Y Bont Chwefror 2015

‘Nid oes amser, ond yr amser hwn’

Mae’r berthynas rhyngom ag amser yn un gymhleth iawn, a’r mwyafrif ohonom yn ei weld fel meistr creulon, ac fel atgof cyson o’n meidroldeb. Ond oes rhaid iddi fod felly? Tybed na fedrem ddod i werthfawrogi amser fel cyfaill, a dechrau gwir gyfri ei werth? Er mwyn gwneud hynny, bydd rhaid datrys ein perthynas â’r gorffennol, gan ddal gafael ar yr hyn sy’n werthfawr, tra’n gwrthod cael ein caethiwo gan euogrwydd a rhwystredigaeth. Mae ddoe wedi bod! Mae ddoe wedi gorffen.

Byddai rhaid hefyd addasu ein hagwedd at y dyfodol, gan osgoi’r ofn a’r ansicrwydd am bethau sydd tu hwnt i’n gafael a’n dylanwad. Gwaetha’r modd, mae gan Gristnogaeth ryw obsesiwn digon afiach gyda ddoe ac yfory, sydd yn tagu pob posibilrwydd o fwynhau heddiw!

Beth am droedio i’r flwyddyn newydd gydag ymrwymiad i wneud y mwyaf medrwn o heddiw, gan fyw yn y presennol, a chofleidio’r foment, gan wrthod byw yn y gorffennol, na chael ein hudo i ymestyn at ryw ddyfodol nad oes gennym un warant ohono. Heddiw pia hi!

Fel y dywed R.S.Thomas… (The Bright Field)

…Life is not hurrying

on to a receding future, nor hankering after

an imagined past…

Y Parch Morris Morris

Sylw’r Mis

Cydweithio

Yn ystod Mis Rhagfyr ers tair blynedd bellach cefais y  ‘fraint’ o ddarllen a dewis dramâu addas ar gyfer Gŵyl Ddramâu Bethania fydd yn cael ei chynnal eleni o Chwefror 16 – 21.

Gwaith digon anodd gan fod angen ystyried pa mor addas yw’r ddrama a faint o gymeriadau sydd eu hangen. Tasg anoddach, ond pleserus, yw castio – rhannu’r darnau rhwng y bobl hynny sydd mor awyddus i berfformio ar y llwyfan yn ystod yr wythnos ryfeddol hon yng nghalendr y capel. Rhaid i mi dalu teyrnged a diolch hefyd i Eirlys Tomos, sydd ers blynyddoedd bellach yn ysgrifennu dramodigau ar gyfer yr ieuenctid niferus yr ydym mor lwcus o’u cael yn y capel. Mae eu cyfraniad hwy bob amser ymysg uchafbwyntiau’r wythnos.

Yr hyn sy’n rhoi’r pleser mwyaf i mi yw gweld y dramâu a ddewiswyd yn cael eu perfformio, y modd y mae aelodau cast pob drama yn cydweithio, a’r cyfle y mae yn ei roi i ni weld ochr pur wahanol i nifer o’n cyd aelodau yn y capel. Pleser a thestun balchder hefyd yw gweld cymaint o bobl sy’n ymwneud â’r dramau, nid yn unig yr actorion ond hefyd y rhai sydd yn arwain, gofalu am y drysau, gosod a chlirio’r llwyfan, gofalu am y goleuadau, paratoi paned, cyfeilio a chynhyrchu. Rhaid cofio hefyd  gwaith diflino ein hysgrifenyddes Margaret Roberts. Roedd yn agos i gant o bobl yn cael eu henwi ar y rhaglen y llynedd.

Mae’r pwyslais mwyaf, gobeithio, ar gyd gymdeithasu, cydweithio a chael hwyl. Mae’n gyfle gwych i ni ddod i adnabod ein gilydd yn well a chryfhau’r berthynas a’r cyfeillgarwch sydd rhyngom o fewn yr eglwys.

Onid dyma beth mae bod yn aelod o eglwys Crist yn ei gynnig?  Rhoi cyfle i ni i gyd-addoli, i fod yn rhan o gymdeithas glos, llawn brawdgarwch a chariad, a thrwy ein hymdrechion a’n parodrwydd ni i gefnogi holl waith yr eglwys fe fydd y gymdeithas honno yn ffynnu a pharhau.

Fel y dywedodd Paul yn 1 Corinthiaid 12:12 –  Mae’r corff yn uned er bod iddo lawer o rannau gwahanol, ac mae’r holl rannau gwahanol gyda’i gilydd yn gwneud un corff. Dyna’n union sut mae hi gyda phobl y Meseia. (Beibl.net).

Iwan Vaughan Evans

Newyddion a Chyfarchion

Colli Aelodau – Gyda thristwch y clywsom am farwolaeth Glyn Jones, Moelfa, cyn y Nadolig. Bu Glyn yn aelod ffyddlon ac annwyl ym Methania a chofiwn amdano’n dosbarthu’r Bont am nifer o flynyddoedd. Cydymdeimlwn yn ddwys iawn â Megan a’r teulu i gyd yn eu hiraeth am un mor hynaws.

Yn yr un modd trist oedd clywed am farwolaeth Brian Jones, Y Parc, wedi cystudd blin.  Yr un yw’n cydymdeimlad â Margaret, Andrew, Bethan a’r teulu yn eu hiraeth hwythau.

Llongyfarchiadau i Ffion, Min y Clwyd, a Tom ar achlysur eu priodas ddiwedd y flwyddyn a phob dymuniad da iddynt i’r dyfodol.

Llongyfarchiadau hefyd i Sion McKee ar gael ei ddewis yn brif ddisgybl yn Ysgol Brynhyfryd.

Gwella – Rydym yn falch o glywed bod Nel Edwards, Y Parc,  yn gwella ar ôl cael llawdriniaeth ar ei phen-glin yn Ysbyty Gobowen a chyfnod yn Ysbyty Rhuthun. Braf eich gweld adref.

Ysbyty – Deallwn fod nifer o’n haelodau yn yr ysbyty: Mair Davies, Coedlas, yn Ysbyty Rhuthun,  Trefor Jones a Ted, bachgen bach Elen a Daniel Lloyd, yng Nglan Clwyd a Bronwen Jones hefyd yn yr ysbyty. Anfonwn ein cofion atynt oll gan obeithio y byddant yn gwella’n fuan.

Cydymdeimlo – Rydym yn cydymdeimlo’n ddwys â Rhian Dolben a’r teulu yn eu galar wedi colli ei brawd mor ddisymwth.

Pen-blwydd arbennig Llongyfarchiadau calonnog i Beti Watson ar gyrraedd ei phen-blwydd yn 100 oed ar Chwefror 8fed, a hithau’n dal mor heini! Edrychwn ymlaen at gael dathlu gyda hi ar noson ei phenblwydd mewn cyngerdd arbennig yn y capel a phaned i ddilyn.

Dathlu 150 mlwyddiant yr achos.

Yn 2015 byddwn yn dathlu 150 mlynedd yr achos yma ym Methania.

Fel rhan o’r dathlu rydym yn chwilio am hen luniau a hanesion am y capel dros y cyfnod yma. Os oes gennych unrhyw luniau y gallech eu benthyg i ni neu atgofion yr hoffech eu rhannu rhowch wybod i un o’r blaenoriaid.

Byddai’n braf gallu trefnu arddangosfa a chynnal noson i olrhain hanes y capel o’r cychwyn

Dathliad Pen-blwydd yn Gant Oed

Estynnir gwahoddiad i chi ymuno efo ni yng Nghyngerdd Dathlu Pen-blwydd Mrs Beti Watson yn GANT oed yng Nghapel Bethania Nos Sul, Chwefror 8 am 5.30yp.  Eitemau gan aelodau’r capel a ffrindiau.  Paned a sgwrs i ddilyn.

Gŵyl Ddramâu Capel Bethania

Perfformiadau bob nos o’r wythnos Nos Lun i Nos Sadwrn, 16 i 21 o Chwefror, 2015.    5 drama fer ysgafn a 3 sgets. Dewch yn llu – croeso cynnes i bawb – tocynnau ar gael o Siop Elfair neu ar y drws – £4 i oedolion a £1 i blant. Diolch ymlaen llaw i bawb am bob help ac am eu cydweithrediad.

Cyfle i’r Ifanc

Mae Bwrdd yr Eglwys wedi penderfynu rhoi cyfle i’r rhai ifanc gyfeilio yn ystod y casglu ar un Sul y mis a hefyd i’r aelodau sydd newydd eu derbyn helpu wrth y drws a chyda’r casgliad.  Os hoffech gyfeilio ar y piano neu offeryn arall rhowch wybod i Carys Morgan erbyn y mis nesaf.

Cinio a Sgwrs

Mae cyfres newydd o Cinio a Sgwrs yn cael ei sefydlu ym Methania ar gyfer holl eglwysi’r fro ar ddydd Mercher cyntaf pob mis a bydd y cinio cyntaf o 12.00 tan 1.00 o’r gloch ar ddydd Mercher, Chwefror 4. Mae croeso cynnes i bawb ddod, mae’r cyfan am ddim. Dewch i gael ychydig o gawl a sgwrs.

Atgofion am Gapel Cades, Clocaenog

Cefais fy ngeni a magu ar fferm Pool Park sydd tua’r un pellter o Rhuthun ac o bentrefi Clawddnewydd a Chlocaenog ond yng Nghapel M.C, Clocaenog yr ymaelododd fy nhad a mam yn dilyn eu priodas a’u dyfodiad i’r ardal ym 1943. Mae’n debyg bod hyn am ei bod yn nes i gerdded yno ar draws caeau nag y buasai i’r capeli eraill. Cades oedd enw’r capel ond fe’I gelwid yn Capel Coch gan lawer oherwydd lliw ei frics. Roedd carreg gron ar flaen yr adeilad a’r geiriau Capel Cades 1871 wedi eu naddu arni.  Hefyd ar wal flaen y capel roedd dau ddrws ac wrth fynd i mewn drwyddynt roeddech yn wynebu’r eisteddleoedd gyda’r pulpud a’r set fawr yn cefnu ar y wal flaen, yn debyg  iawn i Gapel y Rhiw heddiw. Capel bychan iawn ydoedd gyda stof lo yn ei gynhesu a lampau oel yn ei oleuo pan gofiaf y lle gyntaf. Ym 1956 roedd yno 60 o aelodau ac 20 o blant.

Fuon ni, fel teulu, erioed yn mynychu’r capel deirgwaith y Sul, ond byddem yno ddwywaith fel arfer a hynny mae’n debyg am fod dad yn ffermwr ac yn anabl i ffitio’r godro i mewn gyda mynd i’r capel fore a nos. Byddai’r ysgol Sul yn cael ei gynnal fore, pnawn a nos yn ei dro a byddai Sian, fy chwaer a minnau yn mynychu bob tro a nhad yn ymuno a ni os cai ei gynnal fore neu nos. Fel arall byddai Sian a minnau yn cerdded yno ar draws y caeau. Fu hi ‘rioed yn broblem ein cael i fynychu’r capel gan fod ein ffrindiau, Elsie, Llinos a Falmai, Bryngwyn yno hefyd. Roedd saith o blant yn y Bryngwyn a byddem wrth ein boddau yn cael mynd adref hefo nhw am de ac i chwarae rhwng cyfarfodydd pnawn a nos.

Byddem yn cael ein gwahodd i ginio neu de at amryw o aelodau eraill o’r capel. Un o flaenoriaid Capel Cades pan oeddwn yn ifanc oedd Huw Williams, Glanrafon. Roedd ef a Mrs Williams yn gwpl hynod o annwyl a charedig ac fel taid a nain Glanrafon yr adnabyddem nhw er nad oeddynt yn perthyn i ni o gwbl. Roedd cael mynd i ginio i Glanrafon yn fwynhad pur gan fod y cinio mor dda (yn enwedig y pys slwj) ac am ein bod yn cael chwarae yn eu gardd flodeuog ac ar lan yr afon fechan a redai drwyddi cyn mynd i’r capel yn y pnawn. Symudodd taid a nain Glanrafon i Galltegfa yn ddiweddarach ac yn weddw, ac yn ei henoed symudodd nain i Hengaer, Park Road,Rhuthun ble y bu fyw i oedran teg iawn.

Blaenor arall oedd a gofiaf yn ystod fy mhlentyndod oedd Humphrey Williams, Isfryn a byddem yn cael ein gwahodd ato ef a Mrs Williams am ginio neu de yn ein tro ac yn cael croeso mawr yno. Yr hyn a gofiaf am Humphrey Williams oedd mai ef a ddysgai’r Sol Ffa i ni. Gan na fedrais erioed ganu nodyn doeddwn i ddim yn hoff o’r dosbarthiadau ond roedd plant y Bryngwyn yn mwynhau gan eu bod i gyd yn gerddorol.

Roedd Saunders Davies yn flaenor yn Cades hefyd ac wrth gwrs roedd yntau yn gerddor, felly, doedd yna ddim prinder dynion i godi canu. Roedd ei ferched ef a Mrs Davies sef Eleri a Nia ychydig yn iau na ni  ond yn rhan o’r cylch ffrindiau a byddem yn mynd adref gyda nhw i Frynffynnon rhwng cyfarfodydd pnawn a nos ambell dro.

Dau flaenor arall a gofiaf o’m dyddiau cynnar oedd Thomas Roberts, Henblas ac Arthur Edwards Y Fron. Roedd gennym barch a  hoffter o’r dynion da yma i gyd er ein bod yn cysidro, fel plant, eu bod yn hen pan nad oeddent ond canol oed ifanc mae’n debyg.

Rhian Jones

Diolch i Rhian Jones (Pool Park) am yr hanesion diddorol yma; cawn ddarllen ail ran yr hanes yn rhifyn mis nesaf o’r Bont.

Mae’r Bont eich angen chi!!

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at Sylw’r Mis dros y blynyddoedd. Mae’r rhestr o bawb sydd wedi cyfrannu ers 2010 ar gael i’r rhai â diddordeb gwybod pwy gyfrannodd a phryd!

Yn anffodus mae’n profi yn fwyfwy anodd i gael aelodau i ysgrifennu ac felly mae peryg y bydd rhaid mynd yn ôl ar ofyn yr un rhai i gyfrannu. Felly … os nad ydych wedi gwneud ac yn dymuno rhoi eich ‘Sylw’ mi fuaswn yn fwy na diolchgar.

Cysylltwch os gwelwch yn dda ar un o’r canlynol: