Y Bont Mehefin 2014

‘Believing without belonging’

Dyma’r term a ddefnyddir i ddisgrifio cynifer yn ein dyddiau, sydd yn dal i gredu, ond nad ydynt yn dymuno ‘perthyn’. Wedi’r cyfan, mae’r ystadegau yn parhau i dystio fod canran uchel iawn yn parhau i arddel ffydd o ryw fath, tra bod yr un ystadegau yn cyhoeddi angau buan i lawer o’r hen sefydliadau crefyddol. Mae’n swnio fel paradocs rhyfedd, ond daw goleuni wrth i ni ddysgu fod pobl bellach yn gwahaniaethu rhwng credu a pherthyn, a thra eu bod yn parhau i anwylo syniad am Dduw, y maent am gefnu ar unrhyw fath o ‘sefydliad’ sydd am geisio diffinio neu ffrwyno eu cred.

Ymddengys felly y byddai o les i’r eglwys ehangu ei gorwelion, gan fod yn llwyfan i ysbrydoled eang a rydd i bobl le a chyfle i ymdeimlo ag, ac i fynegi eu ffydd eu hunain. Llai o gyffion a mwy o gyfle…

Y Parch Morris Morris

Sylw’r Mis

Methu byw hebddo … neu ddim am fyw hebddo?

Eistedd yn ‘stafell aros y syrjeri roeddwn i, yn aros fy nhro. Sylwais fod sawl pen yn gwyro. Cyfrifais naw person wrthi’n byseddu’u ffôn symudol. Dim sgwrsio, dim darllen cylchgronau na phosteri ar y waliau, dim ond edrych fel petaent wedi ymgolli yng nghynnwys y sgrin fach. Cefais f’atgoffa  am drafodaeth glywais yn ddiweddar, Ydy technoleg heddiw’n beryg’ o’n gwneud yn genhedlaeth anghymdeithasol? Mynegodd un pryder fod rhai plant yn dechrau’r ysgol yn methu â siarad yn rhwydd. Pryderodd  un  arall fod y gallu i gyfathrebu dros gownter siop yn diflannu gan mai ar y we y bydd llawer yn prynu a gwerthu’r dyddiau yma. Tybed ydy estyn am y ffôn i’w gymharu ag estyn am y nicotin – y caethdra – gwell checio dro ar ôl tro rhag ofn bod neges neu alwad.

Oes peryg’ inni golli cyfleon gwerthfawr – cyswllt llygad am lygad, sgwrs, trin a thrafod, mynegi barn a dod  i ddeall ein gilydd?

Mae cyswllt personol yn siŵr o fod yn fwy llesol inni yn y pen draw, gan gyfoethogi’n bywydau mewn modd na all yr un iPad na Smartphone ei wneud.

Does dim dwywaith nad yw’r rheini’n fuddiol o’u defnyddio yn y lle iawn ar yr amser iawn, a llawer iawn o fanteision iddynt. Ychydig ddyddiau’n ôl roeddwn yn dyst i glywed gŵr ifanc yn darllen stori i blant o’i ffôn symudol yn y sêt fawr – o’r safle we  Beibl.net.

Mae Duw yn llond pob lle

Presennol ym mhob man …

… drwy bob cyfrwng, ers dyddiau diwifr y telegram a’r llythyr llawysgrifen, hyd ein dyddiau technolegol ni – yr iPhone a’r iPad a pha un bynnag ‘i’ arall ddaw yn y dyfodol.

Cawn gyswllt personol ag Ef drwy ba gyfrwng bynnag fynnwn ni.  Allwn ni fyw Hebddo?

(Tro nesa’ gwelwch fi’n byseddu’n ffôn mewn lle cyhoeddus atgoffwch fi am y pwt yma!)

Eirian Lloyd

Mae’r Bont eich angen chi!!

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at Sylw’r Mis dros y blynyddoedd. Mae’r rhestr o bawb sydd wedi cyfrannu ers 2010 ar gael i’r rhai â diddordeb gwybod pwy gyfrannodd a phryd!

Yn anffodus mae’n profi yn fwyfwy anodd i gael aelodau i ysgrifennu ac felly mae peryg y bydd rhaid mynd yn ôl ar ofyn yr un rhai i gyfrannu. Felly … os nad ydych wedi gwneud ac yn dymuno rhoi eich ‘Sylw’ mi fuaswn yn fwy na diolchgar.

Cysylltwch os gwelwch yn dda ar un o’r canlynol:

Newyddion a Chyfarchion

I ben draw’r byd – Dymuniadau gorau i Lowri, Galchog sy’n mynd i Seland Newydd am flwyddyn a hefyd i Catherine, Lodge sy’n mynd i Awstralia am gyfnod. Edrychwn ymlaen at gael clywed eich hanes pan ddowch yn ôl.

Llongyfarchiadau i Richard, Galchog a Ceri ar eu priodas a phob dymuniad da am ddyfodol hir a hapus i chi’ch dau.

Gwella. Da deall bod Brian Jones, y Parc adref o’r ysbyty. Cofion atoch a gobeithio eich bod yn cryfhau.

Llongyfarchiadau mawr i’r plant a’r ieuenctid fu’n llwyddiannus yn Eisteddfod yr Urdd yn y Bala.

Ysgol Sul – Tybed oes ‘na unrhyw un fyddai’n fodlon cymryd tro i rannu dosbarth Ysgol Sul oedran 11-14 gydag Eirlys Tomos? Mae ’na griw ffyddlon a hwyliog yn y dosbarth a byddem yn falch iawn o gael rhywun fyddai’n fodlon ymuno ag athrawon y festri ambell fis er mwyn ysgafnhau’r gwaith. Os oes gennych ddiddordeb cysylltwch â Carys neu Eirlys.

Pererindod Bydd y Bererindod eleni ar Fehefin 22 yn ymweld â’r Ysgwrn, cartref Hedd Wyn, a chanolfan Ednowain yn Nhrawsfynydd. Yna ymlaen i Abaty Cymer a swpera yn Nhafarn Eryrod Llanuwchllyn ar y ffordd adref. Enwau i Iwan Vaughan Evans os gwelwch yn dda.

Te yn yr Ardd. Cynhelir te prynhawn yn 37 Llwyn Menlli, sef cartref Eilir, Bethan, Sion a Dafydd Edwards ar Fehefin 21 rhwng 2 a 4 yn y prynhawn. Bydd yr elw at Gapel Bethania ac elusen Cancr y Fron. Croeso cynnes i bawb.

Atgofion Plentyndod a Chapeli

Fel y gŵyr llawer ohonoch fe symudais i Gorwen yn 1973 efo mam, ‘nhad a chwaer Nerys yn sgîl swydd fy nhad ym Manc y Midland. Oherwydd ein bod fel teulu wedi symud amryw o weithiau fe gefais brofiad o nifer o gapeli a chymunedau arbennig iawn.

Cefais fy ngeni yng Nghaerdydd lle’r oedd fy nheulu yn aelodau yng Nghapel Minny Street. O fewn wythnosau symudasom i Aberafan lle cefais fy medyddio yng nghapel Tabernacl Newydd gan y Parch Hefin Elias. Wedyn ymlaen i Priordy yng Nghaerfyrddin dan ofalaeth y Parch T James Jones. Yn 8 oed codi pac eto ac ymlaen i Gorwen i gapel Bethesda dan ofal Gareth Huws. Cafodd Iona a minnau gyfnodau byr ym Methesda, Yr Wyddgrug a Chapel y Dyffryn Llandyrnog cyn cyrraedd yma i Fethania.

Mae’r atgofion mwya’ sydd gennyf tra’n ifanc yn deillio o gapel Priordy, Caerfyrddin. Roedd y capel hwn wedi’i leoli wrth ymyl y dderwen enwog honno yn y dre ac yn gapel llawn bwrlwm ac egni. Cymuned arbennig a thros gant o blant a ffrindiau i mi yn yr ysgol Sul.

Daw cymaint o atgofion i’r meddwl am y capel – y direidi a’r hwyl y cawsom yn hogiau ifanc yn chwarae ar y ‘railings’ uchel tu allan i’r festri; y chware ‘tip off ground’ fel y gwna ein plant yma ym Methania wedi oedfaon. Y tripiau ysgol Sul, yn enwedig yr un ar draeth Aberafan pan es i ar goll a holl aelodau’r capel yn chwilio amdanaf! Roedd tynnu coes am ddameg y ddafad golledig pan ddarganfuwyd fi, roeddwn ar y pryd yn sgwennu fy enw yn y tywod er mwyn i’r hofrenyddion fy narganfod i! Atgofion melys hefyd o ddweud adnodau yn y sêt fawr ar y Sul, ac am adeg y Nadolig a’r cyngherddau a pharti Ysgol Sul pan oedd Sion Corn yn ymweld. 

Un o’r atgofion mwyaf doniol o Gaerfyrddin oedd pan ddathlwyd  canmlwyddiant y capel yn 1972. Roeddem ni’r plant mewn rhes yn y set fawr yn dweud ein hadnodau fesul un a bu chwerthin mawr am un adnod. Merch fach dair oed yn cyhoeddi ei hadnod yn glir …

      “Myfi yw Halen a Pupur”!

Pan ofynnodd y gweinidog iddi ei hailadrodd gan ei fod yn adnod mor unigryw,  wrth gwrs fe gafwyd yr union adnod eto gan ddifyrru’r holl gynulleidfa!

Yr atgof mwyaf trawiadol i mi oedd pan yn saith oed, cerdded i’r ysgol Sul ar ddiwrnod braf efo Nerys a nhad. Er mor braf, roeddwn yn gwisgo ‘duffle coat’ a’r ‘hood’ am fy mhen. Pan oedd angen croesi’r ffordd fawr doeddwn ddim am afael llaw Nerys am ryw reswm plentynnaidd, ac o fewn dim camais allan o flaen car. Cefais fy nharo. Niweidiais fy nghoes a mhen (ia … fy mhen sydd yn esbonio tipyn!).

Cefais fy nghario i dŷ agos i aros ambiwlans ac wedyn i ysbyty Glangwili lle deallais fy mod wedi torri fy nghoes (ond bod ‘hood’ y ‘duffle coat’ wedi arbed niwed i ‘mhen). Y noson honno, oriau ar ôl dod adref o’r ysbyty, sylwodd Mam fod y ddwy geiniog i’r casgliad dal yng nghledr fy llaw … Arwydd amlwg fod mod yn fab i ddirprwy reolwr banc ac i ‘Gardi’ o fam!

Mae gennyf atgofion lu am Fethesda yng Nghorwen a pha mor garedig bu Gareth Huws wrth deulu bach o’r de â dim cyswllt yma yn y gogledd … ond falle cawn yr hanes hynny os daw’r gadwyn yn ôl i mi rywdro yn y dyfodol!

Diolch i Iwan Vaughan Evans am adael imi ei enwebu fo nesa.

             Huw McKee

 

Pererindod

Mi fydd y Bererindod eleni yn cychwyn o Fethania ar fore Sul Mehefin 22 wedi’r gwasanaeth gan ein Gweinidog am ddeg y bore.

Diolch i Helen ac Iwan Vaughan Evans am drefnu eleni.

Mi fyddwn yn teithio i’r Ysgwrn a Chanolfan Ednowain yn Nhrawsfynydd. Yno y cawn brofi dipyn o hanes yn yr arddangosfa a chlywed am ddau o feibion enwocaf Trawsfynydd, ‘Y Sant a’r Bugail’ sef Sant John Roberts a Hedd Wyn.

Wedyn awn ymlaen i Abaty Cymer cyn terfynu â swper yn Nhafarn Eryrod Llanuwchllyn.

Am fwy o wybodaeth ewch are y gwefannau canlynol ac i sicrhau lle cysylltwch ag Iwan os gwelwch yn dda ar 704162.

http://www.trawsfynydd.com/Cymraeg/llys_ednowain.html

http://cy.wikipedia.org/wiki/Abaty_Cymer