Y Bont Rhagfyr 2014 ac Ionawr 2015

Wrth ddod at breseb Iesu

Ni fedrwn ond rhyfeddu

At dynner wyrth y geni

Yng ngwlad Jwdea gynt;

Y fam a’r tad a’r baban

Yn deulu dedwydd diddan

Yn un a’r wyrth ym mhobman

Lle crwydra’r pedwar gwynt.

A neges fawr ei fywyd

A baich ei galon hefyd

Oedd nad oes darn o’r hollfyd

Tu hwnt i gariad Duw;

Am gariad oedd ei eiriau

Am gariad atom ninnau

Am gariad hyd at angau

At deulu dynol ryw.


 

Fe dreuliodd Iesu ei yrfa

Ymhell o sŵn y dyrfa

O amgylch Galilea

Yn fodlon iawn I’w le;

Hyd nes I Ioan ddatgan

Y deuai un yn fuan

Yn well nag ef ei hunan

A’r Iesu oedd efe.

 


 

Ac wrth I ninnau foli

Ar ŵyl y mab eleni

A chofio’r baban Iesu

Yn isel yn y gwair;

Anghofiwn am angylion

A gwasanaethwn ddynion

Gan garu ein gelynion

Ar batrwm baban Mair.

 

Y Parch Morris Morris

Sylw’r Mis

hysbysebion

Beth sydd gan y tri pherson yma a’r ddau anifail yn gyffredin?

Unrhyw syniad??

Wel mae bob un ohonynt yn wynebau cyfarwydd sydd yn cael eu defnyddio mewn hysbyseb Nadolig gan y prif archfarchnadoedd a siopau’r Stryd Fawr.

  • Ant a Dec yw wyneb Morrisons!
  • Peter Andre yw wyneb Iceland!
  • Joules Holland wyneb Aldi!
  • Peppa Pinc wyneb Tesco !
  • Monty y Pengwin John Lewis!

Gan ddefnyddio’r wynebau hyn yn eu hysbyseb mae’r cwmnïoedd mawrion yma yn gobeithio denu miloedd ar filoedd o bobl gyffredin i mewn i’w siopau i brynu llwyth o fwyd ac anrhegion.

Yn sicr mae pawb yn prynu gormodedd o fwyd, a hanner hwnnw yn cael ei wastraffu!

Yn y flwyddyn 1999 roedd poblogaeth y byd yn 6 biliwn, erbyn 2011 roedd wedi codi i 7 biliwn. Erbyn heddiw mae poblogaeth y byd yn 7,211,239,210.  Hawdd iawn felly yw rhagweld bydd y ffigwr yma yn 8 biliwn erbyn y flwyddyn 2025.

A wyddoch chi fod yna 7 miliwn tunnell  o wastraff bwyd yn cael ei gynhyrchu bob blwyddyn ym Mhrydain Fawr? Pa ryfedd felly fod yna brinder bwyd mewn rhai gwledydd, a’r boblogaeth yn tyfu ar ffasiwn raddfa a chymaint o fwyd yn cael ei ddifetha.

Mae’r amaethwyr o dan dipyn o bwysau i gynhyrchu mwy o fwyd bob blwyddyn. Er bod systemau amaeth yn gwella bob blwyddyn gan ddefnyddio technoleg newydd, ni fydd byth yn bosib cynhyrchu digon i gadw fyny â thwf y boblogaeth.

Felly gadewch i ni y Nadolig hwn weld wyneb Iesu Grist a mynd ati i wneud ein rhan fach ni i fod yn fwy cyfrifol a gwastraffu llai. Rhown ddiolch  i Dduw am hyn yr ydym yn ei dderbyn o ddydd i ddydd, gan wir werthfawrogi ein breintiau.

Eilir Edwards

Newyddion a Chyfarchion

Gwella – Rydym yn falch o glywed bod Morfudd Pierce adref ac yn gwella ar ôl cyfnod yn Ysbyty Rhuthun. Yr un modd mae Brynmor Roberts yn gwella ar ôl triniaeth. Dymuniadau gorau i’r ddau ohonoch.

Ysbyty – Deallwn fod Glyn Jones, Moelfa ac Ena Woolford yn yr ysbyty. Anfonwn ein cofion atynt hwythau.

Cydymdeimlo – Rydym yn cydymdeimlo’n ddiffuant â Rhian Iorwerth a’r teulu wedi i Rhian golli ei thad yn ddiweddar.

Seren ar y Sgrin – Welsoch chi Beti Watson a Haf Jones ar S4C yn ddiweddar yn sêr y ffilm fer Jiw Jiws a ffilmiwyd dros yr haf?

Llongyfarchiadau ichi ar fentro i fyd y cyfryngau. Efallai i chi weld ambell wyneb cyfarwydd arall yn ystod y ffilm hefyd!

Ar y Radio – Sgwn i faint ohonom sy’n codi’n ddigon cynnar i glywed Robat Arwyn ar y radio ar fore Sul? Arwyn sy’n cyflwyno’r rhaglen gerddorol am 6 o’r gloch y bore. Llongyfarchiadau i ti Arwyn a phob lwc.

Hunangofiant – Llongyfarchiadau i Rhys Meirion ar ei lyfr sydd newydd ei gyhoeddi. Cafwyd noson lansio arbennig iawn ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at ddarllen y gyfrol.

Penwythnos y Plant – Diolch i bawb wnaeth y penwythnos prysur yma’n un llwyddiannus unwaith eto eleni. Llwyddwyd i gasglu £500 at Apêl Plant Mewn Angen a hefyd i lenwi cant ac un o focsys i’w hanfon i blant difreintiedig. Diolch arbennig i Hedd a Non unwaith eto am yr holl waith trefnu.

 

Atgofion Plentyndod am Gapeli

Cefais fy magu a’r fferm yn Bryn Melyn yn ardal Rhyduchaf, pentre bychan a thawel ar gyrion y Bala. “Lle agosâ i’r nefoedd” yn ôl dad!

Yr oeddem fel teulu, sef dad a mam a Gaynor fy chwaer hŷn, yn mynychu capel Talybont dan ofal y Parch Goronwy Prys Owen, er mai adre ar yr aelwyd y cefais fy medyddio.

Roedd ein sêt capel ni yn  agos iawn i’r cefn! Byddai Dad yn cerdded i lawr i’r gwaelod ac eistedd yn ymyl yr organ i godi canu, tra roedd  mam bob amser yn eistedd rhwng Gaynor a fi rhag ofn i ni ddechrau giglo neu binsio’n gilydd! Roedd hetiau gan y merched yn ddigon i greu hwyl i ni blant. Dwi’n cofio unwaith gweld clamp o het  blu ffesant o’n blaen, a phan ddaeth peswch caled a thisian mawr o dan yr het fe chwifiodd y plu nôl a blaen fel pe tai yn hedfan! Wel sôn am chwerthin, a mam druan yn chwys domen. Ac mi gefais i hensied gan dad ar ôl mynd adre.

Byddwn yn cerdded i’r ysgol Sul yn y prynhawn gyda mam. Roedd y  dosbarth cyntaf gyda Anti Gwen, Gwenfeistrol, athrawes annwyl a ffeind. Yn ystod yr haf byddai’n mynd â ni  am dro i gasglu blodau gwyllt, ac yna dod yn ôl i’r festri fach i roi enwau arnynt. Bob Nadolig byddai yn rhoi hances boced a blodyn arni yn anrheg.

Pan yn saith oed, roeddwn yn nosbarth Anti Med. Anti Medwen fyddai yn dysgu ac yn arwain côr y plant, gyda Beti Richards yn cyfeilio. Dyma ddechrau diddordeb a hyder i ganu ar lwyfan. Fe gafwyd cryn lwyddiant yn eisteddfod Talybont a oedd yn cael ei chynnal ar ddydd Llun y Pasg. Roedd y capel yn morio o ganu gwerin, cerdd dant, unawdwyr ac adroddwyr, tra roedd merched y capel yn y festri fach yn darparu lluniaeth am bris rhesymol. O amgylch y festri byddai gwaith llaw, celf a darluniau wedi eu dosbarthu  a’u beirniadu i bawb gael gweld.

Pan ddaeth yr amser i symud i ddosbarth y bobl ifanc gyda Mr Goronwy Richards, Tyn Ffordd, roedd rhaid cofrestru ein presenoldeb. Ond cyn rhoi ein pennau i lawr i ddysgu’r wers, roedd mater o drin a thrafod hynt a helyntion nos Sadwrn!

Erbyn hyn roedd y Parch J W Jones wedi gadael ar ôl sawl blwyddyn hapus, a’r diweddar Barch Bryn Ellis wedi dod i’n plith. Cofiaf ddod at ein gilydd i gymdeithas ‘Y Rhwyd’ a chyd dysgu salmau, adnodau ar y cof cyn cael fy nerbyn yn aelod cyflawn o’r capel.

Byddai tripiau ysgol Sul i ‘Butlins’ a mam bob amser yn nerfus rhag ofn inni fynd i’r “deep end”. Cofiaf gôr ysgol Sul yn canu carolau o amgylch yr ardal a gorffen y noson yn nhŷ Dr Ian a chael dewis o focs siocled Milk Tray. Bu dad yn Siôn Corn yn y capel am flynyddoedd a chawn fy siarsio i beidio dweud wrth neb! Roedd dad hefyd yn mynychu cyfarfodydd y Seiat ar ôl yr oedfa. Hyd at heddiw dwi’n cael fy atgoffa o pan ‘roes fy  mhen yn sownd mewn  cadair! Ar ôl gweiddi a chrïo, Gaynor yn cerdded i nôl dad o’r capel, a dad yn dod adre yn ei fraw gyda’r blaenoriaid a llifio’r gadair, a oedd yn set o chwech, er mwyn fy rhyddhau!

Mae gen i atgofion o addurno’r allor a ffenestri’r capel â llysiau a ffrwythau ar gyfer diolchgarwch a’u cyflwyno mewn bocsys i’r henoed ym Mron y Graig. Mae blynyddoedd wedi hedfan heibio ac atgofion melys iawn. Yn 1979 ymadael â Chapel Talybont  ar ôl priodi Rich, mewn gwasanaeth hyfryd yng nghwmpeini teulu a ffrindiau. Ie, roedd rhaid cau drws y capel bach cefn gwlad a throi i mewn i Gapel  Bethania .

Mae pobl yn dweud am beidio  edrych yn ôl. Edrych ymlaen sydd raid. Ond wir, mae’r hel atgofion wedi bod yn botel ffisig, yn eli i’r galon ac mae niolch yn fawr.

Diolch i Rhian Jones, Y Lodge am adael i mi ei henwebu ar gyfer mis nesaf.

Eleri Hughes, Telpyn

Penwythnos y Plant

pudsey

Fe gawson ni benwythnos i’w gofio pan gynhaliwyd Penwythnos y Plant mis diwethaf. Roedd y bwrlwm a welwyd ym Mharti Pudsey’n argoeli y byddem yn cael ymateb da a gwireddwyd hynny pan gafodd yr arian ei gasglu ar y diwedd. Llwyddwyd i godi £500, sy’n swm anrhydeddus iawn, tuag at apêl Plant Mewn Angen. Diolch i bawb – yn blant ac yn oedolion – am werthu wrth y stondinau, am weithio yn y gegin, am fod wrth y drws, am brynu’r nwyddau a chymryd rhan yn y gweithgareddau.

Llwyddwyd i lenwi 101 o focsys esgidiau ar gyfer Operation Christmas Child a chasglwyd £388 tuag at y cludiant. Unwaith eto, dyna swm anrhydeddus iawn. Cyfanswm cagliad y penwythnos, felly, yw £888, gyda phob ceiniog ohono’n mynd i leddfu rhywfaint ar y caledi mae rhai o blant y byd yn ei wynebu.

Diolch o waelod calon i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw fodd tuag at Benwythnos y Plant.

Gŵyl Ddramâu  Bethania 2015

Nos Lun 16 Chwefror  2015 i Nos Sadwrn 21 Chwefror  2015

Mae’r gwaith o ddarllen a chastio dramâu ar gyfer yr Ŵyl Ddramâu wedi dechrau unwaith eto.  Er mwyn hwyluso’r gwaith i Iwan (ac i arbed trafferth ddechrau’r  flwyddyn)  erfyniaf arnoch i roi gwybod i Iwan heddiw! (ar 704162) os na fedrwch chi gymryd rhan yn yr ŵyl.  Os na fydd yn clywed gan y rhai sydd arfer perfformio, bydd yn cymryd yn ganiataol eich bod ar gael i actio!

Os nad ydych wedi gallu cymryd rhan yn y dramâu yn y blynyddoedd diwethaf, cofiwch gysylltu os hoffech ymuno â ni yn hwyl y dramâu (boed o ar y llwyfan neu tu ôl i’r llenni).

Diolch yn fawr iawn ichi gyd am eich cydweithrediad.

Yn gywir, Margaret (705604)

Brecwast Blasus

Bore Sadwrn Rhagfyr 6

Ymunwch â ni am Frecwast Blasus fore Sadwrn Rhagfyr 6 11:00 – 1:00 yn Festri Capel y Dyffryn, Llandyrnog ar gyfer Apêl Patagonia Gruffudd McKee

Dathlu 150 mlwyddiant yr achos.

Yn 2015 byddwn yn dathlu 150 mlynedd yr achos yma ym Methania.

Fel rhan o’r dathlu rydym yn chwilio am hen luniau a hanesion am y capel dros y cyfnod yma. Os oes gennych unrhyw luniau y gallech eu benthyg i ni neu atgofion yr hoffech eu rhannu rhowch wybod i un o’r blaenoriaid.

Byddai’n braf gallu trefnu arddangosfa a chynnal noson i olrhain hanes y capel o’r cychwyn

Mae’r Bont eich angen chi!!

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at Sylw’r Mis dros y blynyddoedd. Mae’r rhestr o bawb sydd wedi cyfrannu ers 2010 ar gael i’r rhai â diddordeb gwybod pwy gyfrannodd a phryd!

Yn anffodus mae’n profi yn fwyfwy anodd i gael aelodau i ysgrifennu ac felly mae peryg y bydd rhaid mynd yn ôl ar ofyn yr un rhai i gyfrannu. Felly … os nad ydych wedi gwneud ac yn dymuno rhoi eich ‘Sylw’ mi fuaswn yn fwy na diolchgar.

Cysylltwch os gwelwch yn dda ar un o’r canlynol: