Y Bont Tachwedd 2014

Rhwng diolch a dathlu…

Rhyw fis felly yw Tachwedd, mis rhwng y cynhaeaf a’r Nadolig, mis i gofio un peth a pharatoi at rywbeth arall. Ond nid i mi! Ym mis Tachwedd y caf fy mhen-blwydd, ac mae hwnnw yn ddydd i ddathlu. Nid fy mod yn credu mod i yn fawr gwerth i’r byd mawr, ond yr wyf wedi dysgu’r wers bwysig o garu fy hun, a dydd i ddathlu fi fy hun fydd y dydd pen-blwydd.

Efallai fod hyn yn swnio’n od, gan fod yr eglwys wedi creu sgâm greulon wrth geisio ein cael i deimlo yn gyson annigonol a diwerth. Wedi’r cyfan, iddi hi, nid ydym ond pechaduriaid annheilwng yn byw ar weddillion trugaredd y teyrn tragwyddol! Ond i Gristnogaeth fwy cymedrol ac iach, yr ydym oll yn unigryw a phrydferth a gwerthfawr, yn llawn o bosibiliadau perthynas a chariad. Bydded i ni oll wneud amser i werthfawrogi’r hyn ydym, a throi’r eglwys yn le i werthfawrogi ein gilydd.

Y Parch Morris Morris

Sylw’r Mis

Bocs Gobaith

Mae’n anodd credu bod bron flwyddyn wedi mynd heibio ers i ni lenwi dros 100 o focsys esgidiau ar gyfer Operation Christmas Child y llynedd. Mae’n anodd credu hefyd ei bod hi’n bryd i ni lenwi rhagor!

Bocsys esgidiau Operation Christmas Child ar eu ffordd i bentref anghysbell ym Mongolia ar gefn ychen

Bocsys esgidiau Operation Christmas Child ar eu ffordd i bentref anghysbell ym Mongolia ar gefn ychen

Does dim dwywaith nad yw’r casgliad blynyddol o focsys sy’n mynd o Fethania i’w rhoi’n rhoddion i blant anghenus ar draws y byd yn gwneud gwahaniaeth i’r plant sy’n eu derbyn – mae rhodd syml o focs esgidiau sy’n llawn anrhegion yn rhoi gobaith, mae’n gallu newid bywyd plant ac mae’n gallu trawsnewid cymunedau. Does dim dwywaith hefyd fod gwir angen y rhoddion hyn arnyn nhw oherwydd eu tlodi a’u hamodau byw. Mae un bocs syml yn codi calon ac yn rhoi gwên ar wynebau plant a fyddai, fel arall, yn wynebu anobaith a chaledi bob dydd o’u bywyd.

Dyma ffaith ryfeddol: erbyn hyn, mae dros 69,000,000 – ie, dros chwe deg naw miliwn – o focsys esgidiau wedi cael eu dosbarthu i blant mewn 130 o wledydd ar draws y byd. Bydd cyfle i ni wneud ein rhan eleni eto yn ystod Penwythnos y Plant ar Dachwedd 15-16. Mae’r penwythnos yn addas ar gyfer plant ac oedolion.

Bydd Parti Pudsey ar fore Sadwrn, Tachwedd 15, a byddem yn ddiolchgar iawn am roddion ar gyfer y stondinau os gwelwch yn dda e.e. cacennau, llyfrau, teganau, planhigion a.y.b. Dyma gyfle i chi dwtio’r cypyrddau a dod ag eitemau dydych chi ddim eu heisiau erbyn hyn! Dewch i gefnogi Parti Pudsey os gwelwch yn dda – bydd paned, bisgedi a chroeso cynnes yn disgwyl amdanoch chi. Y tâl mynediad yw £2.

Byddwn yn llenwi bocsys esgidiau ar fore Sul, Tachwedd 16, a byddem yn croesawu’r rhoddion arferol os gwelwch yn dda – yn nwyddau ac yn arian.

Llawer iawn o ddiolch am bob  cefnogaeth.

Plant ym Mongolia yn agor eu bocs esgidiau’n awchus

Plant ym Mongolia yn agor eu bocs esgidiau’n awchus

Hedd ap Emlyn

Newyddion a Chyfarchion

Babi newydd

Llongyfarchiadau i Caryl ac Eilir Roberts, Hafan, Ffordd Dinbych ar enedigaeth Eben Vaughan, brawd bach i Mabon.

Ysbyty

Mae Morfudd Pierce wedi treulio cyfnod yn Ysbyty Rhuthun. Gobeithio y byddwch yn gwella’n fuan.

Cydymdeimlo

Rydym yn cydymdeimlo’n ddiffuant â Robat a Carys Morgan a’r teulu yn eu profedigaeth o golli mam, nain a hen-nain annwyl iawn sef Olwen Morgan, Pentrefelin.

Patagonia

Dymuniadau gorau i Sion McKee ar ei daith i Batagonia gyda’r Urdd. Edrychwn ymlaen at gael yr hanes wedi iti ddod yn ôl Sion.

Llongyfarchiadau hefyd i Gruffudd McKee ac Elan Meirion ar gael eu dewis i fod yn rhan o sioe gerdd fydd yn cael ei pherfformio ym Mhatagonia fis Awst nesaf i ddathlu 150 mlwyddiant y Wladfa.

 

Dathlu 150 mlwyddiant yr achos.

Yn 2015 byddwn yn dathlu 150 mlynedd yr achos yma ym Methania.

Fel rhan o’r dathlu rydym yn chwilio am hen luniau a hanesion am y capel dros y cyfnod yma. Os oes gennych unrhyw luniau y gallech eu benthyg i ni neu atgofion yr hoffech eu rhannu rhowch wybod i un o’r blaenoriaid.

Byddai’n braf gallu trefnu arddangosfa a chynnal noson i olrhain hanes y capel o’r cychwyn

Atgofion Plentyndod am Gapeli y Waen.

Choeliwch chi ddim ond yn ystod cyfnod fy mhlentyndod fe fues yn aelod mewn chwech o gapeli. Felly dipyn o sipsi capel oeddwn i bryd hynny!

Cefais fy medyddio yng Nghapel y Fron Dinbych gan y Parch H W Hughes ac yn  fuan wedyn symudodd y teulu i fyw i Fetws Gwerfyl Goch ac ymuno efo Capel y Gro lle’r oedd y Parch E R Lloyd Jones yn weinidog bryd hynny.  Yncl Evan oedd o i mi ac roedd Yncl Evan yn dipyn o arwr i mi. Rhaid peidio anghofio  Anti Jean ei wraig. Braf gweld Anti Jean sef Mrs Jean Jones yn cyd-addoli efo ni ym Methania erbyn hyn – gofynnwch i Anti Jean am stori’r letys!! Rhyw frith gof sy gen i am Gapel y Gro ond yr hyn dwi’n ei gofio yw ei fod  yn gapel bychan cefn gwlad cysurus a phawb i weld yn groesawgar a chyfeillgar.

Symud wedyn pan oeddwn tua phump oed i “sunny Rhyl” – dipyn o “culture shock”! Ymuno efo Capel Clwyd Street sydd yng nghanol y dref.  Capel enfawr efo galeri – tra gwahanol i Gapel bach y Gro! Yng Nghapel Clwyd Street mae gen i’r cof cyntaf i mi ddweud adnod – cofio teimlo’n andros o nerfus gan fod y capel yn ymddangos mor fawr i hogyn bach pump oed. Hefyd yng Nghapel Clwyd Street mae gen i’r cof cyntaf am gymryd rhan yn nrama’r geni a methu’n lan a deall pam oeddwn i’n gorfod mynd i’r capel yn fy “nressing gown” a rhyw hen liain golchi llestri ar fy mhen  – ddim yn trendi o gwbl!

Problem Capel Clwyd Street oedd ffeindio lle i barcio yn enwedig yn ystod misoedd yr haf. Dad yn diawlio reit aml ei fod yn methu ffeindio lle i barcio ac yntau ar fin mynd i’r capel!  Felly penderfynu newid capel i gapel yn nes at ble roeddem yn byw a fyddai’n arbed i ni fynd i ganol y dref a’r capel hwnnw oedd Capel Bethel ar Vale Road Rhyl. 

Am ryw reswm enwau Saesneg y strydoedd oedd yn cael eu defnyddio  yn Y Rhyl.  Y Parch Emyr Roberts oedd gweinidog Capel Bethel oedd yn gapel gweddol fychan o’i gymharu efo Capel Clwyd Street a’r broblem fwyaf oedd bod y drws oedd yn mynd mewn i’r capel fwy neu lai reit wrth y sȇt fawr – felly os oeddan ni ychydig bach yn hwyr roedd pawb yn gallu gweld hynny oherwydd i gyrraedd ein sȇt ni roedd rhaid croesi o flaen y sêt fawr a throi wedyn y fyny i gefn y capel!  Cofio i’m chwaer Nia chwarae’r organ am y tro cyntaf ac roeddwn wrth fy modd yn clywed y nodau drwg ond roedd un edrychiad gan dad yn ddigon i mi stopio

Rhyw ychydig ar ôl i mi gychwyn yn yr ysgol uwchradd symudodd y  teulu unwaith eto – y tro yma i Dreffynnon ac ymuno efo Capel Rehoboth.  Unwaith eto clamp o gapel urddasol o frics coch a galeri anferth.  Piti garw fod y capel yn awr wedi ei ddymchwel.  Yn ystod fy nghyfnod yng Nghapel Rehoboth cefais fy nerbyn a threulio ambell i orig ddifyr iawn yng nghwmni’r Parch Trebor Mai Thomas yn ystod y dosbarthiadau derbyn.  Hefyd yn ystod fy nghyfnod yn Rehoboth daeth y cyfle cyntaf i dreulio penwythnos yng Ngholeg y Bala a mwynhau bob

Tra roeddwn yn y chweched dosbarth symudodd y teulu unwaith eto a’r tro yma yn ôl i Ddinbych. Cafwyd tipyn o drin a thrafod i ba gapel y byddai’r teulu yn dod yn aelodau.  Wrth gwrs roedd gan mam a dad dynfa i fynd nôl i Gapel y Fron ond roeddwn i’n daer i gael mynd i Capel Mawr gan fod nifer o’m ffrindiau yn y chweched dosbarth yn mynychu’r capel hwnnw. Felly’r Capel Mawr amdani o dan weinidogaeth y Parch W H Pritchard ac wrth fy modd yn nosbarth Ysgol Sul Mrs Ann Parri lle bu cryn drafod  a chyfnewid syniadau.

Hefyd yn ystod fy nghyfnod yn y Capel Mawr cael fy sugno i mewn i fwrlwm Gŵyl yr Ysgol Sul a chael y cyfle am y tro cyntaf i gystadlu ar y gystadleuaeth pedwarawd a chael cryn lwyddiant.

Cyn i mi orffen roedd yna un capel arall fu’n rhan o’m plentyndod sef Capel Moriah Gwyddelwern lle’r oedd nain a taid Bryn Deicws yn aelodau.  Bob tro roeddwn yn mynd i Fryn Deicws yn ystod gwyliau’r ysgol roedd y Sul yn sanctaidd gan fy nhaid a’m nain a doedd dim dewis ond mynd i’r capel ar y Sul.

Roedd taid Bryn Deicws yn cyrraedd y capel rhyw awr cyn i’r gwasanaeth ddechrau.  Yn anffodus nid ydi’r “genes” o gyrraedd y capel yn gynnar wedi cael ei drosglwyddo i mi! Roeddwn i a nain fel arfer yn cyrraedd fel roedd y gwasanaeth yn cychwyn a thaid yn gwaredu!  Roedd hi’n dipyn o antur cyrraedd y capel oherwydd rhaid oedd cerdded i lawr o’r fferm yn ein wellingtons lawr i stesion Gwyddelwern, newid i esgidiau yn y stesion gan adael y wellingtons yn y stesion a cherdded ymlaen i’r capel.

Wrth fy modd yn nosbarth Ysgol Sul Anti Ella sef Miss Ella Davies Bryn Tirion Gwyddelwern yn dysgu am y  storïau Beiblaidd.  Roedd ganddi ryw ddawn arbennig o’u cyfleu ac maent wedi eu serio ar y cof byth ers hynny. Roedd y llond bag o fferins oedd ganddi ar ddiwedd yr Ysgol Sul yn dipyn o atynfa hefyd!

Diolch i Eleri Telpyn am gytuno i mi ei henwebu ar gyfer mis nesaf.

Gerallt Tomos

Penwythnos y Plant

Tachwedd 15-16

 

Parti Pudsey

Dydd Sadwrn, Tachwedd 15

10.00-12.00

Stondinau, gemau a digonedd o goffi, te a bisgedi

 

Operation Christmas Child

Llenwi bocsys esgidiau

Dydd Sul, Tachwedd 16

Cyfle i anfon anrhegion Nadolig at blant mewn angen.

Byddem yn ddiolchgar am unrhyw roddion addas e.e. teganau (ond dim gynnau), llyfrau, brwshys dannedd, brwshys gwallt, sebon, fferins, menig, sgarffiau, capiau, breichledau, mwclis, papur a phensil, creonau neu roddion ariannol (rhaid i ni anfon £3 gyda phob bocs).

 

Diolch o galon i bawb ymlaen llaw am bob haelioni a charedigrwydd.

Mae’r Bont eich angen chi!!

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at Sylw’r Mis dros y blynyddoedd. Mae’r rhestr o bawb sydd wedi cyfrannu ers 2010 ar gael i’r rhai â diddordeb gwybod pwy gyfrannodd a phryd!

Yn anffodus mae’n profi yn fwyfwy anodd i gael aelodau i ysgrifennu ac felly mae peryg y bydd rhaid mynd yn ôl ar ofyn yr un rhai i gyfrannu. Felly … os nad ydych wedi gwneud ac yn dymuno rhoi eich ‘Sylw’ mi fuaswn yn fwy na diolchgar.

Cysylltwch os gwelwch yn dda ar un o’r canlynol: