Y Bont Ebrill 2015

Profiadau y Pasg

Cofio treulio Pasg 2000 wrth erchwyn gwely yn ysbyty Alder Hey, yn trafod trefniadau angladd gan na fedrai’r meddygon gynnig unrhyw obaith; a dioddefaint cwbl ddisynnwyr yn ffrwydro yn erbyn rhagdybiaethau Cristnogol. Bydd y Pasg ac Alder Hey yn gymhleth gymysg tra byddaf fyw.

Ymdrech yw Cristnogaeth, i geisio dadansoddi a deall dioddefaint disynnwyr y groes, gan ddefnyddio geiriau fel ‘taliad’ ac ‘aberth’ a ‘iawn’, yn ein hanallu i dderbyn fod mwyafrif ein byw a’n profiadau yn wag o ystyr ac yn amddifad o esboniad. A’r atgyfodiad..? Ein hyder fod prydferthwch a gobaith yn medru ymddangos yn annisgwyl, ac yn medru lliniaru rhywfaint ar y profiadau garwaf. Ond hwnnw hefyd yn cael ei gaethiwo i gonsuriaeth ddwyfol, ac yn sail i obeithion tragwyddol sydd yn dibrisio gwerth yr unig fywyd a feddwn, a’r unig fyd a gawn.

Y Parch Morris Morris

Sylw’r Mis

DNA, Dewi Sant a’r Dalai Lama!   Llinynnau.

Wrth geisio penderfynu beth i’w ysgrifennu,  penderfynais mai’r peth gorau oedd jyst rhoi ar bapur beth bynnag oedd wedi bod ar fy meddwl yn ystod y cyfnod cyn danfon.   Dyna i chi’r bore pan gyfeiriodd ein Gweinidog at Fwdhydd nid anenwog a’i bwyslais ar ‘hapusrwydd.’  Gair, syniad, cysyniad sy’n gallu fod yn syml a chymhleth wrth feddwl am yr hyn sy’n ein gwneud ni’n hapus.  Ond ‘nôl at yr arweinydd Bwdhaidd.  ‘Mae ei safle ar y we yn ddiddorol a chaf ddiweddariadau (updates) cyson ar fy fb ynglŷn â’i ymweliadau a’i eiriau wrth gyfarch gwahanol bobl.

Fel arweinydd ysbrydol Bwdhyddion Tibet, ‘mae’r Dalai Lama’n sicrhau nad ydy’r bobl Dibetaidd yn cael eu hanghofio.  ‘Mae hefyd wedi bod yn allweddol yn sicrhau parhad Bwdhaeth Tibet wedi ei ddihangfa ddramatig yn 1959,  a hynny o’i gartref yn Dharamsala wrth odreon mynyddoedd yr Himalaya. Yr hyn sy’n parhau i’m rhyfeddu i yw ei agwedd tuag at y Cheiniaid.  Ar hyd ei fywyd y mae wedi dangos ewyllys da a charedigrwydd cariadus (sy’n debyg iawn i ‘agape’ Cristnogol) wrth ymwneud â’r Cheiniaid.

Daw hyn ‘mae’n debyg o’i gred mewn ail enedigaeth.  Yn ôl y ffordd hon o gredu,  gallai fod yn fam neu’n berthynas agos i berson  o China mewn genedigaeth a fu, neu enedigaeth a fydd.  Cwyd hefyd o’i arferion crefyddol sy’n cadarnhau a chryfhau’r gred.  Fel mam fy hun, mi wn i am y teimladau cryfion hynny sydd am amddiffyn fy mhlant a sicrhau eu lles bob amser.  Ond sut ‘mae gweithredu fel hyn tuag at bob un?   Dyna un llinyn!

A dyma ni wedi bod mewn cyfnod o ddathlu ein hunaniaeth fel Cymry.  Gŵyl Ddewi ar ddechrau mis Mawrth a ffawd tîm rygbi Cymru yn ystod Pencampwriaeth y Chwe’ Gwlad. I mi ‘mae cwestiynau ynglŷn â theyrngarwch at iaith a gwlad, a’n perthynas â chenhedloedd eraill yn dilyn o hynny.

Wrth weld lleihad yn nifer y siaradwyr Cymraeg ‘mae cwestiynau’n codi ynglŷn â ddylen ni gyfaddawdu mewn sefyllfaoedd cymdeithasol a swyddogol o ran defnyddio’r Gymraeg. Beth sy’n mynd i ‘achub’ y Gymraeg – y pwyslais arni fel iaith swyddogol neu fel iaith gymdeithasol?  Wrth dderbyn eraill, ydy hynny’n golygu ein bod ni’n colli’n hunaniaeth?  A ddylai cenedligrwydd ac iaith achosi i ni fod yn elyniaethus tuag at eraill?  Peidiwch â meddwl am funud fod yr holl atebion yn amlwg i mi.  Gwn drwy brofiadau dwy o’r merched ym mhrifysgol Manceinion  fod cyd fyfyrwyr o wahanol gefndiroedd wedi derbyn yn ddigon parod y ffaith eu bod fel chwiorydd yn siarad Cymraeg â’i gilydd yn naturiol, a’u bod wedyn yn troi at ffrindiau  nad ydynt yn siarad Cymraeg, i sgwrsio yn Saesneg.  Oedd, mi ‘roedd tynnu coes a herio gan rai, ond yn gyffredinol ‘roedd ‘na dderbyn a diddordeb, gan nad oedd nifer yn sylweddoli fod y Gymraeg yn iaith fyw.

A beth am yr astudiaethau DNA diweddara’?   ‘Mae canlyniadau’r astudiaethau o ganolfan  ‘Welcome Trust  for Human Genetics’, yn Rhydychen yn honni “astonishing results.”  ‘Mae ‘na dipyn o dynnu coes o fewn ein teulu ni gyda’n teuluoedd yn hanu o de a gogledd Cymru, neu efallai gwell yw dweud ‘y Canolbarth!’    Wrth gofnodi’r 17 grŵp gwahanol yn y Deyrnas Unedig ‘mae’n nodi gwahaniaethau rhwng de a gogledd Cymru.

Mewn un papur newydd defnyddir geiriau fel,  “the research supports the idea that Celtic Britain underwent a form of ethnic cleansing by Anglo-Saxons invaders following the Roman withdrawal in the fifth century.”  Dywedir bod Clawdd Offa wedi gweithredu fel “genetic barrier” yn diogelu’r rhai ar yr ochr Gymreig.   ‘Mae gen i ddiddordeb ers dyddiau chweched dosbarth a choleg yn ein hanes a’n tras, a hynny ar ôl astudio llenyddiaeth gynnar y Cymry.  Ond ‘mae grwpio pobl yn ôl clystyrau geneteg yn gallu fod yn beryglus.  Gall arwain at stereoteipio a rhagfarn.  Gall gwleidyddiaeth genetaidd eithrio grwpiau a dileu’r egwyddor y dylai pawb gael eu trin yn gyfartal.  Y peth rhyfedd yw, dyw hynny ddim yn fy ngwneud i’n llai o Gymraes!  Dyw hynny ddim yn golygu ‘mod i am wadu Nghymreictod a niwylliant.

Yn y byd cyfoes mae goroesiad y Gymraeg a’n diwylliant yn golygu gweithio allan ein perthynas ag eraill heb eithrio eraill.  ‘Mae’n golygu, yn ôl y ffordd y gwelaf i bethau, i fod â’r hyder i fod yn Gymraes mewn gwahanol sefyllfaoedd; nid dim ond yn fy nghymuned leol neu pan mae’n hawdd i fod yn Gymraes.  ‘Mae’n golygu cysoni fod yn unigolyn sydd â hunaniaeth bendant ac eto derbyn eraill fel unigolion â’u gobeithion a’u cefndiroedd.  Hawdd yw ysgrifennu’r fath bethau; mwy cymhleth yw eu gweithredu mewn sefyllfaoedd gwahanol.  Tri llinyn, a neges amserol gobeithio i gnoi cil arni.

Diolch i Rhian Iorwerth am ei sylw y mis yma.

Newyddion a Chyfarchion

Babi newydd – Llongyfarchiadau mawr i Catrin, Min y Clwyd, ac Arfon ar enedigaeth eu mab bach, Iori Tudor, a llongyfarchiadau hefyd i Tudor ar ddod yn daid eto.

Ebrill 28 – Cyfarfod Cenhadol Cymdeithas y Chwiorydd Henaduriaeth Dyffryn Clwyd yn y Capel Mawr Dinbych am 7.30. Siaradwr – Y Parch Christopher Prew, Porthmadog.

Sasiwn y Plant – Capel Derwen Ebrill 19 am 2.00 a 5.30.

Meysydd dysgu allan :

  • Dan 5 122   Caraf yr haul (1 pennill)
  • Bl 1 a 2 118  Canaf yn y bore… (1 pennill)
  • Bl 3 a 4 409   Nid oes enw gwell na Iesu  (pennill 1 a 2)
  • Bl 5 a 6 800   Un cam bach…. (pennill 1 a 2)
  • Bl 7 i 9 852   Dros Gymru’n gwlad… (2 bennill)

Bydd yr athrawon yn gwrando ar y penillion ar Ebrill 12.

Yn ystod y sasiwn caiff y plant eu holi ar stori Y Ddau Frawd (tud 386 Beibl Bach i Blant)

Dosbarth Ysgol Sul yr Oedolion yn dathlu penblwydd Beti Watson yn 100 oed yn Festri’r Capel

dosbarth ysgol sul

Pen-blwydd hapus Mrs Watson!

100!

Atgofion am Gapel Sion, Bryneglwys

Mae gen i hiraeth am yr hen gapel.  Ychydig feddylies i pan o’n i’n blentyn y byddwn i’n dweud y geiriau yna.  Un anniddig oeddwn i yn y capel, fel llawer i blentyn arall dybiwn – y set yn galed, bysedd y cloc yn cripian yn ara’ deg bach a’r bregeth yn hir ac astrus.  Roedd yr Ysgol Sul wedi bod yn y bore, felly doedd dim dihangfa allan o’r capel i’r festri ar ganol gwasanaeth fel sydd i blant Bethania!  Na, roedd rhaid eistedd yno’n ceisio dirnad pam fod awr yn y capel yn teimlo gymaint hwy nag awr ym mhobman arall!

Dyna pam mae’n anodd credu fod gen i hiraeth.  Ond wrth feddwl, efallai mai hiraeth am y festri sydd gen i mewn gwirionedd, oherwydd yn y festri roedd y pethau difyr yn digwydd.  Yr Ysgol Sul lle bydden ni blant yn canu, gwrando ar storïau o’r Beibl, gwneud gweithgareddau a chael digon o gyfle i chwarae allan efo’n ffrindiau ar y diwedd, neu, wedi mynd yn hŷn, i drafod anturiaethau nos Sadwrn!  Y parti Nadolig, pan fyddai’r aelodau i gyd yn ymgynnull am de gwerth chweil, gemau hwyliog, cyngerdd byr gan y plant ac ymweliad Sion Corn.  Ac ambell i noson lawen a chyfarfod o gymdeithas y tri chapel (Bryneglwys, Carrog a Glyndyfrdwy) lle byddai digon o ganu eto wrth gwrs.

Oedd, roedd cerddoriaeth yn rhan annatod o fywyd y capel gyda sawl teulu cerddorol yn aelodau.  Yma y dysgais i ddilyn sol ffa ac i ganu alto wrth wrando ar aelodau hŷn, yn bennaf Anti Dilys Plas yn Rhos ac Anti Ann Plas yn Iâl.  Roeddwn wrth fy modd pan ges i fod yn alto yng nghôr y capel yn canu ‘Suai’r Gwynt’ mewn gwasanaeth Nadolig a minnau’n blentyn tua naw neu ddeg oed.  A thro arall, teimlo’n falch iawn o gael canu ‘Carol Gŵr y Llety’ ar y dôn ‘Troyte’s Chant’  mewn pedwarawd efo Dad, Mam ac Ann, fy chwaer.  Mae’r ddwy garol yma’n dal i fod yn ffefrynnau, oherwydd eu halawon hyfryd a’r atgofion melys ddaw wrth eu clywed.

Capel bychan cefn gwlad oedd Capel Sion wrth gwrs.  Anaml fyddai mwy nag ugain yn yr oedfa, weithiau dim ond pump neu chwech.  Ond er hynny, neu oherwydd hynny mae’n debyg, roedd y gymdeithas yn glos iawn.  Pob oedolyn yn anti neu’n yncl i’r plant er nad oedd perthynas waed a phawb o bob oed yn cymdeithasu’n naturiol.  Byddai cael bod yn un o ‘ferched y gegin’ yn paratoi te i achlysuron arbennig yn arwydd ein bod wedi tyfu fyny, a byddai’r sgwrs rhwng y merched hŷn yn gallu bod yn ddifyr iawn i glustiau ifanc!

Un ddyletswydd fyddai pob teulu’n ei gymryd yn eu tro oedd  gwneud te i’r pregethwr bob dydd Sul am fis.  Mae’n saff dweud na fyddai Ann a fi yn ryw or-hoff o’r Suliau hyn.  Roedd y te ei hun yn ddi-fai – brechdanau a digon o jam cartref, treiffl neu darten ac amrywiaeth o gacennau.  Gorfod bod yn ddistaw wrth y bwrdd bwyd a ddim cael gwylio’r teledu na chwarae allan drwy’r pnawn oedd y broblem.  Fodd bynnag, roedd ambell i bregethwr yn ddigon difyr ei sgwrs, a dau sy’n aros yn y cof yw’r Parchedig Bryn Ellis a’r Parchedig Huw Jones.  Roeddwn wedi dotio pan ddeallais mai brawd i’r awdur, Islwyn Ffowc Elis, oedd Bryn Ellis ac yn methu credu fod perthynas i rywun mor enwog yn dod i’n tŷ ni i de.  Ond y Parchedig Huw Jones oedd y ffefryn, mae’n rhaid cyfaddef.  Dyn addfwyn ac annwyl efo dawn dweud naturiol a’i hanesion hwyliog yn gwneud inni rowlio chwerthin.

Cyn ysgrifennu’r erthygl yma mi es am dro at y capel ym Mryneglwys er mwyn cael teimlad eto o’r lle.  Roeddwn wedi bod yno o’r blaen ers y dymchwelwyd y capel a gadael dim ond y festri’n sefyll, felly ‘doedd o ddim yn sioc imi.  Mae’n olygfa drist ofnadwy, gyda’r chwyn yn tyfu’n uchel, hen garafán wedi’i pharcio lle byddai’r set fawr a phaent wal y pulpud wedi’i ddifetha gan yr elfennau. Wrth sefyll yno’n edrych ar weddillion adeilad fu’n gymaint rhan o ‘mhlentyndod a’m ieuenctid, roedd yr hiraeth am y lle a’i bobl yn llethol.  Ond, mae’r atgofion yn felys iawn yn y cof, ac o leiaf mae’r rheini’n saff rhag y chwyn.

Diolch i Mari Wynne Jones am yr hanesion ddiddorol yma.

Diolch hefyd i Bethan Tomos am gytuno i rhannu ei hatgofion mis nesaf.

Nodyn i’r Dyddiadur

groglith

Cyfle i’r Ifanc

Mae Bwrdd yr Eglwys wedi penderfynu rhoi cyfle i’r rhai ifanc gyfeilio yn ystod y casglu ar un Sul y mis a hefyd i’r aelodau sydd newydd eu derbyn helpu wrth y drws a chyda’r casgliad.  Os hoffech gyfeilio ar y piano neu offeryn arall rhowch wybod i Carys Morgan erbyn y mis nesaf.

Mae’r Bont eich angen chi!!

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at Sylw’r Mis dros y blynyddoedd. Mae’r rhestr o bawb sydd wedi cyfrannu ers 2010 ar gael i’r rhai â diddordeb gwybod pwy gyfrannodd a phryd!

Yn anffodus mae’n profi yn fwyfwy anodd i gael aelodau i ysgrifennu ac felly mae peryg y bydd rhaid mynd yn ôl ar ofyn yr un rhai i gyfrannu. Felly … os nad ydych wedi gwneud ac yn dymuno rhoi eich ‘Sylw’ mi fuaswn yn fwy na diolchgar.

Cysylltwch os gwelwch yn dda ar un o’r canlynol: