Y Bont Chwefror 2014

Realiti

Un o ddyletswyddau cynnar y flwyddyn newydd fydd paratoi’r Adroddiadau Blynyddol ar gyfer deg eglwys Bro Rhuthun, a thybed beth ddengys yr adroddiadau hynny eleni? Gŵyr y mwyaf praff yn ein plith fod cyfnod yr enwadau anghydffurfiol yn dod i ben, ac nad oes dim dynol a ellid ei wneud i’w hachub. Aeth y bwlch diwylliannol a syniadol rhyngom â’n cymdeithas mor eang fel nad oes modd ei bontio trwy’r newidiadau pitw hynny sy’n cymryd brwydr lew ac amser maith i’w gweithredu. Yr wyf yn taer obeithio y pery ambell gapel tra byddaf fi, am mai trwy eu diwylliant a’u bywyd yr wyf yn darganfod cadernid fy mywyd, a pherthynas fyw â’r hyn a fu. Ond gwn fy mod mewn lleiafrif sy’n prysur ddiflannu.

Daeth yn amser i gydnabod nad yw’r ‘profiad cyfun’ bellach yn apelio mewn crefydd, nac mewn sawl cylch arall, ac mai ofer yw dwrdio pobl am beidio dod i’r capel, gan i’r lle a’r iaith, yr awyrgylch a’r elitaeth foesol ei wneud yn lle cwbl anneniadol i lawer. Tybed nad yw’n bryd cynnal sgwrs i weld a oes dyfodol i gapel yng nghenhedlaeth ein plant, er y bydd yn sgwrs anodd iawn i mi?

Y Parch Morris Morris

Sylw’r Mis

Clirio

Dim ond un adduned flwyddyn newydd nes i eleni sef chwynu’r tŷ o’r geriach di-angen a di-bwrpas sy’n tagu pob drôr a chwpwrdd. Cymrwch y drôr bach yn y gegin. Plis rhywun – cymrwch o, sortiwch o a llithrwch o’n ôl i’w le yn daclus a threfnus. Ar hyn o bryd mae o’n gartref clyd i:

  • 4 allen key IKEA
  • goriadau sy’n dadgloi drysau dirgel ar hyd a lled y wlad
  • llinyn sy’n rhy fyr i fod o ddefnydd i unrhyw un
  • 6 beiro sych
  • 12 llwy Calpol
  • paced gwag o blu tac
  • 1 chopstick

Felly mae’r cwbwl lot am gael fflich yn ogystal â llyfrau fydd byth yn cael eu darllen, perlysiau sychion sy’n ddigon hen i serennu ar yr Antiques Roadshow, sanau di-gymar, tupperware di-gaead a hen rifynnau o’r Bont . . .

Rydan ni gyd yn euog o fod yn berchen ar ormod. Maen nhw’n dweud bod cael gwared o eiddo di-angen yn peri inni feddwl yn gliriach, creu ymdeimlad o fod mewn rheolaeth a lleihau stress.  Fe alla i ddeall hynny. Pan symudon ni o’n tŷ bach teras ym Mangor i Erw Goch roedd y dyddiad cyfnewid tai yr union yr un dyddiad â ‘diw det’ Cadi, ein merch ieuengaf. 

Felly mis cyn ‘y dyddiad mawr’ dyma fynd ati i bacio a storio ein pethau gan adael dim ond hanfodion bywyd. Roedd yn brofiad rhyfeddol o braf. Yn sydyn roeddwn yn teimlo’n ysgafn a di-faich, oedd yn ddipyn o gamp  o ystyried mod i’n disgwyl babi 9lb12. Gyda llaw, nes i ddim rhoi genedigaeth a symud tŷ ar yr yn diwrnod. Yn lwcus i mi, pethau digon anwadal ydi babis a’r farchnad dai felly ddigwyddodd yr un o’r ddau ar ‘y diwrnod mawr’ yn y diwedd.

Wedi inni symud, mi benderfynais nad oeddwn am orlenwi ein tŷ newydd. Na, roedd yn mynd i fod yn hafan heddychlon o drefn a thaclusrwydd. Ond dyma ni, bedair mlynedd yn ddiweddarach ac mae’r tŷ dan ei sang. Ond fydd o ddim am lawer hirach, achos mae adduned 2014 ar waith. Pasiwch y bagiau bin a thaflwch ddrysau’r siopau elusen yn agored led y pen achos dwi ar fy ffordd! 

Llinos Gerallt

Newyddion a Chyfarchion

Diolch i Sion Ifan McKee am drefnu cyngerdd gwerth chweil ar y nos Sul cyn y Nadolig. Does gennym ni dalentau di-ri yma ym Methania? Pob lwc iti Sion wrth godi arian ar gyfer y daith i Batagonia.

Llongyfarchiadau i Elan Meirion ar ei pherfformiad ar y rhaglen Carolau o Landudno dros y Nadolig. Hefyd braf iawn cael hanes aelodau Côr Rhuthun ar raglen Cefn Gwlad efo Dai Jones.

Damwain – Anfonwn ein cofion at Eurwen Carrington sydd wedi cael triniaeth ar ei choes yn dilyn damwain dros y gwyliau. Gobeithio y byddwch yn gwella’n fuan.

Newid aelwyd – Dymuniadau gorau i Nia a Robin Ellis, Tomos, Fflur ac Elin yn eu cartref newydd yn Llaneurgain.

Diolch o galon i Gwyneth Roberts, Bryn Tirion am ei gwaith yn trefnu’r rhodd cymorth ers ugain mlynedd a hefyd i Einir sydd wedi cytuno i ymgymryd â’r gwaith. Hefyd diolch i Haf Jones am ei gwaith yn cysylltu â’r pregethwyr bob Sul a threfnu cinio ar eu cyfer a threfnu’r organyddion, y codwyr canu a rhoddwyr y blodau. Rydym yn ffodus iawn yn ein gweithwyr tawel. 

Diolch

Apêl Patagonia – Hoffai Sion Ifan McKee ddiolch yn fawr iawn i bawb a gefnogodd y Cyngerdd Nadolig ym mis Rhagfyr. Cafwyd noson gofiadwy a llwyddiannus dros ben. Gwnaed elw o £650 tuag at Apêl Patagonia 2014. Diolch.

Dramâu Bethania – Chwefror 2014

Cofiwch am y Dramâu a gynhelir y mis hwn o nos Lun Chwefror 24 hyd at nos Sadwrn Mawrth 1.

Diolch i bawb sydd yn gysylltiedig â hwy ac wedi bod mor ymroddgar i sicrhau llwyddiant eto eleni. Diolch yn arbennig i Iwan a Helen Vaughan Evans a fu’n darllen a chastio dramau a hefyd i Margaret Roberts am ei gwaith diflino eto eleni.

Cofiwch wahodd perthnasau a ffrindiau i ni gael llenwi’r festri bob nos a chael llond trol o hwyl!

Bydd tocynnau ar gael o flaen llaw yn Elfair a hefyd wrth y drws ar y noson.

O Ble Daethoch Chi?

Nan Lloyd

Cefais fy magu ar fferm Llainwen Ucha yn ardal braf a chyfeillgar Pentre Celyn. Y drydedd o bump o blant Betty a’r diweddar Norman Parry. Cefais blentyndod hapus yn chwarae a helpu ar y fferm.

Cefais fy addysg gynradd yn Ysgol Pentre Celyn, ac yna ymlaen i Ysgol Uwchradd Brynhyfryd.

Chwaraeodd y capel ran bwysig yn fy mywyd. Roeddwn yn mynychu’r Ysgol Sul ac o leiaf un oedfa yn wythnosol, a’r Band of Hope ar nos Fercher. Pan oedd fy nhad yn codi canu yn yr oedfa byddwn innau yn chwarae’r organ. Hefyd cefais y fraint o fod yn athrawes Ysgol Sul.

Roeddwn yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Rhuthun ac wrth fy modd yn cystadlu yn y Sioeau, Rali a’r Eisteddfod flynyddol.  Pan yn fy arddegau cynnar bu fy chwaer Rhian a minnau yn canu deuawdau ac yn cystadlu ac adlonni ambell gynulleidfa ar draws Gogledd Cymru. Tra’n aelod o’r Ffermwyr Ifanc fe ymunodd Emyr y gŵr a Roland Williams o Ddinbych â ni i ffurfio grŵp pop o’r enw Awen Clwyd. Yn dilyn ein llwyddiant yn yr Eisteddfod aethom ymlaen i gadw cyngherddau, buom yn ffodus iawn o gael Morfydd Sinclear merch y Parch a Mrs O.R. Parry i ysgrifennu caneuon ar ein cyfer.

Yn 1974 cychwynnais ar gwrs dysgu yng Ngholeg Normal Bangor lle’r astudiais gelf, a chyfarfod â ffrindiau newydd a dysgu sefyll ar fy nhraed fy hun.  Fy swydd gyntaf oedd athrawes fabanod yn Ysgol y Merllyn, Bagillt, Sir y Fflint a byw gyda thair ffrind Coleg mewn tŷ yn Yr Wyddgrug. Yna chefais fy swydd ddelfrydol sef athrawes yn Ysgol Clocaenog gyda Mrs Rhian Jones yn brifathrawes.

Es i ddim yn bell i ddod o hyd i ŵr. Roedd Emyr a minnau yn adnabod ein gilydd ers dyddiau’r ysgol a’r Ffermwyr Ifanc. Fe briodasom yn 1980 ac ymgartrefu yn Y Galchog. Yna daeth y plant Lisa 32, Rich 30 a Lowri 28. Arhosais adref i fagu’r plant a phan gychwynnodd Lowri yn Ysgol Clocaenog yn bedair oed mi es innau yn ôl gyda hi i ddysgu rhan amser. 35 mlynedd yn ddiweddarach rwyf yn parhau i fod wrth fy modd yn dysgu celf yno ac erbyn hyn yn dysgu yn Ysgol Cyffylliog ac Ysgol Bro Cinmeirch, Llanrhaeadr hefyd.

Rwyf yn mwynhau bod yn aelod o Gôr Rhuthun a theimlaf i hi’n fraint o fod wedi cael byw ar hyd fy oes mewn ardal mor hardd, a chymdeithas mor glos ag sydd yn Nyffryn Clwyd.

Nan

Diolch, Nan, am erthygl ddifyr iawn.

Eirian Lloyd