Y Bont Ebrill 2014

Diwinyddiaeth neu gyfiawnder?

Erbyn cyhoeddi y rhifyn hwn o’r Bont, mi fydd priodas gyfunrywiol yn gyfreithlon yng Nghymru, a’r drafodaeth eto’n bywiogi yn yr eglwysi ac yn ehangach. Er ein bod bellach wedi bod yn ymgiprus â mater cyfun rywioldeb ers blynyddoedd maith bellach, rhaid cydnabod fod y newidiadau hyn yn digwydd yn llawer rhy gyflym i lawer, a bod cryn anesmwythdod o fewn cylchoedd mwy ceidwadol y byd crefyddol.

Tebyg felly mai taw fyddai orau, a cheisio osgoi y cwestiwn wrth geisio osgoi tramgwyddo! A phe na bai yn fater mor bwysig, dichon y medrwn wneud hynny, ond gan ei fod yn fater o gyfiawnder, hawliau ac urddas pobl, byddai distawrwydd ei hun yn anamddiffynadwy. Credaf felly mai rhan bwysig o’n galwad heddiw, yw llawenhau fod hawliau llawn yn cael eu hestyn i’r gymuned hoyw, a gwneud ag a fedrwn i herio y rhagfarnau sy’n parhau.

Y Parch Morris Morris

Sylw’r Mis

Pan ddaeth mam i aros atom ni yn ddiweddar sylwodd wrth ddarllen drwy’r Bont fod y Parch Bob Jones, Wrecsam yn dod i Fethania ddechrau Mawrth ac fe wnaeth hi fy siarsio i fynd i wrando arno.

“Mae gan Bob neges wych bob amser,” meddai hi.

Felly es i i’r capel y bore hwnnw gan fy mod yn gwrando ar fy mam!  Ac yn wir roedd ei neges yn amserol ac roedd hi’n hawdd iawn gwrando arno.

Ond ei stori i’r plant apeliodd fwyaf ata i, efallai am fy mod, yn fy nhro, yn gorfod cymryd gwasanaeth yn yr ysgol ac eisiau syniadau am straeon da!  I’r rhai ohonoch chi nad oedd yn y capel y bore hwnnw, dyma’r stori yn fras.

Roedd dyn yn byw yn Affrica a’i waith oedd gwneud hetiau haul.  Un bore cododd cyn y wawr er mwyn teithio i dref gyfagos i werthu ei hetiau.  Roedd y siwrnai’n hir a’i sach  llawn hetiau’n drwm, felly wrth i’r haul godi a’r tywydd boethi,  arhosodd o dan goeden i gael hoe fach.  Syrthiodd i drwmgwsg.

Pan ddeffrodd y dyn ac estyn am ei sach sylwodd ei fod yn wag, ac ofnodd bod lladron wedi dwyn ei hetiau i gyd.  Ond o gornel ei lygad gwelodd liw yn fflachio yn y coed.  Edrychodd i fyny a gweld criw o fwncïod yn gwisgo’r hetiau!

Cododd ddwrn arnyn nhw ac fe wnaethon nhw godi dwrn yn ôl.  Taflodd gneuen atyn nhw ac fe wnaethon nhw daflu cnau yn ôl ato fo!

Cododd ei het a’i chwifio arnyn nhw ac fe chwifion nhw eu hetiau nôl.  Taflodd ei het ar y llawr ac fe daflodd y mwncïod yr hetiau i lawr i’r llawr hefyd.  Casglodd y dyn yr hetiau a’u gwthio i’w sach cyn ail-gychwyn ar ei daith i’r farchnad.

A neges y stori – Gwnewch i eraill fel yr hoffech chi iddynt  wneud i chi.

Pasg hapus i chi i gyd!

Bethan Tomos

Newyddion a Chyfarchion

Colli aelodau

Gyda thristwch y clywsom am farwolaeth dau aelod yn ystod y mis. Bu farw Mrs Annie Parry, Pentre gynt, yng Nghartref Maes Elwy. Rydym yn cydymdeimlo’n ddiffuant â’i merch Carol a’r teulu i gyd.

Yr un yw’n cydymdeimlad ag Enid Davies, Rhiw Iâl, Mari, Arwyn, Elan a Guto yn eu colled wedi marwolaeth David Salisbury Davies yng Nghartre’r Bwthyn.

Bu’r ddau yn aelodau ffyddlon yma ym Methania tra roedd iechyd yn caniatau.

Llongyfarchiadau i holl blant ac ieuenctid Bethania ar eu llwyddiant yn Eisteddfodau Cylch a Sir yr Urdd a dymuniadau gorau i’r rhai sy’n mynd ymlaen i’r Genedlaethol yn Y Bala ym mis Mai.

Sasiwn y Plant

Bydd y Sasiwn ym Methania eleni ar Ebrill 27. Bydd y plant yn cael eu holi ar y diwrnod ar stori Y Parti Gorau Erioed Tud 398 Beibl Bach i Blant (Stori’r Wledd Fawr Luc 14).

Dyma’r penillion i’w dysgu ar gyfer y Sasiwn. Bydd yr athrawon yn gwrando ar y plant ar Ebrill 13.

  • dan 5 oed: Pennill gyntaf Emyn 141 Caneuon Ffydd
  • Bl 1 a 2: Pennill gyntaf Emyn 372 Caneuon Ffydd
  • Bl 3 a 4: Dau bennill Emyn 372 Caneuon Ffydd
  • Bl 5 a 6: Pedwar pennill Emyn 374 Caneuon Ffydd
  • Bl 7 – 9: Pennill 1 a 3 Emyn 381 Caneuon Ffydd
  • Oedolion: Emyn 809 Caneuon Ffydd

Dramâu Bethania

Diolch yn gywir iawn i’r llu o bobl a gymrodd ran mewn unrhyw fodd i wneud yr Ŵyl Ddramâu yn llwyddiant eto eleni. Fe wnaed elw eto eleni ac felly fe gyflwynir rhodd ariannol eleni at Gymdeithas Alzheimers.

Cafwyd noson hwyliog a swper yn Nhafarn y Griffin, Llanbedr ar Fawrth 14. Diolch yn arbennig i Margaret am drefnu a hefyd i Steven Edwards a Rhian Iorwerth am baratoi ac arwain cwis.

Cyfarfodydd cyfnod y Grawys 2014

Cofiwch y cynhelir cyfarfod bob dydd Mercher o Fawrth 12 i Ebrill 9.

Bydd defosiwn o 12.30 i 1.00 ac yna Chinio Cynnil a chyfle i drafod y materion fydd wedi codi.

Gwelwch isod leoliad pob cyfarfod a fydd dros gyfnod y Grawys:

Ebrill 2 :

Capel Bathafarn

Ebrill 9 :

Dan ofal Eglwys Llanfwrog yn 10 Stryd Mwrog.

Cyfarfodydd Pregethu’r Groglith

Y Parch Nerys Tudor

Dydd Gwener, Ebrill 18

10.00 a 2.00 o’r gloch

(Bydd oedfa’r prynhawn yn oedfa gymun)

Croeso cynnes iawn i bawb

O Ble Daethoch Chi?

Tudor Jones

Cefais fy magwraeth gynnar yng Nghaernarfon, yr ieuengaf o bedwar o blant, a fi oedd yr unig un ohonom i’w eni yng Nghymru, gan fod Glyn, Helen ac Aled wedi eu geni yn Swydd Henffordd lle’r oedd dad yn gweithio. Yng Nghapel Engedi y cefais fy medyddio, ac roedd dad yn flaenor ifanc yno lle’r oedd cryn fwrlwm efo plant a phobl ifanc.

Yr ysgol gyntaf yr euthum ein pedwar efo’n gilydd oedd Ysgol yr Hendre efo Mr Glyn Owen yn brifathro, ac amser hapus iawn oedd hynny mewn ysgol newydd iawn ar y pryd. Dim ond tair blynedd go lew y bum ynddi, gan i dad brynu hen siop ‘Aldridges’ yn Heol Clwyd, a’i gwneud yn siop gwerthu dillad dynion a bechgyn. Felly, dechreuom ein haddysg yn Stryd y Rhos fel ag yr oedd cyn y dechreuwyd Pen Barras. Prysur iawn oedd bywyd y blynyddoedd cynnar, a ni’r plant yn gorfod tynnu’n pwysau – pawb â’i job! Roedd gas gen i blicio tatws!

Ar ôl lefel ‘O’, a’r tri arall wedi gadael adra’, a dad yn prynu siop arall yng Nghaernarfon, roedd yna swydd yn barod i mi – a dyna ddechra’ gweddill fy mywyd i.

Cariad mawr arall oedd criced ac o oedran ifanc iawn bum yn chwarae i dimau Rhuthun, a mwynhau pob munud. Am fy mod i wedi mynd yn syth o’r ysgol i weithio efo nhad, a doedd fawr o wyliau i’w gael yr amser hynny, fe aeth tri ohonom oedd yn ffrindiau ysgol i Awstralia am hanner blwyddyn. Dyna oedd newid a menter o ddifri. Fe gawsom lawer o swyddi gwahanol gan gynnwys llnau sgidia a hel grawnwin. Ar ôl dychwelyd adra, roeddwn i’n falch iawn o fwrw’n ôl i’m gwaith unwaith eto.

Bu siop Clwyd y Cigydd yn wag drws nesaf inni am dipyn o amser, cyn inni benderfynu ei wneud i fyny, a Dai Jones Llanilar ddaeth i’w hagor hi.

Cyfarfod â Carol o’r Bala a phriodi yn Eglwys Llanycil.  Mae Elin yn 15 oed, Rhys yn 13 a Ifan newydd gael ei 9 oed, a bywyd teuluol , capel ac ysgol yn ein gwneud yn brysurach nag erioed. Rydym yn ymwneud ym mywyd Bethania ac yn trïo bod mor selog â phosib, ac mae pawb wrth eu bodd, a Rhys yn mwynhau helpu taid i ddosbarthu’r ‘Bont’!

Tudor Trefor Jones

Diolch, Tudor, am erthygl ddifyr iawn.

              Eirian Lloyd