Y Bont Gorffennaf ac Awst 2014

Y Duw annisgwyl 

Efallai fod rhai ohonoch yn edrych ymlaen at wyliau, ac eraill ohonoch wedi bod, wrth i sgyrsiau’r dosbarth canol droi at winoedd Ffrainc a diwylliant yr Eidal, gyda’n bywydau yn cael eu goleuo am ennyd gan freuddwyd am y bywyd sydd hwnt i’n gafael. Ond ystyriwch hyn, nid yw’r lleoliad cyn bwysiced â’r ymagwedd, gan y gall gwyliau fel arall fod yn fwy blinedig na sefyll gartref!

Eleni, gobeithio cewch gyfle i lonyddu, ac efallai fwynhau eiliadau o gwmni Duw yn nhawelwch machlud ar draethell unig, neu lannerch sanctaidd mewn coedwig sy’n fyw o leisiau’r cread. Efallai wedyn ddarganfod afiaith gwir addoliad wrth ymgolli yng nghwmni cymar a cheraint, a dryllio’r ffiniau ffug rhwng yr hyn a’n gwna yn gig a gwaed, a’r hyn a’n gwna yn blant i Dduw. Yr haf hwn, beth am adael dy grefydd ar ôl, a mentro edrych am y Duw annisgwyl!

Y Parch Morris Morris

Sylw’r Mis

“Halen y Ddaear”

 “Chwi yw halen y ddaear ; ond os cyll yr halen ei flas, a pha beth yr helltir ef? Nid yw’n dda i ddim bellach ond i’w luchio allan a’i sathru dan draed gan ddynion.”   (Mathew 5 ad 13.)

Ond beth yn union yw ystyr y dywediad ‘Halen y Ddaear’?

Mae’r Beibl yn son am y Môr Marw, neu, yn ôl enw arall a roddir arno, y Môr Halen. Tydi’r dŵr ddim yn llifo allan o’r Môr Marw, ac, o ganlyniad, mae’r Môr Marw yn gyfoeth o amrywiol fwynau, yn arbennig halen cyffredin.

Cofiaf weld llun o ddyn yn arnofio yn y môr yma yn darllen papur- y Daily Post mae’n debyg!

Pan yn yr ysgol roeddwn wrth fy modd yn trin a thrafod halen cyffredin. Heb fod yn rhy wyddonol, mae yna ddwy elfen mewn halen, sef sodiwm a chlorin. Dwy elfen hynod adweithiol a pheryg. Rhaid cadw sodiwm mewn olew, ac fe ŵyr pawb pa mor niweidiol ydi nwy clorin a gafodd ei ddefnyddio yn y ffosydd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ond, pan fydd y ddau yn adweithio gyda’i gilydd cawn y crisialau gwyn a phur, sef halen cyffredin. Y neges syml yma yw ei bod yn bosib gwneud rhywbeth da o bethau drwg. Rydym yn byw mewn gobaith y gall arweinwyr drwg ein byd ddod at ei gilydd i greu gwell bywyd i filiynau o bobl.

Yn amlwg roedd halen yn bwysig iawn yn yr amser a fu. Mae’r geiriau ‘salary’ a ‘salad’ yn dod o’r Lladin ac yn deillio o’r gair halen. ‘Salarium’ oedd yr arian a dalwyd i’r milwyr Rhufeinig brynu halen ac mae ‘salad’ yn dod o’r arfer Rhufeinig o halltu dail llysiau.

Darllenais yn ddiweddar fod cannoedd o ddefnyddiau i halen, gan gynnwys rhai meddygol. Rwyf am son am rai o’r rhain yn unig. Yn Israel, lle mae’r tywydd yn boeth iawn, roedd halen yn hanfodol i gadw bwyd rhag llygru a mynd yn ddrwg. Cofiaf am fodryb i mi yn Nolwyddelan yn lladd mochyn a’i hongian yn y gegin. Rhaid oedd prynu bloc o halen i’w wasgaru dros y cig. Mae’n debyg i mi ddiflasu ar gig mochyn ar ôl hynny!

Swyddogaeth arall halen yw rhoi mwy o flas ar bethau. Mae gwell blas ar fwyd gydag ychydig o halen (Halen Môn ydi’r gorau, meddai’r wraig). Ond cofiwch fod gormodedd yn ddrwg i chi.

Trwy’r oesoedd ystyrir fod manteision meddygol i halen. Wedi’r cyfan, mae’r corff yn cynnwys dŵr a halen, (dyna pam mae dagrau a chwys yn blasu’n hallt). Mae yna groniclau di-ri sy’n cyfeirio at nodweddion iachaol halen. Pan gymysgir halen pur â dŵr gellir ei ddefnyddio i drin dolur gwddf, afiechydon y croen, glanhau dannedd a gwella clwyfau, i enwi ychydig o’r defnyddiau iachaol.

Enghraifft arall o bwysigrwydd halen yw’r ymadrodd ‘Halen y Ddaear’. Ystyrir pobl sydd ‘Werth eu Halen’ neu’n ‘Halen y Ddaear’ yn bobl onest, o werth, dibynadwy a ffeind sy’n mynd y filltir ychwanegol i helpu eraill.

Yn aml iawn ychydig o bobl sy’n ymroddgar yn ein heglwysi. Serch hynny, mae’r bobl hyn yn llesol iawn i gymdeithas a’u cyfraniad yn amhrisiadwy. Y rhain yw ‘Halen y Ddaear’ sy’n abl i roi inni flas ar fyw.

Gwna ni fel halen trwy dy ras,

Yn wyn, yn beraidd iawn ei flas.

Yn foddion yn dy law o hyd

I dynnu’r adflas sy’ ar y byd.

Glyn Jones

Mae’r Bont eich angen chi!!

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at Sylw’r Mis dros y blynyddoedd. Mae’r rhestr o bawb sydd wedi cyfrannu ers 2010 ar gael i’r rhai â diddordeb gwybod pwy gyfrannodd a phryd!

Yn anffodus mae’n profi yn fwyfwy anodd i gael aelodau i ysgrifennu ac felly mae peryg y bydd rhaid mynd yn ôl ar ofyn yr un rhai i gyfrannu. Felly … os nad ydych wedi gwneud ac yn dymuno rhoi eich ‘Sylw’ mi fuaswn yn fwy na diolchgar.

Cysylltwch os gwelwch yn dda ar un o’r canlynol:

Newyddion a Chyfarchion

Colli Aelod – Trist iawn oedd deall inni golli aelod y mis diwethaf sef Iorwerth Turner, Coed Derw. Cydymdeimlwn â’i deulu a’i ffrindiau oll.

Cydymdeimlo – Yr un yw’n cydymdeimlad ag Elinor a Mirain Evans, Ffordd Dinbych, wedi colli tad a thaid sef y Parch Harri Owain Jones. Cofion atoch eich dwy.

Llongyfarchiadau calonnog i Emlyn ac Eurwen Carrington ar ddathlu eu Priodas Ddiemwnt yn ddiweddar a dymuniadau gorau am lawer blwyddyn arall i ddod. Llongyfarchiadau hefyd i Esyllt Fflur ar ennill gradd o Brifysgol Aberystwyth a phob lwc iddi hithau yn y dyfodol.

Dwy Briodas – Bydd dwy briodas yma dros yr haf sef priodas Sara Telpyn a Russ ar Awst 22 a phriodas Ffion Medi a Martin ar Awst 30. Dymunwn yn dda i’r ddau gwpl ifanc ar achlysur eu priodas ac am ddyfodol hir a hapus gyda’i gilydd.

Pererindod – Cafwyd diwrnod bendigedig eleni yn ymweld â’r Ysgwrn, cartref Hedd Wyn, Canolfan Ednowain yn Nhrawsfynydd, Abaty Cymer ac yna swpera yn Nhafarn Eryrod Llanuwchllyn ar y ffordd adref. Diolch o galon i Iwan a Helen am eu gwaith yn trefnu taith mor hwylus ac arbennig.

Te yn yr Ardd – Diolch o galon i Eilir, Bethan, Sion a Dafydd am agor eu gardd unwaith eto eleni gan godi dros £500 i’w rannu rhwng Capel Bethania ac elusen Cancr y Fron. Diolch i chi fel teulu am y croeso a’ch caredigrwydd. Diolch hefyd i bawb wnaeth gyfrannu at yr elusennau ar y diwrnod.

Trip yr Ysgol Sul – Trefnir Trip yr Ysgol Sul eleni ar y cyd ag Ysgol Sul Tabernacl ar ddydd Sadwrn Medi 6 i Gelli Gyffwrdd. Byddwn yn cychwyn oddeutu 9.30 o’r gloch ac yn cychwyn yn ol tua 4.30. Os oes gennych awydd ymuno â ni, rhowch eich enwau ar y rhestr yn y festri neu eich manylion i Bethan Edwards.

Tri Chopa – Bydd Eilir Edwards yn rhedeg i fyny ac i lawr tri chopa uchaf yr Alban, Lloegr a Chymru o fewn 24 awr ar Orffennaf 27. Cysylltwch ag Eilir os am ei noddi. Bydd yr arian yn mynd at elusen Cancr y Fron. Pob lwc i ti Eilir!

Atgofion Plentyndod am Gapel Glanrafon 

Mae Capel Glanrafon o fewn tafliad carreg i’m cartref yn Fferm Glanrafon, ac roedd hynny’n gyfleus iawn yn enwedig erbyn i mi gyrraedd fy arddegau. Gallwn godi am chwarter i ddeg ar ôl bod allan nos Sadwrn a gallu cyrraedd sêt gefn y capel cyn i’r gwasanaeth ddechrau am ddeg! Bu’r capel yn rhan naturiol o’m bywyd nôl yn y pumdegau a’r chwedegau ers cael fy medyddio gan Y Parch Robin Williams. Roedd gennym sêt i’r teulu tua thri chwarter ffordd i lawr ochr dde’r capel ac roedd honno yn bur llawn pan fyddai mam a’r pump ohonom ni frodyr yn gorfod gwasgu i mewn iddi. Does ryfedd ein bod yn edrych ymlaen at gael dechrau’r ysgol uwchradd. Dyna’r oedran pan gaem fynd i eistedd yn sêt gefn y capel ar wahân i’r teulu. Arwydd ein bod bellach yn hogiau mawr. Er mwyn i genedlaethau’r dyfodol gael gwybod fy mod wedi bod yn bresennol mewn sawl oedfa, Ysgol Sul a chyfarfod fe gerfiais fy enw ar flaen y sêt honno fel nifer o’m cyfoedion. Mae yno hyd heddiw. 

Roedd tri dosbarth i’r plant yn y festri, a’m hathrawes gyntaf oedd Ceri Jones Braich Du. Ond fe gofiaf Glenys Hughes Gornel Rhedyn yn arbennig am ei pharatoi trylwyr ar ein cyfer, gan gynnwys llyfr gwaith cartref ar gyfer yr arholiadau ysgrifenedig a dysgu allan. Roedd gwobrau hael i’w cael am lwyddo –  tocyn llyfr i’w wario yn Siop Trefor Price yng Nghorwen. Achlysur cofiadwy oedd derbyn y llyfr newydd rhyw fis neu fwy wedi i ni fod yn dewis llyfrau yn y siop.

Byddai symud i’r capel i’r dosbarthiadau hŷn eto yn achlysur, yn enwedig cyrraedd dosbarth John Lloyd, tad Tecwyn Lloyd, ar gyfer y ‘bobl ifanc’. Gwerinwr diwylliedig a cherddorol oedd John Lloyd a chanddo’r ddawn i ryfeddu at y gwirioneddau, yr hanesion a’r gorchestion mawr fyddai’n cael eu rhannu yn y dosbarth cyn troi at wers y dydd. Peth digon cyffredin fyddai gweld dosbarth yr oedolion ar draws y capel yn troi i’n cyfeiriad yn hanner gwgu, hanner gwenu.

Roedd rhai digwyddiadau y byddwn yn edrych ymlaen atynt bob blwyddyn. Trip y Rhyl fyddai’r uchafbwynt. Llond bws yn gadael yn fore, y pump ohonom ni efo mam, a nhad yn dod i’n cyfarfod ar ddiwedd y pnawn. Yn anffodus byddai hynny’n golygu fod rhaid i ni fynd adre yn y car ar ôl rhyw awr yn unig yn y Marine Lake  fin nos nes ein bod yn ddigon hen i ddod adre’n hwyrach ar y bws.

Yng Nghapel Seion Corwen y cynhelid y Sasiwn Plant a’r Gymanfa Ganu. Cofiaf yn dda am gael te yn y festri wedi cyfarfod y pnawn, rhedeg wedyn i chwarae yn y ‘Rec’ cyn galw yn Siop Miss Griffiths i brynu llwyth o fferins. Yna yn ôl i’r capel ar gyfer cyfarfod y nos a chael eistedd yn y galeri a thaflu papur fferins ar ben y gynulleidfa! Yn fy arddegau uchafbwynt arall fyddai cael mynd i Gymanfa Ganu’r Dosbarth yng Nghapel Tegid y Bala a chael canu bas efo Yncl Robin ac Yncl John, brodyr mam.

Yn ogystal â Robin Williams, bu’r Parchedigion Wynford Jones, Michael Thomas a Reuben Roberts yn weinidogion ar yr eglwys yn ystod fy nghyfnod yno. Byddent yn galw heibio ein tŷ ni yn aml a daethom i’w hadnabod yn dda. Byddai fy rhieni yn disgwyl i ni fynd i ddau wasanaeth ar y Sul, Ysgol Sul ac oedfa. Am gyfnod roedd cyfarfod plant yn ystod yr wythnos a chofiaf hefyd gael hyfforddiant Tonic Sol Ffa dan ofal Anti Ceinwen. Cefais ryw ddwy dystysgrif am basio arholiad ar y modulator.

O gofio am Y Gymdeithas, Steddfod y Tai, Cyfarfodydd Diolchgarwch a Gwasanaethau Dechrau’r Flwyddyn mae rhywun yn sylweddoli fod y capel yn rhan annatod o fywyd yr ardal amaethyddol wledig  hon yn nyddiau fy mhlentyndod – digon tebyg i nifer fawr o ardaloedd eraill yng Nghymru yn y dyddiau hynny. Profiad pleserus yw cofio amdanynt. 

Diolch i Glyn Jones am adael imi ei enwebu fo nesa.

             Iwan Vaughan Evans