Y Bont Hydref 2014

‘Anghofiwch am roi terfyn ar dlodi. Bydd newid hinsawdd yn gwneud tlodi’n barhaol.’

‘Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod mai newid hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf sy’n wynebu dynoliaeth, bygythiad a fydd yn effeithio’n anghyfartal y rhai a wnaeth y lleiaf i’w achosi ac sydd leiaf abl i ddelio â’r canlyniadau.’

‘Arglwydd Iesu, ar draws y byd, mae dy chwiorydd a’th frodyr yn dioddef effeithiau newid hinsawdd, yn dioddef canlyniadau gweithredoedd pobl eraill, am nad ydym wedi gofalu am ein planed. Maddau i ni o Arglwydd.’ 

Y Parch Morris Morris

Sylw’r Mis

Yn rhinwedd fy swydd mi fyddaf yn teithio cryn dipyn o amgylch Gogledd Cymru ac yn gyrru trwy amryw o drefi, pentrefi a chefn gwlad.

Un peth sydd yn drawiadol yn ddiweddar yw’r cynnydd yn y niferoedd o gapeli lle mae’r achos wedi dod i ben. Yr adeiladau mawreddog gynt yntau ar werth, eisoes wedi eu trawsnewid i fod yn dai neu yn cael eu defnyddio ar gyfer arwerthiant hen greiriau. Rhai capeli eraill lle mae’r drws wedi ei gloi a’r adeilad wedi ei adael i ddirywio dros y blynyddoedd.

Pan oedd crefydd anghydffurfiol ar ei anterth yn ystod y 19eg ganrif roedd ar gyfartaledd un capel newydd yr wythnos yn agor yng Nghymru ac wrth edrych ar faint sylweddol rhai o’r capeli yma, sydd wedi eu lleoli mewn pentrefi gymharol fach neu yng nghefn gwlad, mae’n anodd credu bod angen am adeiladau mor fawr hyd yn oed yr adeg honno.

Does dim amheuaeth fod y gost o adeiladu’r capeli yma wedi bod yn aruthrol o uchel mewn cyfnod lle’r oedd llawer iawn llai o gyfoeth mewn cymdeithas.

Yn 2015 mi fydd yn 150 o flynyddoedd ers sefydlu achos y Methodistiaid Calfinaidd yn Heol Mwrog drwy adeiladu yn 1865 addoldy ‘Sebuel’ (y festri bresennol) am y swm o £400 ar safle lle’r oedd tŷ a gardd yn flaenorol.

Yn 1881 atgyweiriwyd a helaethwyd ‘Sebuel’ ac yna yn 1891 prynwyd  pedwar o hen dai am £200, chwalwyd y tai ac ar y tir hwn yn 1896 adeiladwyd y capel presennol, sef ‘Bethania’ am £1,900, a chynhaliwyd  y gwasanaeth agoriadol ar Ddydd Gwener y Groglith 1897.

Ar ddathliad canmlwyddiant Bethania yn 1997 fe ysgrifennodd y cyn Weinidog, y diweddar Barchedig O.R Parry y penillion canlynol:

Cynulleidfa Bethania 1897-1987

Cychwynnwyd gynt fel Abram

Yn araf, nid ar garlam,

Heb wybod nemawr ddim o’r daith

Na chwaith ei llwybrau gwyrgam.

 

Trwy ffydd yn eu Harweinydd

Y croeswyd dôl a mynydd,

A’r hyn fu’n cynnal ar y daith

Oedd gobaith cartre newydd.

 

Diolchwn ni fel hwythau

Y rhai a fu o’n blaenau

Mai nid ar wendid dyn a’i fai

‘R edrychai Duw ein tadau.

 

Er mwyn y cwmwl tystion,

A’r gweddill sydd yn ffyddlon,

Dy fendith Arglwydd rho i’n plant

Tenantiaid newydd Seion.

O.R.P.

Mae’n glod i’r cenedlaethau a fu eu bod wedi gallu rhoi gymaint o egni ac adnoddau i sefydlu adeiladau parhaol i addoli a chymdeithasu am bron i 150 o flynyddoedd. Mae’r cyfrifoldeb am ei barhad a’i fywyd ysbrydol nawr yn ein dwylo ni’r aelodau presennol.

A ydym yn barod i ysgwyddo’r cyfrifoldeb a rhoi ein hegni ac ymdrech i barhad yr achos drwy fynychu’r gwasanaethau a gweithgareddau cymdeithasol yr eglwys fel na fydd Bethania yn cael ei ychwanegu i’r rhestr hirfaith o addoldai nad ydynt mwyach ?

Stephen Roberts

Newyddion a Chyfarchion

Cydymdeimlwn â Bob Hughes, Wenallt, sydd wedi colli ei frawd, John Hughes, Cyffylliog yn ddiweddar.

Babis newydd – Llongyfarchiadau i Elin a Kelvin Parry, Mynydd Isa, ar enedigaeth eu mab bach, Steffan Morgan, ac i Robat a Carys ar ddod yn daid a nain am y tro cyntaf a Haf Jones yn hen nain.

Llongyfarchiadau hefyd i Lois a John Lloyd ar enedigaeth Llion, brawd bach i Gwydion a Tirion.

Croeso cynnes i Mrs Margaret Jones sydd wedi dod i fyw ym Maes y Ffynnon o Benbedw. Gobeithio y byddwch yn teimlo’n gartrefol yn ein plith yma ym Methania.

Colegau – Dymuniadau gorau i’r rhai ifanc sy’n dechrau yn y colegau, Llyr a Guto wedi mynd i Aberystwyth ac Osian a Harri i Landrillo. Mae Esyllt ac Elliw hefyd yn hyfforddi i fod yn athrawon ym Mangor. Pob lwc i chi i gyd.

Dathlu 150 mlynedd yr achos – Yn 2015 byddwn yn dathlu 150 mlynedd yr achos yma ym Methania.

Fel rhan o’r dathlu rydym yn chwilio am hen luniau a hanesion am y capel dros y cyfnod yma. Os oes gennych unrhyw luniau y gallech eu benthyg i ni neu atgofion yr hoffech eu rhannu rhowch wybod i un o’r blaenoriaid.

Byddai’n braf gallu trefnu arddangosfa a chynnal noson i olrhain hanes y capel o’r cychwyn cyntaf.

Atgofion Plentyndod am Gapel y Waen, Nantglyn

Wrth edrych yn ôl a hel atgofion, teimlaf yn ffodus iawn o gael plentyndod llawn hwyl ac atgofion melys yng Nghymdeithas Capel y Waen o fy ngenedigaeth hyd i mi briodi ym 1992.

Lleolir Capel y Waen rhyw filltir y tu allan i bentref Nantglyn i gyfeiriad Bylchau, ar allt ger y ffordd yng nghanol clwstwr o dai. Ochr arall i’r ffordd mae’r maes parcio, lle yn ôl yr arferiad bob Sul, yr oedd gan bob teulu debyg eu lle parcio ac am ryw reswm doedd parcio eich car yn lle rhywun arall ddim y peth cywir i wneud! Y patrwm o gael sêt Capel teulu yn ehangu i’r maes parcio falle?!

Bu hefyd yna ‘kiosk’ mawr coch gyferbyn â’r capel y tu blaen i’r maes parcio. Rwy’n cofio ambell waith (cyn adeg y ffonau symudol), ac ar ôl dod yn ddigon hen a chryf i agor drws trwm y ‘kiosk’, cael ffonio Mam i ddod i fy nôl o ymarfer neu ‘Band of Hope’ a disgwyl am y ‘pips’ i orffen cyn gwthio’r 5c i mewn. Ar adegau eraill ar ôl anghofio arian, gorfod gofyn am ‘reverse the charges’!!

Y tu mewn i’r Capel roedd ein sêt deulu yr ail res o’r cefn. Yn wahanol i ambell gapel arall, mae’r ddau ddrws mynedfa naill ochr i’r pulpud / sêt fawr. Felly wrth ddod i mewn i’r Capel, roedd pawb yn eich wynebu. Cofiaf ambell fore chwithig wrth gyrraedd yn hwyr, y teimlad fod pawb yn edrych arnai wrth i mi gerdded yr holl ffordd i’m sêt.

Atgofion eraill o eistedd yn ein sêt deuluol a thawelwch llwyr drwy’r Capel cyn i’r gwasanaeth neu’r oedfa ddechrau. Y ‘tawelwch’ ma sy’n unigryw mewn capel. Roedd yn adeg lle’r oeddwn yn ymarfer y grefft o drio agor papur ‘fferins’ heb wneud sŵn!! Ar ôl dros ddeugain mlynedd o ymarfer, mae dal yn amhosib!!

Wrth redeg yn hwyr ambell fore Sul, er i Mam weiddi arna’i i godi’n gynt, rhaid oedd mynd i’r Capel heb frecwast. Camgymeriad mawr gan fod hyn yn siŵr o ddod a’r ‘rumbles’ isio bwyd yn y bol. A siŵr ichi, fydd y ‘rumbles’ yn digwydd yn ystod y cyfnod o dawelwch ‘ma!

Wrth sôn am adegau o embaras, daw atgof yn ôl pryd oeddwn yn fy arddegau. Roeddwn wedi bod yn plagio Mam ers rai misoedd fy mod eisiau sgidiau ‘cowboi’! Rhai lledr, brown golau (tan) a zip yn yr ochr a sodlau o gwmpas dwy fodfedd. Ia dwi’n gwybod be da chi’n feddwl, ond mi roedden nhw’n ffasiynol ar y pryd! O’r diwedd ar fy mhen-blwydd, llwyddais gael yr union sgidiau ‘cowboi’ roeddwn wedi eu gweld yn y catalog ‘Marshall Ward’. Ew…ro’n i’n meddwl mod i’n ‘real boi’ a hefyd yn dalach gyda’r sodlau!

Cofiaf gael eu gwisgo nhw am y tro cyntaf i’r Capel. Cofiaf yr  oedfa lle roeddwn yn cymryd rhan, a chlywed y Blaenor yn galw fy enw i ddod lawr.

Fel y gwŷr rhai ohonoch dwi’n siŵr, mae seddi Capel y Waen wedi eu gosod ar ychydig o lethr. Fel yr oeddwn ar fin cyrraedd y gwaelod, a’r llyfrau yn fy nwylo a minnau’n cerdded ar lawr llyfn finyl yn fy sgidiau ‘cowboi’ (..a ‘chydig o sodle!), dyma fi’n llithro a disgyn ar fy mhen ôl a’r llyfrau ym mhob man!!….

Codais reit sydyn, casglu’r llyfrau a gorffen fy nhaith i’r sêt fawr wrth drio cogio bod dim wedi digwydd. Tipyn o job efo wyneb yn goch o embaras a phanic llwyr wrth drio cael trefn ar y llyfrau!

Trainers roedd hi ar ôl hynny, tan fy mod wedi cael ychydig mwy o brofiad yn y sgidiau ‘cowboi’ !!

Wrth sôn am ffasiwn, a gan fod angen gwisgo dillad ‘gorau’ i’r Capel, cofiaf hefyd yn fy arddegau cynnar, gael fy ngorfodi gan Mam i wisgo ‘blazer’ frown…’velvet’ i’r Capel !! Doeddwn ddim yn hoffi’r flaser ‘ma o gwbl, yn enwedig pan roedd fy ffrindiau yn gwisgo dillad mwy ‘cŵl’ ar y pryd. Ond dyna’r amod a osodwyd gan Mam os am wisgo’r sgidiau ‘cowboi’.

Cofio Gŵyl Ysgol Sul yn Neuadd y Dref, Dinbych ym 1976. Roeddwn yn saith oed a Mam eisiau i mi drio’r unawd. Heb fawr o ymarfer a dim rhagbrawf, canu’n syth ar y llwyfan mawr.

‘Er dy fod yn Frenin’ oedd y gân ac er syndod i mi cefais drydydd allan o ryw saithdeg yn cystadlu. Roedd Mam wrth ei bodd.

Mi fyddai’r Ŵyl yn cario ’mlaen drwy’r dydd a’r Neuadd yn llawn i’r ymylon a chymaint yn cystadlu hyd oriau man fore Sul.

Atgofion cynharaf o’n Gweinidogion a fu yn y Waen yn y saithdegau cynnar oedd y Parch Glyn Tudwal Jones. Yn dilyn hyn ac eto yn y saithdegau cynnar daeth Gweinidog newydd acw gyda gitâr, sef y Parch Gwilym Ceiriog Evans. Gweinidog llawn hwyl a thynnu coes a dylanwadol drwy mhlentyndod a’hm harddegau, hyd i mi briodi.

Cofio’r ‘Band of Hope’ nos Lun ac wedyn cyfarfodydd pobl ifanc yng nghegin neu ystafell flaenoriaid a thân glo yn ein croesawu.

Rwy’n cofio cael mynd fel criw o bobol ifanc Capeli Dyffryn Clwyd am wyliau haf i lawr i Dresaith ger y môr a gwario wythnos o wyliau yng nghwmni criw arall o Gapeli Dyffryn Aman. Gwilym Ceiriog yn ein dreifio o Goleg y Bala mewn VW camper fan lawr i’r hostel yn Nhresaith. Rwy’n cofio cael llosg haul ar fy nghoesau a’r noson honno gorfod gorwedd ar fwrdd o flaen pawb tra bu Jean Jones o Ddyffryn Aman (cyn Feistres Gwisgoedd Eisteddfod Genedlaethol) yn rhoi ‘calamine lotion’ ar gefn fy nghoesau….a hwne’n oer iawn !! Pawb yn chwerthin, ar wahân i fi!

Y noson olaf o’r gwyliau aeth pawb i’r traeth yng nghanol y nos. Cofio i ni gyd gael gafael ar y Gweinidog Gwilym Ceiriog, ei godi  a’i daflu yn ei ddillad i’r môr. Pawb wedyn yn diweddu yn y môr yn ein dillad a cherdded yn ôl o’r traeth yn socian!

Wrth edrych yn ôl daw nifer eraill o straeon i’r cof. Ond wrth derfynu mae nyled yn fawr i Gymdeithas glos Capel y Waen o gael profiad a magwraeth heb ei hail.

Capel y Waen

Diolch i Gerallt Tomos am adael imi ei enwebu fo nesa.

             Gareth Jones 

Mae’r isod o wefan Cymorth Cristnogol….

Ar 18-19 Hydref mae rydym yn galw ar eglwysi ar draws Cymru i gymryd rhan yn y penwythnos Newyn am Gyfiawnder.

Dywed Elizabeth Peredo, cyfarwyddwraig Fundación Solón, partner Cymorth Cristnogol yn Bolivia, sy’n ymgyrchu ar newid hinsawdd, ‘Rwy’n gyffrous ynglŷn â’r Penwythnos Newyn am Gyfiawnder oherwydd fe fydd yn arddangosiad pwerus o ffydd, gobaith a chariad ar waith. Ffydd y gall y byd fod yn well, gobaith y gallwn ddod ynghyd i greu newid, a chariad tuag ein cymdogion wrth i ni sefyll yn unol â phobl ar draws y byd sy’n dioddef o effeithiau newid hinsawdd.’

Ar Sul Hydref 19 mae gwasanaeth arbennig yng nghapel Pendref Rhuthun. Ymunwch â ni. Sefwch gyda’r miliynau ar draws y byd sy’n cael eu heffeithio gan hinsawdd sy’n newid. Dewch ynghyd mewn gweddi a gweithred, a’n helpu ni i adeiladu mudiad trwy un filiwn o ffyrdd.

‘Arglwydd, i’r rhai sy’n newynu, rho fara. Ac i’r rhai sy’n cael bara, rho newyn am gyfiawnder.’ – Gweddi o America Ladin

Penwythnos y Plant

Tachwedd 15-16

 

Parti Pudsey

Dydd Sadwrn, Tachwedd 15

10.00-12.00

Stondinau, gemau a digonedd o goffi, te a bisgedi

 

Operation Christmas Child

Llenwi bocsys esgidiau

Dydd Sul, Tachwedd 16

Cyfle i anfon anrhegion Nadolig at blant mewn angen.

Byddem yn ddiolchgar am unrhyw roddion addas e.e. teganau (ond dim gynnau), llyfrau, brwshys dannedd, brwshys gwallt, sebon, fferins, menig, sgarffiau, capiau, breichledau, mwclis, papur a phensil, creonau neu roddion ariannol (rhaid i ni anfon £3 gyda phob bocs).

 

Diolch o galon i bawb ymlaen llaw am bob haelioni a charedigrwydd.

Mae’r Bont eich angen chi!!

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at Sylw’r Mis dros y blynyddoedd. Mae’r rhestr o bawb sydd wedi cyfrannu ers 2010 ar gael i’r rhai â diddordeb gwybod pwy gyfrannodd a phryd!

Yn anffodus mae’n profi yn fwyfwy anodd i gael aelodau i ysgrifennu ac felly mae peryg y bydd rhaid mynd yn ôl ar ofyn yr un rhai i gyfrannu. Felly … os nad ydych wedi gwneud ac yn dymuno rhoi eich ‘Sylw’ mi fuaswn yn fwy na diolchgar.

Cysylltwch os gwelwch yn dda ar un o’r canlynol: