Y Bont Mai 2014

Dyfalbarhad!

Mae’n anodd i mi gredu, ond ymhen mis neu ddau, byddaf wedi bod yn y weinidogaeth ers chwarter canrif, ac wedi bod yn pregethu yn gyson ers bron i saith mlynedd yn fwy na hynny! Prin fod hyn yn destun mawl bellach, ond daw i’m meddwl fod yr eglwysi wedi gweld newidiadau aruthrol yn y cyfnod hwnnw, ac ni fedrwn ond dychmygu beth fydd hanes y chwarter canrif nesaf! Ar y naill law gellid rhamantu llewyrch y gorffennol, ond beth a’m trawodd i wrth ddarllen blwyddlyfr fy hen henaduriaeth yn ddiweddar, oedd fod cynifer o’r eglwysi yn parhau yn agored. Eglwysi na chaech ond dau neu dri mewn oedfa chwarter canrif yn ôl, ond sydd rywfodd yn dal i gynnal tystiolaeth yn eu hardaloedd. Diolch am ddycnwch y dau neu dri, yn mynnu parhau yng ngwyneb pob difrawder ac esgeulustod. I mi ag i hwy, efallai mai styfnigrwydd dyfalbarhad yw ein hunig rinwedd…’yr hwn a barhao hyd y diwedd’…

Y Parch Morris Morris

Sylw’r Mis

Mae Eilir, y gŵr, yn gweithio ar fferm odro, felly fi fydd yr un fydd yn mynd i godi Mabon, ein mab dyflwydd oed, bob bore pan fydd yn deffro. Fodd bynnag, roedd gen i gyfarfod ym Mhwllheli am 9yb rhyw ‘chydig wythnosau’n ôl a bu’n rhaid i Eilir gymryd y bore i ffwrdd.

Roedd y dryswch yn amlwg ar wyneb Mabon pan gerddodd Eilir i mewn i’w stafell wely’r bore hwnnw, a’r peth cyntaf ddwedodd o oedd ‘Lle mae Mam?’. Eglurodd Eilir fod Mam ym Mhwllheli ac mai dim ond y ddau ohonyn nhw oedd adra’r bore hwnnw. ‘O!…. Reit’ medda Mabon yn anghrediniol, yn amlwg yn ceisio prosesu’r ffaith yma. Serch hynny, mi gododd, ’molchi, gwisgo amdano, bwyta ei frecwast a neidio i mewn i’r car i fynd i’r feithrinfa yn ddigon di-lol.

Pan gyrhaeddodd Miri Meithrin, gofynnodd un o’r merched iddo ble roedd Mam ac mi eglurodd Mabon wrthi fod ‘Mam wedi mynd i chwarae i’r pwll peli!’. Doedd ryfedd ei fod wedi edrych mor syn ar Eilir yn gynharach!

Wrth gwrs, wrth feddwl am y peth, roedd hi’n hollol naturiol fod Mabon wedi ceisio gwneud synnwyr o’r wybodaeth a dderbyniodd trwy ei roi yng ngyd-destyn yr hyn yr oedd yn gyfarwydd ag o – mae o wedi bod mewn ambell i bwll peli ond erioed wedi bod ym Mhwllheli!

Rydw i’n ysgrifennu’r darn yma ar benwythnos y Pasg ac mae’r siopau wedi bod yn frith o wyau Pasg a chywion a chwningod bach del ers wythnosau.

Rydym ni fel Cristnogion yn amlwg yn ymwybodol o hanes y croeshoeliad a’r atgyfodiad, ac rydym yn cymryd yr wy fel symbol o’r ail-eni yn ganiataol, yn union fel y gwnaeth Eilir gymryd yn ganiataol bod Mabon yn gwybod mai tref oedd Pwllheli.

Ond tybed pa ganran o’r rheini sydd wedi bwyta eu pwysau mewn siocled dros yr ŵyl sydd yn ymwybodol o arwyddocâd yr wy? Oes peryg bod y rhan fwyaf, fel ’roedd Mabon yn anghyfarwydd â Phwllheli, bellach yn anghyfarwydd â gwir ystyr y Pasg ac yn meddwl mai dathliad o siocled a chywion a chwningod ydi’r penwythnos hir yma?

Erbyn hyn, ’rydw i wedi egluro wrth Mabon beth ydi Pwllheli ac mae’r dref bellach o fewn cwmpawd ei ddealltwriaeth. Mae’r un mor bwysig ein bod ni’n cyfleu i eraill, trwy ein gweithredoedd, beth yw ystyr y Pasg a Christnogaeth.

Caryl Vaughan

Mae’r Bont eich angen chi!!

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at Sylw’r Mis dros y blynyddoedd. Mae’r rhestr o bawb sydd wedi cyfrannu ers 2010 ar gael i’r rhai â diddordeb gwybod pwy gyfrannodd a phryd!

Yn anffodus mae’n profi yn fwyfwy anodd i gael aelodau i ysgrifennu ac felly mae peryg y bydd rhaid mynd yn ôl ar ofyn yr un rhai i gyfrannu. Felly … os nad ydych wedi gwneud ac yn dymuno rhoi eich ‘Sylw’ mi fuaswn yn fwy na diolchgar.

Cysylltwch os gwelwch yn dda ar un o’r canlynol:

Newyddion a Chyfarchion

Cydymdeimlo – Rydym yn cydymdeimlo â Brian a Margaret Jones, 39 Y Parc a hefyd Andrew, Bethan ac Elfyn, Hanna ac Elin wedi colli mam, nain a hen nain sef mam Brian yn ddiweddar. Rydym hefyd yn cofio at Brian ac yn gobeithio ei fod yn gwella ar ôl cyfnod yn yr ysbyty.

Llongyfarchiadau i Eleri a Richard Telpyn ar ddod yn daid a nain unwaith eto.  Leah a Dan yng Nghaerdydd wedi cael merch fach, Nansi Ella.  A llongyfarchiadau hefyd i Gwen a Robert Hughes a Nel Edwards ar fod yn hen daid a nain.

Priodas – Dymuniadau gorau i Richard, Galchog, a Ceri fydd yn priodi yma ym Methania ddiwedd y mis.

Llongyfarchiadau i rai o’n plant ac ieuenctid fu’n llwyddiannus mewn cystadleuaeth i fandiau pres ym Manceinion yn ddiweddar.

Pob lwc i’r rhai ohonoch fydd yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn y Bala ddiwedd y mis. Edrychwn ymlaen at glywed eich hanes. 

Atgofion Capeli cyn dod i Fethania

Rhaid diolch o galon i Eirian Lloyd am weithio’n ddygn ers blynyddoedd yn ein helpu ag erthyglau gwych i’r Bont. Diolch o galon i ti Eirian. Rydym am geisio rhywbeth gwahanol i ‘O Ble Ddaethoch Chi?’ mis yma.

Wrth i ni agosáu at y dathliadau yma ym Methania rydym am ddechrau cadwyn o erthyglau gan aelodau yn croniclo eu hatgofion am gapeli cyn ymuno â ni yma ym Methania.

Bydd yr awdur hefyd yn gyfrifol am enwebu’r awdur canlynol (gyda chaniatâd yr awdur nesa wrth gwrs!). Eirian chware teg sydd am wneud gyntaf a darllenwch ei hanes difyr isod. Diolch Eirian.

Atgofion Plentyndod a Chapeli

Eirian Lloyd

Treuliais fy chwe blynedd gyntaf ym mwynder Maldwyn. Nhad yn dechrau ar ei yrfa fel Gweinidog yn ardal Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Am le hyfryd i gael eich magu! Roedd bywyd mor hamddenol a’r bobl mor gyfeillgar a chroesawgar. Mae gen i atgof bach amdanon ni’n cael ein gwahodd allan am bryd o fwyd yn bur aml at aelodau ym Mhentrefelin, Y Brithdir a’r Cymdu.  Ambell dro trwstan! … fel un hen wraig annwyl yn gweini jeli. Mi syrthiodd llwyaid ar gefn y gath oedd wrth droed y bwrdd.  Sgwpiodd y jeli’n ôl i’r fowlen cyn i Pws ddechrau’i lyfu a dal ati i weini! Dro arall. Mynd am de pnawn. Llond bwrdd o ddanteithion bendigedig. Bara menyn wedi’i dorri’n dafelli tenau fel papur. Ond… ow…am siom! Roedd menyn cartre’ wedi daenu arnyn nhw a finne’n ei flasu’n rhy gryf!

Caredigrwydd a chyfeillgarwch sydd wedi para hyd heddiw.

Symud i Bentrecelyn. Yr un croeso gwresog ym Methel, Cricor a Chefn y Wern, Llanelidan! Cyfarfodydd di-ri ymlaen, – yn  gyngherddau, y gymdeithas a’r ‘Band of Hope’. Cofiaf wylio drama yn y festri a Cynthia Dodd, gwraig y Prifathro’n, actio rhan Jesebel yn wych.

Cynnwrf yr edrych ‘mlaen at y tripiau Ysgol Sul, i’r Rhyl gan amlaf. Dal bws yn Llysfasi, hwnnw’n ddybl decyr ac yn llawn!

Bwrlwm yr Eisteddfod Tai! Wel am hwyl… y paratoi, a’r capel yn llawn ar y noson. Eifion, fy mrawd yn canu Cerdd Dant! Mam wedi bod yn trio’i ddysgu. Am strach! Roedd hi’n sicr bod ganddo fo lais bach digon del ond sôn am brotestio! Mi gododd i ganu….dechreuodd pethau’n addawol …

Ddoi di Dei i blith y blodau

Ddoi di Dei?

Dei oedd enw Nhad, – edrychodd Eifion arno a dechrau chwerthin. Aeth o ddim pellach!

Arholiad Sirol – o diar! Mynd i’r festri ac eistedd yno’n cael ein harolygu’n gaeth!

Caredigrwydd Olwena Evans, ein hathrawes, wedyn. Cofio’r hwyl gawson ni’n cael picnic ar Fwlch yr Oernant.

Dosbarthiadau Morfudd Vaughan Evans, Llew Jones Ty’n Llanfair ac Evan Evans Tŷ Brith. Pob un yn ein haddysgu a’n difyrru yn ddadleuol a hwyliog. Darllen ambell enw oedd wedi’u cerfio ar farnais y sedd, a deall mai stiwdants o Lysfasi oedd wedi bod wrthi. D.S.Edwards, y Prifathro’n eu hanfon acw i Glan Aber i ymddiheuro i Dad, a fynte’n teimlo drostyn nhw’n dawel bach. Wedi’r cwbl roedd o wedi bod yn ifanc ei hun!

Cofio Eisteddfod yng nghapel bach Cricor. Parch Harri Parri’n beirniadu, a Mrs Lloyd, Cricor Farm yn garedig iawn yn agor ei thŷ i bawb gael mynd yno am ‘baned. Dyna’r rhan ore!

Capel Cefn y Wern – neu’r Capel Sinc. Parti Sion Corn a finne’n canu ‘Asyn Bychan’ a chrynu fel deilen. Fe gyrhaeddodd Sion Corn er gwaetha’r sŵn drwg, fel cyrhaeddodd o gapel Pentrecelyn a Cricor! Roedden ni blant y Mans yn lwcus o gael anrheg ym mhob un o gapeli Dad!

A ninne’n byw mor agos at y capel doedd Dydd Sul ddim yn ddiwrnod hawdd i Mam! Ofn am bywyd inni gicio’r bêl drwy ffenestr y capel! Felly, chawn ni ddim mynd allan i chwarae tra roedd oedfa ‘mlaen!

A’r Pasg…. Byddwn yn edrych ‘mlaen at Ddydd Gwener Groglith. Dechrau’r dydd drwy gerdded efo Dad i gapel Graigfechan i’r oedfa. Dod adre i ginio Pasg blasus Mam, eistedd wedyn a mwynhau ŵy Pasg tra’n gwylio ‘Jesus of Nasareth’ gyda Robert Powell yn portreadu’r Iesu, a bod dan deimlad. 

Atgofion plentyndod! Mae nhw mor werthfawr!

Diolch i Huw McKee am adael imi ei enwebu fo nesa.

             Eirian Lloyd

Myfyrdodau a Phrydau Cynnil Cytûn

Am bum prynhawn dydd Mercher, cyn Sul y Blodau (Ebrill 13), cafwyd myfyrdod a phryd bwyd cynnil i’n paratoi at y Pasg wedi’i drefnu gan bwyllgor lleol Cytûn. Cafwyd cyfarfod ym Methania (Presbyteraidd), yng Nghanolfan Awelon dan arweiniad y Crynwyr; yn yr Eglwys Gatholig, yng Nghanolfan Awelon dan arweiniad cyfeillion Bathafarn (Wesleaidd); ac yn olaf yn rhif 10 Stryd Mwrog yng ngofal cyfeillion plwyf Llanfwrog.

Cafwyd myfyrdod am oddeutu hanner awr a thrafodaeth cyn nesáu at ein byrddau i fwynhau cyfeillach a chyfeillgarwch. Roedd yr holl fyfyrdodau yn seiliedig ar yr ysgrythur ac wedi eu strwythuro’n gelfydd a’u cyflwyno’n glir gyda thaflenni i’w darllen a’u dilyn. Hyn yn arwain at drafodaethau cryno ac adeiladol.

Roedd y cyfarfodydd yma’n werthfawr, nid yn unig i’n goleuo a’n helpu i werthfawrogi Pasg ein Harglwydd Iesu, ond yn gyfle i ni gyfeillachu yn y gwahanol eglwysi sydd yn y dref ac i sylweddoli mor hyfryd yw uno â’n gilydd dan arweiniad yr Ysbryd Glân.

Bu’r Eglwysi i gyd yn ddieithriad yn hael eu cyfraniad at y prydau cynnil a derbyniwyd rhoddion er cefnogi gwaith y Samariaid a Chymorth Cristnogol.

Diolch i bawb a drefnodd y cyfarfodydd yma a gobeithio y cawn gyfle’n fuan eto i uno mewn cyfeillgarwch er adnabod ein gilydd yn well a gwerthfawrogi neges yr Efengyl.

Margaret Jean Jones