Y Bont Medi 2014

Cyfle neu greisis? (arall)

Daeth yn amser i ni fel Eglwysi yn Nyffryn Clwyd, ystyried ein strategaeth am y blynyddoedd nesaf, ac aed ati eisoes i lunio dogfen ddrafft, dyfynnaf ohoni…

“Lleihau yn frawychus o sydyn y mae nifer aelodau’r eglwysi ar draws yr Henaduriaeth. Collir chwarter y nifer pob pedair blynedd. Mae’n rhaid felly i ni baratoi at ddyfodol gwahanol iawn….canran fechan iawn o’n haelodau hyd yn oed sydd yn yr oedfaon o Sul i Sul…. gwelir mai patrwm achlysurol o addoli yw’r norm bellach gan y mwyafrif o deuluoedd – a hynny o ddewis…. Oherwydd y newidiadau sylfaenol hyn ym mhatrwm gwaith gweinidogion, dylai’r  Henaduriaeth, trwy ei blaenoriaid, geisio rhoi arweiniad i aelodau’r eglwysi ynglŷn â natur newydd swyddogaeth ein gweinidogion ordeiniedig…derbyn y bydd yn rhaid iddi symud yn fuan i hyfforddi blaenoriaid i weinyddu’r sacramentau…a newid disgwyliadau’r aelodau yn y patrwm a’r nifer o wasanaethau a fydd yn cael eu cynnal ar y Sul  o ystyried mai prinhau a fydd y nifer o bregethwyr a fydd ar gael dros y blynyddoedd nesaf.”

Tybed a yw’r realiti newydd hwn yn ein cymell i ddarganfod ffordd newydd o fod yn eglwys, gan gynnwys efengyl fwy caredig a chynhwysol?

Y Parch Morris Morris

Sylw’r Mis

Pŵer Arbennig

Rhai blynyddoedd yn ôl â’r plant dipyn llai, ac ar ôl gwylio rhyw raglen neu ffilm ble roedd sawl un hefo pŵer arbennig, dyma fynd i chwarae gem a gofyn, os fase ni’n cael dewis, pa bŵer arbennig fase ni’n hoffi ei gael?

Bu meddwl yn ddyfal a chynigion fel bod yn anweledig er mwyn mynd o le i le heb neb wybod a gwrando beth oedd bobl yn deud; bod yn gryf er mwyn ennill popeth; rhedeg yn gyflym er mwyn cyrraedd llefydd yn gynt; neu gael llygaid oedd yn gallu gweld ymhell a thrwy waliau !

I mi y pŵer gorau fase gallu symud o un fan i un arall mewn eiliad – ‘teleportation’, yn lle gorfod trafeilio am oriau.

Roedd pawb yn hoffi’r syniad yma a dyma ddechrau gofyn i ble fase pawb yn hoffi mynd? Awstralia, Canada, Ffrainc at y teulu ac mi ddudes y baswn i’n hoffi mynd yn ôl mewn amser i ymweld â fy hen deidiau a neiniau gan weld sut oedden nhw’n byw yn yr oes a fu.’

“O ia” medde Siwan, “Os faswn i’n gallu mynd yn ôl mewn amser faswn i’n mynd yn ôl i’r amser pan nath Duw greu’r byd i weld popeth yn cychwyn!” Wel am syniad da medde fi.

Felly ar ddechrau cyfnod newydd i sawl un y mis Medi yma, beth am i ni gyd drio defnyddio’r pwerau arbennig sydd gynnon ni i helpu eraill?

Einir Gwawr Jones

Newyddion a Chyfarchion

Colli Aelod – Trist iawn oedd clywed am farwolaeth Glenys Davies, Iwerddon, cyn yr haf. Bu’n aelod ffyddlon a gweithgar yma ym Methania. Cydymdeimlwn yn ddwys â’i theulu a’i ffrindiau oll.

Arholiadau -Llongyfarchiadaucalonnog i blant ac ieuenctid yr eglwys ar eu llwyddiannau dros yr haf. Llwyddodd Gwen, Elin a Catrin yn eu harholiadau TGAU a Llŷr a Guto yn eu Lefel A. Dymuniadau gorau iddynt oll wrth barhau â’u haddysg.

Llongyfarchiadau hefyd i’r rhai fu’n cystadlu, a chael llwyddiant, yn Eisteddfod Llanelli.

Camp Eilir -Llwyddodd Eilir Edwards i ddringo tri chopa uchaf Cymru, Lloegr a’r Alban mewn 24 awr ddechrau’r gwyliau i godi arian at Ymchwil Cancr y Fron. Da iawn ti Eilir!

Dwy Briodas -Hyfryd oedd cael dwy briodas yma dros yr haf. Llongyfarchiadau a phob dymuniad da i’r ddau gwpl ifanc, Sara a Russ a Ffion a Martin, am ddyfodol hir a hapus gyda’i gilydd.

Priodas Aur -Llongyfarchiadau i Gruff ac Anne Richards ar ddathlu eu Priodas Aur ym mis Awst a dymuniadau gorau am lawer blwyddyn eto i chi’ch dau.

Llongyfarchiadau i Carwyn a Pratibha ar enedigaeth eu mab bach, Hari Joseph, i lawr yn Llanharan, ac i Noel a Nia ar ddod yn nain a thad-cu.

Atgofion Plentyndod am Gapeli

Cefais  fy ngeni a’m magu ym mhentref Dolwyddelan, pentref bychan, distaw sydd yn enwog am y castell arbennig, hen eglwys a chof golofn John Jones, Talysarn.  Fel un o weithgareddau yn y capel rhaid oedd i ni lanhau’r golofn unwaith y flwyddyn.

Roedd y teulu’n mynychu Capel Moriah (neu Gapel Mawr).  Patrwm y Sul oedd mynychu’r capel dair gwaith.  Chawn i ddim chwarae pêl droed, mynd ar fy meic na mynd i lan y môr!  Yn ogystal, yn aml, byddwn yn mynd i’r Gobeithlu (Band of Hope) ar nos Fawrth a’r Seiat ar nos Fercher.  Cefais fethu’r seiat pan es i’r ysgol uwchradd yn Llanrwst.

Yr adeg honno, roedd gan bawb eu sêt benodol, ac yn talu am y fraint.  Roedd sêt y teulu ar flaen y galeri.  Yn y cyfnod hwn gwisgai’r merched i gyd het i fynd i’r capel ac fe fyddai fy chwaer ieuengaf a minnau yn edrych gan bwy oedd yna het newydd.

Saesnes oedd fy mam ond fe wnaeth yr ymdrech i fynd i’r capel ar nos Sul a phigo i fyny peth o’r iaith.  Byddem yn dweud adnod pob Sul. Bu rhaid mynd o’r galeri, i lawr y grisiau a throi i’r dde yn y cyntedd i fynd i sêt flaen y capel.  Unwaith, fe anghofiais fy adnod a throi i’r chwith yn y cyntedd a’i heglu hi am adref!  Digwyddodd hyn byth wedyn.

Fel ym mhob capel roedd trip yr Ysgol Sul yn uchafbwynt y flwyddyn.  Ymunai dau gapel y pentref ar y trip.  Os oedd dewis, i’r Rhyl roedd pawb eisiau mynd.  Cafwyd trên i ni ein hunain o Ddolwyddelan i Rhyl. Fe fuasai’r merched wedi bod wrthi’n brysur yn paratoi bwyd, a’i gludo i festri mewn capel yn y Rhyl.  Fe gofiaf mai’r ‘beics’ oedd y peth cyntaf i ni wario’r ychydig arian oedd gennym.  Byddwn yn gofalu fod gennyf ddigon o arian dros ben i brynu ‘candy floss’ pinc.

Achlysur arall pwysig yng nghalendr y capel oedd  Gymanfa Ganu’r plant.  Cynhaliwyd hon mewn gwahanol bentrefi pob blwyddyn e.e. Betws y Coed, Penmachno ac ati.

Cofiaf un flwyddyn i’r gymanfa gael ei chynnal yn Ysbyty Ifan, a sesiwn y pnawn yn llusgo braidd.  Unwaith iddo ddarfod roeddem yn mynd i lawr y stryd a gwrando os oedd radio ymlaen mewn tŷ er mwyn i ni gael clywed sylwebaeth ar y “Cup Final”.  Diolch i drigolion Ysbyty am adael i ni wrando ar eu radio!

Bu’r Parchedigion William Jones a Henry Roberts yn weinidogion ar yr eglwys yn ystod fy nghyfnod yno. Mae gen i gof o Mr Roberts yn dymuno’n dda i mi cyn i mi fynd i’r coleg ac yn fy annog i gadw at y llwybr cul.  Gobeithio i mi lwyddo!!!   Roeddwn yn hoff o wrando ar J.W. Jones, Conwy, yn pregethu.  Cofiaf o’n esbonio “ffydd” gan roi hanes Blondin yn gwthio berfa ar wifren denau ar draws rhaeadr y Niagara, ac yn gofyn a oedd rhywun â digon o ffydd i eistedd yn y ferfa!

Rhaid i mi gydnabod gwaith yr athrawon ysgol Sul, sef Mr W. Parry, chwarelwr a Mrs. Williams, athrawes ysgol.  Cefais hefyd gyfle i  gymryd rhan yn Eisteddfod y Gobeithlu.  Profais beth llwyddiant gyda’r adrodd, ond, fel arfer, pedwerydd allan o bedwar oeddwn ar y canu!

Trist yw meddwl fod y capel bellach wedi ei werthu a’i droi yn dŷ wyth llofft hynod o foethus!!!

Ym 1963 cefais swydd yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch i ddysgu Cemeg.

Bum yn aelod yng Nghapel Bethesda (Capel Mawr) am hanner cant o flynyddoedd. Un o’r pregethwyr gorau a glywais oedd y Parch. Richard Williams (Llithfaen).  Y fo briododd Gwyneth  a minnau ym 1968.

Fe gofiaf ddathliad daucanmlwyddiant y Capel ym 1977.  Cafwyd pasiant gan aelodau’r Ysgol Sul a chefais gyfle i wneud fy rhan o bulpud y capel lle’r oedd mawrion y diwygiad wedi bod yn pregethu.  Bu’r Parchedigion Reuben Roberts a W.R. Williams yn weinidogion yn y capel ar ôl ymddeoliad y Parch Richard Williams.

Y trydydd capel a chwaraeodd ran yn fy natblygiad crefyddol oedd Capel Cymraeg Ealing Green yn Llundain.  Byddwn yn gweithio yn Greenford yn ystod gwyliau’r Haf yn gwneud profion ar hufen ia ‘Lyon’s Maid’ a melysion ‘orange and lemon slices’.  Teimlad gwahanol oedd bod mewn capel Cymraeg yng nghanol Llundain ond fe gofiaf fod y capel yn bur lawn pob bore Sul.

A nawr, rwyf fi a Gwyneth  yn aelodau o Gapel Bethania, Rhuthun.

Hoffem ddiolch o galon i’r aelodau am y croeso cynnes a estynnwyd i ni ac am y cyfle i gymryd rhan yn y gweithgareddau.

Diolch i Gareth Pierce Jones am adael imi ei enwebu fo nesa.

             Glyn Jones 

Mae’r Bont eich angen chi!!

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at Sylw’r Mis dros y blynyddoedd. Mae’r rhestr o bawb sydd wedi cyfrannu ers 2010 ar gael i’r rhai â diddordeb gwybod pwy gyfrannodd a phryd!

Yn anffodus mae’n profi yn fwyfwy anodd i gael aelodau i ysgrifennu ac felly mae peryg y bydd rhaid mynd yn ôl ar ofyn yr un rhai i gyfrannu. Felly … os nad ydych wedi gwneud ac yn dymuno rhoi eich ‘Sylw’ mi fuaswn yn fwy na diolchgar.

Cysylltwch os gwelwch yn dda ar un o’r canlynol: