Y Bont Rhagfyr 2013 ac Ionawr 2014

Nadolig Llawen

Rydym ar drothwy ‘Dolig arall, a’r holl baratoadau yn mynd rhagddynt ers misoedd. Eleni, bu hir ddisgwyl i hysbysebion y siopau mawr ymddangos ar y teledu, gan fod y rheini bellach yn fwy rhan o’r ŵyl na hen garolau’r plygain gynt! Clywsom hefyd am drasiedi’r storm enfawr a rwygodd drwy’r Phillipines, i’n hatgoffa eto o’n braint i gael byw mewn gwlad mor dawel ac mor dlos. Y ‘Dolig hwn eto, mi fydd poen ag unigrwydd ger y drws, wrth i ninnau ddathlu geni Ceidwad y byd.

Mae’n ymddangos y bydd llawer cwestiwn i’w ateb yn y dydd ‘y cawn Ei weled fel y mae’, ond efallai y bydd yr olwg arno yn difa’r cwestiynau i gyd, wrth i ryfeddod y wyrth ddistewi pob cynnwrf,

‘…mawr ym Methlem a Chalfaria,

          Mawr yn dod i’r lan o’r bedd:

     Mawr iawn fydd, Ef ryw ddydd

      Pan ddatguddir pethau cudd.’

Y Parch Morris Morris

Sylw’r Mis

Taith yr Urdd i Batagonia

Pan glywais fod cyfle i mi fynd ar daith i Batagonia a threulio pythefnos yno, roeddwn yn hynod o gyffrous. Roeddwn wir eisiau’r profiad o fynd yno, a siarad efo pobl Cymraeg yr ochr arall i’r byd. Pan gefais y llythyr yn fy llongyfarch ar gael fy newis, roeddwn mor hapus. Roeddwn yn gwybod y byddai’n brofiad a hanner cael mynd i Batagonia, ac yn sylweddoli mod i’n lwcus iawn  – ddim pawb sy’n cael cyfle fel hyn. 

Fel daeth yr amser yn agosach, roeddwn yn mynd yn fwy a mwy cyffrous bob dydd, ac eto ychydig yn nerfus o deithio mor bell efo criw o bobl nad oeddwn yn eu hadnabod yn dda iawn.  Ond bu’r profiad yn well o bell ffordd na’r hyn roeddwn wedi’i ddisgwyl. 

Roedd y daith yn anhygoel o’r dechrau i’r diwedd, a phob un gweithgaredd oedd wedi’i threfnu ar ein cyfer yn fythgofiadwy.   Bob dydd roeddem yn cael gwneud rhywbeth gwahanol fel gweithio’n wirfoddol mewn ysgolion Cymraeg yn Esquel a Threlew, cyfarfod myfyrwyr yng Ngholeg Camwy ac ymweld â chartref i’r henoed. 

Hefyd cawsom ddigon o gyfle i deithio o gwmpas i weld lleoedd pwysig yn hanes y wlad, mynd i rafftio dŵr gwyn, gweld y pengwiniaid yn Punta Tombo a phrofi ambell asado a the mate. 

I mi, roedd y daith i gyd yn anghredadwy, ond rydw’n meddwl mai fy uchafbwynt oedd canu ‘Byw fyddi Nant Gwrtheyrn’ ar y llwyfan yn Eisteddfod del Chubut. 

Gan mai ni oedd yn cloi’r Eisteddfod ac mai dyma’r tro olaf y byddem yn canu fel côr efo’n gilydd, roedd pawb yn trïo’u gorau glas. 

Roedd cystadlu mewn Eisteddfod a chlywed y Gymraeg yn cael ei siarad mor bell o Gymru yn brofiad rhyfedd iawn, ac yn sicr yn un y byddai’n trysori am byth. 

Guto Dafydd Jones

Cor

Diolch yn fawr i ti am rannu hanes gyda ni Guto.

Newyddion a Chyfarchion

Penblwydd Hapus – Dymuniadau gorau i Eirlys Lloyd, Treddol, fydd yn dathlu ei phenblwydd yn 90 yn ystod y mis. 

Llongyfarchiadau i Elen a Daniel Lloyd ar enedigaeth eu mab bychan, Ted, ac wrth gwrs i Dei ac Olwen ar ddod yn daid a nain unwaith eto.

Croeso cynnes i Mr a Mrs Glyn Jones sydd wedi dod i fyw i Stryd y Brython o Amlwch. Rydym wedi arfer eu gweld ym Methania gyda’r wyrion, Ben, Josh ac Iwan. Gobeithio y byddwch yn ymgartrefu yma yn ein plith.

Cartref newydd – Yn yr un modd dymuniadau gorau i Gwynn a Rhian Jones yn eu cartref newydd hwythau yn Nhan y Castell.

Apêl Plant Mewn Angen – Diolch o galon i Non a Hedd ap Emlyn am eu gwaith unwaith eto’n trefnu Penwythnos y Plant. Codwyd ychydig dros £350 ar gyfer Apêl Plant Mewn Angen a llwyddwyd i lenwi 96 o focsys esgidiau i’w hanfon at blant anghenus. Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth a charedigrwydd pawb a gyfrannodd mewn unrhyw fodd at geisio lleddfu rhywfaint ar galedi rhai o blant y byd.

Cyngerdd Nadolig yng Nghapel Bethania nos Sul Rhagfyr 22 am 5.30. Cyngerdd i godi arian at daith yr Urdd Sion Ifan McKee i Patagonia 2014.

Eitemau gan Rhys Meirion, Robat Arwyn, Eilir Edwards, Brasaccino a thalentau ifanc.

Pris mynediad £5 i oedolion a £2 i blant.

Operation Christmas Child

Mae tua chant o focsys wedi mynd o Fethania at blant anghenus drwy gyfrwng Operation Christmas Child eleni. Er 1990, mae mwy na 100 miliwn o blant o dros 130 o wledydd wedi derbyn rhodd o focs esgidiau. Mae tua miliwn o focsys yn mynd o Brydain bob blwyddyn!

Mae pob bocs esgidiau’n dod â llawenydd, gobaith a gwên i blentyn sy’n dioddef yn sgîl tlodi, trychineb, haint neu ryfel. Nid yn unig hynny, ond mae pob bocs esgidiau’n rhodd sy’n cael ei chyflwyno i blentyn fel symbol o wir ystyr y Nadolig, o rodd ddiamod Duw i ni fel dynoliaeth, sef genedigaeth ei Fab, Iesu Grist.

Dyma rai ffigurau diddorol ar gyfer y llynedd:

  • 983,934 o focsys esgidiau yn mynd o Brydain at blant mewn gwledydd tramor
  • 12,100 o eglwysi, ysgolion a grwpiau cymunedol yn cymryd rhan yn y cynllun
  • 9,000+ o wirfoddolwyr yn cynorthwyo i gasglu, paratoi ac archwilio’r bocsys
  • 150+ o ganolfannau ar draws Prydain yn storio ac yn prosesu’r bocsys
  • Plant mewn 15 o wledydd yn derbyn y bocsys.

Mae pob plentyn sy’n derbyn bocs yn gwybod ei fod yn blentyn arbennig a bod Duw a ni yn ei garu.

Erbyn hyn, mae cynllun y bocsys esgidiau ar waith mewn nifer o wledydd ar draws y byd a’r llynedd casglwyd y bocsys canlynol: Yr Unol Daleithiau (6,549,826), Prydain (983,934), Canada (662,312), Yr Almaen (490,868), Awstralia (308,263), Sbaen (20,132), Ffindir (19,925), Siapan (3,800).

Mae hyn yn golygu bod dros 9 miliwn o focsys esgidiau wedi cael eu dosbarthu y llynedd.

Diolch i bawb a fu’n rhan o’r gwaith rhagorol hwn.

Gŵyl Ddramâu  Bethania 2014

Nos Lun 24ain Chwefror, 2014 i Nos Sadwrn 1af o Fawrth, 2014

Mae’r gwaith o ddarllen a chastio dramâu ar gyfer yr Ŵyl Ddramâu wedi cychwyn unwaith eto.  Er mwyn hwyluso’r gwaith i Iwan (ac i arbed trafferth ddechrau’r  flwyddyn)  erfyniaf arnoch i roi gwybod i Iwan heddiw! (ar 704162) os na fedrwch chi gymryd rhan yn yr ŵyl.  Os na fydd yn clywed gan y rhai sydd arfer perfformio, bydd yn cymryd yn ganiataol eich bod ar gael i actio! 

Gwnaf apêl hefyd, ar i unrhyw un sydd heb gymryd rhan yn y dramâu yn y blynyddoedd diwethaf  i gysylltu os hoffech ymuno â ni yn hwyl y dramâu (boed o ar y llwyfan neu du ôl i’r llenni).

Diolch yn fawr iawn ichi i gyd am eich cydweithrediad.

Margaret Roberts (705604) (roberts@brimarlli.wanadoo.co.uk)

O Ble Daethoch Chi?

Non ap Emlyn

Maen nhw’n dweud bod Cardis yn ofalus iawn gyda’u harian! Dw i’n cofio gweld rhaglen deledu unwaith oedd yn sôn am yr ymfudo o Geredigion i Ohio yn ôl yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac un Americanwr yn dweud,

“When a Cardi gets hold of a dollar, it goes out of circulation!”

Wn i ddim am hynny – ond dw i’n falch iawn o gydnabod mai Cardi ydw i. Ces i fy magu yng nghanol pobl hynaws, agos-atoch chi mewn pentref bach o’r enw Aberarth, tua milltir i’r gogledd o Aberaeron a thua 14 milltir i’r de o Aberystwyth.

Mae’r pentref wedi ei leoli ar lan y môr ac roedd ein tŷ ni tua 200 llath o’r môr. O’r lolfa, roedd gennyn ni olygfa fendigedig o Fae Ceredigion a chredech chi byth pa mor fendigedig oedd y machlud haul ar noson braf o haf! Anhygoel!

Roedd y môr yn bwysig iawn i fywyd y pentref oherwydd roedd gan bob teulu, bron, gysylltiad uniongyrchol ag e. Roedd fy nhad-cu i’n gapten ar y môr a thri o fy ewythredd yn gweithio ar longau hefyd. Capten Evans (Yncl Johnny i ni!) oedd ein cymydog agosaf ac roedd nifer o gapteiniaid eraill yn byw yno hefyd. Mae enwau’r tai hyd heddiw yn tystio i’r dreftadaeth forwrol – Colombo, Greenland a Messina i enwi ond rhai!

Oedd, roedd e’n bentref arbennig iawn ac yno y cafodd fy chwaer, Barbara, a fi ein magu.

Ar ôl gadael ysgol gynradd Aberarth, sydd bellach wedi diflannu, yn anffodus, euthum i ysgol uwchradd Aberaeron – dyddiau hapus! – ac oddi yno euthum i’r brifysgol yn Aberystwyth i astudio Cymraeg a gwneud gradd uwch a chymhwyster dysgu. 

Symud i’r gogledd wedyn i gael fy swydd ddysgu gyntaf yn Ysgol Dewi Sant, Wrecsam – gwahanol iawn i ysgol Aberaeron!! – cyn symud yn bennaeth adran yn Llannerch Banna – Penley. Roedd hwn yn gyfnod hapus iawn. Doedd dim llawer o Gymry yn yr ysgol ond roedd y plant yn awyddus iawn i ddysgu’r iaith.

Oddi yno, mynd i ddarlithio yn Athrofa Gogledd-ddwyrain Cymru (Prifysgol Glyndŵr heddiw) ac aros yno nes geni Manon a Lleuwen. O, ie, anghofiais i sôn i mi gyfarfod â Hedd a’i briodi, tra oeddwn i’n byw yn ardal Wrecsam. Dw i bellach yn gweithio’n llawn amser yn creu deunyddiau addysgol i Lywodraeth Cymru ac yn dysgu Cymraeg i Oedolion.

Symudon ni fel teulu i Ruthun pan oedd y merched tua 5 oed er mwyn eu magu mewn awyrgylch Cymraeg ac yng nghanol harddwch Dyffryn Clwyd – a dyna ni! Fel mae Dafydd Iwan yn dweud, “Dan ni yma o hyd!”

Mae’n ardal braf, fel y gwyddoch i gyd – ond rhaid dweud bod yna hiraeth weithiau i ddychwelyd am gyfnod i Wlad y Cardis -“i fynd am wâc fach rownd y pentre!”

Non

Diolch yn fawr i ti am rannu hanes dy fywyd gyda ni Non