

Dydd Gweddi Byd Eang y Chwiorydd – Cynhelir cynhadledd undydd (Gogledd Cymru) ym Methania ar ddydd Mercher, Tachwedd 13 rhwng 10 y bore a 3 y prynhawn.

O Ble Daethoch Chi?

Glenda Morris

Cefais fy magu ym mhentref bach Edern ar arfordir ogleddol Pen Llŷn yn y dyddiau pan roedd “cymeriadau” yn britho cefn gwlad.

Roeddwn yn ffodus nid yn unig i gael aelwyd gynnes ac hapus ond i gael Nain a Taid yn byw dros glawdd yr ardd gefn a llwybr beics hwylus yn gylch cyffrous o’r nail dŷ i’r llall a digon o le i guddio!  Pentref a chapel, siop, cigydd ac ysgol a lle roedd pawb yn adnabod ei gilydd ac hynny yn Gymraeg !

Bob haf roedd Mam, Dad, Lynwen fy chwaer a minnau yn symud i dreulio deg wythnos yn “y cwt” er mwyn i ni gael “pres visitors”. Melys yw’r atgofion o dreulio hafau plentyndod dan do sinc ym mhen draw’r ardd o dan ganghenau y goeden afalau a chael rhyddid i fynd i Lan y Môr Bwlch neu Tŷ Coch bob diwrnod.

Roedd y Capel o fewn canllath i’n tŷ ni a chofiaf oedfa, Ysgol Sul a Band of Hope fel rhan allweddol o’m plentyndod.

Cartref, teulu a bywyd pentref dyna pwy ydwyf, daearyddiaeth  a chronoleg yw y gweddill.

Fe es i Ysgol Gynradd Edern, Ysgol Uwchradd Botwnnog ac i Goleg Diwinyddol Aberystwyth gan raddio mewn Diwinyddiaeth. Troi wedyn i ddilyn gyrfa fel nyrs (RGN) yn Ysbyty Bronglais Aberystwyth am chwe mlynedd cyn symud i Ddyffryn Clwyd a newid cyfeiriad i fod yn athrawes gynradd.

Wrth gwrs yn y cyfamser cyfarfod â Morris oedd wedi dod i fyw i Edern ac yn fab i’n Gweinidog newydd.

Ei weld am y tro cyntaf yn “reidio ei feic” fel mellten drwy’r pentref ac yn deall dim o’i acen ! Dyweddïo pan yn 17 a phriodi yn syth ar ôl gorffen coleg a hynny 25 o flynyddoedd yn ôl i’r mis yma.

Rwyf bellach yn fam hapus i Esyllt sy’n 20 oed, Llŷr sy’n 17 ac Elan sy’n 11 oed ac yn athrawes Meithrin a Derbyn yn Ysgol Gymraeg y Gwernant, Llangollen.

Yng nghanol y prysurdeb i gyd mae’n braf troi eto am Lŷn …

“lle i enaid gael llonydd”.

Glenda

Diolch, Glenda, am erthygl ddifyr iawn.

Eirian Lloyd