Y Bont Gorffennaf ac Awst 2015

Cyfraniad Allweddol yr Ysgol Sul …

Gyda’r trefniadau i ddathlu canmlwyddiant a hanner yr achos yn Heol Mwrog yn mynd rhagddynt, braw a thristwch oedd clywed y newydd fod Ysgol Sul yr oedolion wedi gorfod dirwyn i ben. Yr oedd y criw bychan fu’n cynnal y gwaith ers blynyddoedd, wedi gwneud popeth a fedrent i geisio denu eraill, ac i geisio diogelu’r dyfodol, ond methiant fu pob ymdrech. Y mae fy niolch iddynt, a’m hedmygedd ohonynt yn fawr iawn, a diolch arbennig i’r ddau athro, sef Euryn Tomos a Tudor Beech.

Tybed nad dyma’r adeg pan mae angen trafodaeth iach yr Ysgol Sul yn fwy nag erioed a fu, wrth i ragdybiaethau Cristnogol gael eu hysgubo o’r neilltu gan gymysgedd o addysg a synnwyr cyffredin!

Ond, dyma’r oes hefyd, na fedd yr amynedd na’r ymrwymiad i gynnal y sgwrs! Oni chymerwyd cam arall ar lwybr anochel difodiant y dystiolaeth Gristnogol yng Nghymru?

Y Parch Morris Morris

Sylw’r Mis

Edrych

Byddwch yn siŵr o fod wedi sylwi wrth fynd am Yr Wyddgrug ar yr enw Loggerheads, ac os fuoch i mewn yn y dafarn a’r bwyty o’r un enw byddwch wedi gweld y darlun enwog gan yr arlunydd Cymreig Richard Wilson yn dangos wynebau dau ddyn, gefn yn gefn, o dan y pennawd ‘We Three Loggerheads’.  Ond dim ond dau wyneb a welir yn y llun, a ble felly mae’r trydydd?  Ond byddwch yn gwybod, mae’n debyg, mai chi ydy’r trydydd un, sef yr un yn edrych ar y llun.

Wyddoch chi eto eich bod chi yn un o dri.  Mae hyn yn wir am bob un ohonom. Nid tri pherson ar wahân ydym ond tri pherson mewn un unigolyn.  Ydi hynny’n bosibl?  Yn gyntaf, eich bod y person mae pobl eraill yn meddwl rydych chi; yn ail, eich bod y person ‘da chi’n adnabod fel chi eich hun;  a’r trydydd eich bod y person y buasai Duw yn dymuno i chi fod.  Gofynnodd Crist i’w ddisgyblion un tro “Pwy mae’r tyrfaoedd yn dweud ydwyf fi?”  Atebasant hwythau “Mae rhai yn dweud Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elias, ac eraill drachefn fod un o’r hen broffwydi wedi atgyfodi.” “A chwithau?” gofynnodd iddynt, “pwy meddwch chwi ydwyf fi?”  Atebodd Pedr, “Meseia Duw.”  Un person oedd Crist, yr un â Duw.

Fel dilynwyr Iesu Grist, ein hymdrech barhaol yw ceisio bod yn debycach i Grist ac i Dduw.  Wrth ddod i’r oedfaon ac i’r Capel i addoli ein gobaith yw y down i adnabod Crist yn well, ac i’w ysbryd dreiddio i mewn i’n calonnau.  Wrth i nifer yr addolwyr leihau yn ei hoedfaon, rhaid i’r Eglwys edrych arni hi ei hun, a gofyn a yw hi’n llwyddo i ateb yr angen am y neges a’r gynhaliaeth ysbrydol fyddai’n ein gwneud yn fwy Crist-debyg.  Yn yr oes E-bost, E-lyfrau a sawl E- arall, beth am feddwl am yr E-drych?

Brian Roberts

Newyddion a Chyfarchion

Llongyfarchiadau i Elain Mair ar raddio o Brifysgol Manceinion ac ar gael arddangos ei gwaith celf mewn arddangosfa yn Llundain. Yr un yw’n llongyfarchiadau i Hanna Medi sydd wedi graddio o Brifysgol Caer. Pob lwc i’r ddwy ohonoch i’r dyfodol.

Cylch Beiblaidd – Trist yw nodi bod y Cylch Beiblaidd wedi dod i ben. Hoffem ddiolch o galon i’r holl aelodau fu’n ffyddlon dros y blynyddoedd i’r Ysgol Sul ac yn arbennig i’r ddau athro, Tudor Beech ac Euryn Tomos, am eu hymroddiad a’u harweiniad.

Henaduriaeth Dyffryn Clwyd – Bydd yr Henaduriaeth yn cyfarfod yma ym Methania ar ddydd Sadwrn, Gorffennaf 4. Mae cyfarfod yr hwyr am 7.00 yn un agored i longyfarch ac ordeinio Blaenoriaid newydd. Dewch i’w cefnogi.

Te yn yr Ardd – Diolch o galon i Eilir, Bethan, Sion a Dafydd am agor eu gardd unwaith eto eleni gan godi dros £400 i’w rannu rhwng Capel Bethania ac elusen Cancr y Fron. Diolch i chi fel teulu am y croeso a’ch caredigrwydd. Diolch hefyd i bawb wnaeth gyfrannu at yr elusennau ar y diwrnod.

Atgofion am Gapel y Groes, Wrecsam

Un o f’atgofion cynharaf o’r Capel yw eistedd gyda Nain a’m hewyrth yng Nghapel Seion, Wrecsam, wrth iddynt geisio fy atal rhag cicio’r sedd o’m blaen. Rhyw ddwy oed oeddwn i. Roedd dad yn flaenor, felly yn y sêt fawr, ac roedd mam adref gan fod Mari, fy chwaer, newydd gael ei geni. Taid, y Parch Elwyn Hughes, oedd gweinidog Seion ar y pryd. Ond dyna’r unig gof sydd gen i o’r capel yng nghanol y dref, gan iddo gael ei ddymchwel a symud wnaethon ni ym 1982 i gapel newydd sbon, sef Capel y Groes.

Profiad rhyfedd i gychwyn oedd addoli mewn adeilad mor fodern. Ond am adeilad hardd! Roedd yn gweddu i’r dim i anghenion capel croesawgar gyda’i festri fawr, a nifer o ‘stafelloedd llai ar gyfer y llu o weithgareddau cymdeithasol a drefnwyd i’r rhai bach a’r rhai mwy!

A’r elfen gymdeithasol sy’n gryf yn y cof. Fel plant roedd mynd i’r Capel yn rhywbeth braf. Roedd llu o blant yn dweud adnod ac yn mynychu’r Ysgol Sul, felly roedd yn gyfle i weld ein gilydd cyn dychwelyd i’r ysgol. Roedd pob gwasanaeth Nadolig a gwasanaeth diolchgarwch yn dipyn o sioe gyda chymaint yn cymryd rhan, ac roedd dipyn o gystadleuaeth (a siom rwy’n siŵr!) i gael bod yn Mair neu Joseff bob blwyddyn.

Wedi cyrraedd ein harddegau, roedd y Clwb Deuddeg bob nos Wener yn gyfle arall i bobl ifanc gymdeithasu. Roedden ni’n chwarae gemau a chael hwyl mewn awyrgylch ddiogel a difyr ac roedd croeso hefyd i bobl ifanc eraill nad oedd yn aelodau.

Er i ni fel teulu symud i Ddeganwy pan oeddwn yn 16, penderfynais mai yng Nghapel y Groes roeddwn eisiau cael fy nerbyn, felly daethom yn ôl i Wrecsam unwaith y mis er mwyn cael mynychu’r Dosbarth Derbyn. Braf oedd cael fy nerbyn yn aelod llawn ymysg y bobl hynny gafodd ddylanwad arnaf wrth dyfu fyny.

Dydw i heb fod yno bellach ers nifer o flynyddoedd.  A thrist mai marwolaeth ac angladd sy’n aml yn tynnu rhywun yn ôl i gapel eu mebyd. Ond gan ein bod ni bellach yn weddol leol, bydd rhaid i mi fynd â’r plant un Sul iddynt hwy gael gweld ble bu mam yn dweud adnod!

      Catrin Hughes Owen

Diolch Catrin am yr hanesion diddorol yma. Cawn ddarllen atgofion Richard Hughes mis nesaf. Diolch Richard am gytuno i wneud.

Pererindod Bethania 2015

Mi fydd ein Pererindod eleni ar Ddydd Sul, Gorffennaf 5 a byddwn yn ymadael o Fethania ar fws wedi oedfa’r bore. Byddwn yn teithio i’r Bala a Llanuwchllyn lle byddwn yn cael picnic yn y Bala (dewch a’ch brechdanau eich hunain!).

Byddwn yn ymweld â Byd Mari Jones wrth lyn Tegid, gobeithio ymweld â Hen Gapel yn Llanuwchllyn (sydd â chysylltiadau a Phatagonia) a gorffen yn nhafarn Eryrod am swper tua 5yh. Gobeithio y dewch yn llu, mae yna le i 50 ar y bws!

Os am ddod nodwch eich enwau (a’ch dewis o fwyd ar gyfer swper) ar y rhestr wrth fynedfa’r capel neu cysylltwch â Huw a Iona ar 705074.

Diolch.

 

Bwydlen Tafarn yr Eryrod, Llanuwchllyn

Stec gamwn gyda wy neu pinafal

Gammon steak with egg or pineapple

~~~~~~~

Cyw Iâr gyda saws madarch a gwin gwyn

Chicken with mushroom and white wine Sauce

~~~~~~

Ffiled lledan ffres wedi’i grilio

Grilled fresh fillet of plaice

~~~~~~~

Cinio rhost cig eidion neu oen cartref traddodiadol a llysiau

Traditional roast home bred beef or lamb dinner and vegetable

~~~~~~

Sglodion tatws neu llysiau y tymor

Chips or seasonal vegetables

~~~~~~

Salad ham

Ham salad

~~~~

Crymbl ffrwythau cartref gyda cwstard

Homemade fruit crumble served with custard

~~~~~~

Paflofa mafon

Raspberry pavlova

~~~~~

Pwdin bara menyn cartref gyda hufen iâ

Homemade bread and butter pudding with ice cream

~~~~~~

Hufen iâ

Ice cream

~~~~~~

Te neu Goffi/Tea or Coffee

£12.50 y Person

Dathlu 150 mlynedd

Rydym yn bwriadu trefnu penwythnos i ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu’r achos yma ym Methania ac fe hoffem gael lluniau, rhaglenni neu unrhyw atgofion o’r gorffennol er mwyn creu arddangosfa o atgofion.

Os oes gennych unrhyw beth fyddai o ddiddordeb tybed fyddech chi’n fodlon i ni eu benthyg er mwyn eu sganio a’u copïo. Gobeithiwn gael y deunyddiau erbyn diwedd mis Mehefin er mwyn cael amser i’w didoli a’u trefnu felly cysylltwch ag un o’r swyddogion gyda’ch atgofion.

Cyfrannu at ein cylchlythyr

Gofynnaf yn garedig i chi ystyried cyfrannu eitemau i’r Bont.

Mae ‘gwirfoddolwyr’ yn brin iawn ac yr un rhai yn cyfrannu’n gyson chware teg iddynt.

Mi fuaswn yn ddiolchgar iawn os gwnewch ystyried os gwelwch yn dda gyfrannu a chysylltu â mi ar 705074 neu ar yr e-bost isod.

huw.mckee@btinternet.com

Diolch o galon.

Apêl

Tybed oes ‘na rai ohonoch yn fodlon cynnig cinio i’n pregethwr ar ambell i Sul er mwyn ysgafnhau’r baich i’r criw bach ffyddlon sy’n darparu cinio ers blynyddoedd? Rhowch wybod i un o’r swyddogion.

Rhodd Cymorth

Mae Bethania wedi derbyn taliad o £4,576.79c gan ‘Cyllid a Thollau EM’ am 2014 drwy’r cynllun Rhodd Cymorth sydd yn help aruthrol at gostau’r Eglwys.

Os ydych yn drethdalwr a heb arwyddo ffurflen rhodd cymorth ar gyfer Bethania ac y dymuno gwneud cysylltwch â Mrs Einir Jones (Ffon 702834) os gwelwch yn dda.

Cyfle i’r Ifanc

Mae Bwrdd yr Eglwys wedi penderfynu rhoi cyfle i’r rhai ifanc gyfeilio yn ystod y casglu ar un Sul y mis a hefyd i’r aelodau sydd newydd eu derbyn helpu wrth y drws a chyda’r casgliad.  Os hoffech gyfeilio ar y piano neu offeryn arall rhowch wybod i Carys Morgan erbyn y mis nesaf.