Y Bont Mehefin 2013

 

Newidiadau 

Mae llawer carreg filltir bwysig yn ein bywyd fel teulu ar hyn o bryd, fel Elan yn anelu at Frynhyfryd, a ninnau yn torri cyswllt 17 o flynyddoedd gydag Ysgol Pen Barras. Un arall wedyn oedd Llyr yn dechrau gyrru car, gan achosi i’m gwallt deneuo yn gynt hyd yn oed nag arfer! Ond y trymaf ohonynt fydd yr ail Sul yng Ngorffennaf, pan y byddaf yn clywed Elan yn dweud adnod yn sêt fawr Bethania am y tro olaf.

Ond y mae i bob diwedd, ei ddechrau cyfatebol, a chau un bennod yn ein bywydau yn rhoi cyfle cyffrous i agor un arall, gyda holl bosibiliadau hynny. Mae hanes ein bywydau yn amrywiol a heriol, ac un ffordd o ddygymod yw i groesawu pob newid, a’i ystyried yn gyfle. Ffordd arall, yw i wybod fod Duw gyda ni drwy’r cyfan oll….Felly…..

 ‘Bring it on!’ 

Y Parch. Morris Morris

Sylw’r Mis

“Mehefin wedi cyrraedd a’r caeau’n dryfrith gan lygad dydd a blodau’r ymenyn … “ (dyfyniad o ‘Yn ôl i Leifior’ – Islwyn Ffowc Ellis).  Ydy, mae Mehefin a thymor yr haf wedi dod o’r diwedd a nifer ohonom eisiau i’r tymor hwn barhau am hir fel yn y gân: “O, na fyddai’n haf o hyd …”  Ddechrau’r mis roedd hi’n ddiwedd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a ninnau’n cael ein hatgoffa am arwyddair y mudiad: “Byddaf ffyddlon i Gymru, i gyd-ddyn, i Grist.”  Mae’r arwyddair triphlyg hwn yn gymwys ar gyfer pawb ohonom ninnau hefyd.

Ffyddlondeb i Gymru – “Y winllan hon a roed i’n gofal ni …” ydy Cymru, yn ôl Lewis Valentine, a dylem ymfalchïo yn ein gwlad, ein hiaith a’n traddodiad.

Ffyddlondeb i gyd-ddyn – “Rho i mi nerth i wneud fy rhan,  I gario baich fy mrawd …”

Dyna neges yr emynydd, ac, ymdrechwn ninnau hefyd i wneud ein rhan.

Ffyddlondeb i Grist – Dyma’r arwyddair pwysicaf o’r tri – Crist – person i’w edmygu, yn esiampl i’w ddilyn, yn athro i’n dysgu a gwron i’w efelychu.  Ar ddechrau’r erthygl fer hon soniais am y blodau ym mis Mehefin.  Un o flodau harddaf yn ein gerddi yr adeg hon o’r flwyddyn ydy’r rhosyn.  I Ann Griffiths y rhosyn harddaf oedd yr Iesu, ac, mae’r emyn yn dangos hynny i ninnau hefyd:

“Rhosyn Saron yw ei enw, Gwyn a gwridog teg o bryd …”

Beth am i ni gyd gnoi cil ar y sylwadau hyn yn ystod y mis hyfryd hwn?

Eirlys Wynn Tomos

Newyddion a Chyfarchion

Gwella Rydym yn falch o glywed bod Trefor Jones, Plas Newydd wedi dod adref o’r ysbyty wedi cael triniaeth ac yn dod yn ei flaen yn dda. Gobeithio’ch bod yn parhau i wella.

Eisteddfod yr Urdd Llongyfarchiadau calonnog i bawb fu’n cymryd rhan yn yr Eisteddfod ym Moncath – rydym yn falch iawn o lwyddiant bob un ohonoch.

Llongyfarchiadau i’r plant fu wrthi’n paratoi gwaith cwrs ar gyfer yr Henaduriaeth.  Roedd canmol mawr ar eu gwaith a byddwn yn ei arddangos yn y festri i bawb gael ei weld.

Priodas Dymuniadau gorau i Carwyn Dafydd ar ei briodas â Pratibha Joseph yn y Fenni ar Fehefin 1. Gobeithio y byddant yn hapus yn eu cartref newydd yn Llanharan.

Pererindod

Bydd y Bererindod eleni ar ddydd Sul Gorffennaf 14 yn ymweld â Chapel Salem ac Eglwys Llandanwg yn Nyffryn Ardudwy ac efallai’r Las Ynys.  Gobeithiwn alw i weld yr eglwys newydd yn y Bala ar y ffordd cyn cael picnic i ginio ac yna aros am swper ar y ffordd adre.

Olwen a Dei Williams fydd yn trefnu eleni ac yn casglu’r enwau felly cysylltwch â nhw i archebu lle.  Y rhif i gysylltu ag Olwen a Dei Williams ydy 705216 a diolch o galon i chi’ch dau am gytuno i drefnu’r daith ar ein rhan.

Pos i’r Plant

 (gan ddiolch i Eirlys Wynn Tomos)

 

Llythyren gyntaf y mis hwn ydy “M”

Mae yna nifer o enwau yn y Beibl yn dechrau gyda’r llythyren “M”.  Beth am i chi chwilio amdanynt a rhoi eich rhestr i’ch athrawon yn yr Ysgol Sul. Fe wnawn gyhoeddi nifer fydd ar eich rhestr yn y rhifyn nesaf o’r Bont.

Hwyl ar y Chwilio!

 

Cymdeithas Bethania

Mae dyddiad cyfarfod mis Mehefin i ymweld â Siwgr a Sbeis wedi newid i nos Fercher, Mehefin 12.

Byddwn yn cychwyn o Fethania am 6.15 o’r gloch.  Am 7 o’r gloch cael bwffe neu ‘hog roast’ yn Siwgr a Sbeis.  Yn dilyn cawn sgwrs ar waith y becws (ni fydd y becws ar agor).  Bydd stondin o ddanteithion ar gael i’w prynu ar ddiwedd y noson.  Cost y noson yw £10.

Os ydych am ddod ar y trip a fuasech yn rhoi eich enw ar y rhestr yng nghyntedd y capel neu i Olwen (ffôn: 705216) erbyn dydd Sul, Mehefin 2 os gwelwch yn dda.  Pan fyddwn yn gwybod pwy sy’n dod fe wnawn drefnu cludiant i bawb.

Diolch yn fawr i bawb a gefnogodd gyfarfodydd y Gymdeithas yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.  Gobeithio y gwelir mwy ohonoch yn cefnogi cyfarfodydd y flwyddyn nesaf.

O Ble Daethoch Chi?

Iona McKee

Treuliais bum mlynedd cyntaf fy mywyd mewn bwthyn bychan yn Bodffari. Adeiladodd fy nhad dy newydd i’r teulu bach yn Llandyrnog a symudon ni’n pump i fyw i Bodfan gan fynychu Ysgol Twm o’r Nant yn Ninbych. Bum yn crafu ‘mhen gan geisio cofio am rai o’r uchafbwyntiau yno. Cawsom drip ysgol oedd yn dilyn taith yr Afon Glwyd, gan fwyta ein picnic o dan y coed yn ymyl y parc yn Llanelwy. Mae gen i go’ cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn y Barri. Hefyd gallaf gofio cerdded o’r ysgol i Groes er mwyn cael te parti ffarwelio a’r ysgol yn nhy’r brifathrawes sef Miss Kate Davies gan chwarae rownderi yn y cae cyfagos. Cawsom sialens a chael ein noddi i weld pwy fedrai ddysgu’r mwyaf o ddiarhebion!!

Roeddem fel teulu yn mynychu Capel y Dyffryn ac fe chwaraeodd y gymdeithas arbennig honno ran bwysig iawn yn fy mywyd. Cefais fy annog i chwarae’r piano yn yr Ysgol Sul pan oeddwn yn yr Ysgol Gynradd ac yna’r organ yn yr oedfaon. Roedd criw ohonom wrth ein boddau yn mynd i’r ysgol sul a chael trafodaeth a sgwrs am bob math o bethau gyda gwahanol athrawon.

Es ymlaen i Ysgol Glan Clwyd gan ehangu’r cylch ffrindiau.Cefais yr anrhydedd o ganu yng nghorau Gilmor Griffiths a Vera Savage ac mae gen i atgofion melys am ambell daith gyda’r ysgol. Cefais y fraint o fynd i Rwsia ar drip hanes bythgofiadwy. Rwyf hefyd yn cofio’r wefr a gafwyd wrth gymryd rhan yn y sioe gerdd ‘Joseff’.

Ar ol gadael ysgol treuliais dair mlynedd hapus iawn ym Mhrifysgol Bangor gan astudio Cymraeg a Chymdeithaseg. Wedi hynny, penderfynais y buaswn yn dilyn gyrfa fel athrawes gynradd. Es i Ysgol Llanrug a dychwelyd fel myfyrwraig i Ysgol Twm o’r Nant, profiad go ryfedd gan fy mod wedi bod yn ddisgybl yno!! Rwy’n cofio meddwl fod  y neuadd, a fu unwaith yn enfawr yn fy ngolwg, erbyn hyn wedi crebachu!

Derbyniais fy swydd gyntaf yn Ysgol Bro Eirwg yn Llanrhymni a chefais flwyddyn o fwynhau bywyd yn y ddinas. Erbyn hynny roeddwn wedi cyfarfod Huw a gan ei fod yntau’n gweithio yng Nghaergrawnt, roeddem yn teithio cryn dipyn ar benwythnosau! Y flwyddyn ganlynol symudodd Huw a finne i Ogledd Cymru i fyw yn yr Wyddgrug. Cefais swydd yn Ysgol Croes Atti, Y Fflint gan fwynhau wyth mlynedd yn dysgu mewn Ysgol Gymraeg lle roedd naw deg a naw y cant o’r plant yn siarad Saesneg gartref.

Yn  1995 daethom i  ymgartrefu yn Llwyn Derw, Llanbedr gan fagu tri o hogiau a chael y fraint a’r pleser o fod  yn aelodau o gor Rhuthun a Chapel Bethania.  Erbyn hyn mae Sion yn 16, Gruffudd yn 14, ac Owain yn 11 oed. Rydw i wrth fy modd yn dysgu plant 6-8 yn Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd. Rydym fel teulu yn lwcus dros ben fod gennym gymdeithas mor glos a theulu wrth law. Er fod Huw yn gweithio yn Wolverhampton ar hyn o bryd, mae wrth ei fodd yn dychwelyd ar benwythnosau i fwrlwm prysur ac agosatrwydd pobl  Dyffryn Clwyd.

Iona

Diolch, Iona, am erthygl ddifyr iawn.

Eirian Lloyd