Y Bont Mai 2015

Y Duw nid adwaenir

Duw y dwfn lonyddwch,

O’i phrysurdeb hi

Gad i galon oedi

Ennyd gyda thi.

Duw y dwfn dawelwch,

Gwag yw geiriau dyn,

Wrth i ni ymgolli

Ynot ti dy hun.

Duw y dwfn ddirgelwch,

er pob ymdrech fu,

methwyd catalogio

gwyrth dy gariad di.

Duw y dwfn ddedwyddwch,

awdur cariad rhad,

rho i ni ymollwng

nawr i ddwylo Tad.

Y Parch Morris Morris

Sylw’r Mis

Cyfoeth cymunedol

Faint ohonom sydd yn ystyried ein hunain yn gyfoethog?

Wel gadewch i mi ddweud yn hyderus a di-flewyn ar dafod fy mod yn ystyried fy hun yn hynod o freintiedig a chyfoethog, ac i mi, yn y cyd-destun yma, nid yw “ond oferedd”.

Ond “Cyfoethog ym mha gyd-destun?”. Yr ateb syml yw bod ein byd yn gorlifo â chyfoeth cymunedol.

Gwelsom ymateb ein cymdeithas ar ben-blwydd arbennig Mrs Beti Watson yn ddiweddar. Am achlysur oedd hwnnw lle gwelwyd gwir barch y gymuned at berson sydd wedi cyfrannu cymaint.  Rydym fel teulu yn hynod o ddiolchgar i’r gymuned leol am eu cefnogaeth i ymdrechion Sion a Gruffudd gyda’u hapêl Patagonia. Rydym yn freintiedig i gael bod yn rhan o’r agosatrwydd yma a hynny mewn byd sydd mor ynysig a mewnblyg yn gyffredinol.

Yn ddiweddar, ar ôl datgan ar y rhyngrwyd fy mod am feicio o Lundain i Amsterdam i godi arian tuag at Bowel Cancer, fe gyrhaeddwyd y targed, drwy gefnogaeth fy nghymuned, o fewn gryn wythnos. Anhygoel. Mae haelioni a brawdgarwch yn amlwg iawn.

Felly, ‘cymuned’, teulu, ffrindiau, capel, sefydladau ac yn y blaen? Beth yw eu gwerth? Dyma’r ‘cariad pur sydd fel y dur’ yn rhwymo cymunedau a chymdeithasau.

Buddsoddwch ynddynt ac mi gewch chi fudd, elw a gwir ‘gyfoeth’ amrhisiadwy.

Teulu McKee

Newyddion a Chyfarchion

Llongyfarchiadau i Eluned Morris ar ennill gwobr arbennig Age Cymru am ei gwaith yn sefydlu a threfnu Clwb Cinio Age Concern ers deunaw mlynedd. Cafodd ei gwobrwyo mewn seremoni yng Nghaerdydd ym mis Chwefror.

Eisteddfod yr Urdd. Pob lwc i bawb fydd yn cystadlu yn yr Eisteddfod yng Nghaerffili, yn unigolion ac mewn partïon.

I’r Dyddiadur

Sasiwn Cenhadol Chwiorydd y Gogledd – Mai 12 Capel Seilo, Llandudno

2.00   Parch Casi Jones, Clynnog

5.30   Delyth Wyn Davies, Chwilog

Bore Coffi Cymorth Cristnogol – Mai 16 rhwng 10.00-12.00

Stondin dewch a phrynwch yng Nghapel Saesneg, Ffordd Wynnstay.  Pris mynediad £2.00. Stondin Fasnach Deg

Gwaith yr Ysgol Sul                                                                      

Bu plant yr Ysgol Sul yn brysur yn creu arddangosfa o waith ar Ddamhegion Iesu ar gyfer yr Henaduriaeth. Bydd cyfarfod i’w gwobrwyo a chyfle i weld yr arddangosfeydd i gyd yng Nghapel y Dyffryn, Llandyrnog, nos Wener, Mai 8 am 6.00 gyda lluniaeth ysgafn i ddilyn.

 

Rhodd Cymorth

Mae Bethania wedi derbyn taliad o £4,576.79c gan ‘Cyllid a Thollau EM’ am 2014 drwy’r cynllun Rhodd Cymorth sydd yn help aruthrol at gostau’r Eglwys.

Os ydych yn drethdalwr a heb arwyddo ffurflen rhodd cymorth ar gyfer Bethania ac y dymuno gwneud cysylltwch â Mrs Einir Jones (Ffon 702834) os gwelwch yn dda.

Cyfrannu at Sylw’r Mis

Gofynnaf yn garedig i chi ystyried cyfrannu at Sylw’r Mis. Mae “gwirfoddolwyr” yn brin a baswn yn ddiolchgar am gymorth. A wnewch ystyried os gwelwch yn dda cyfrannu a chysylltu â mi ar 705074 neu ar yr e-bost isod.

huw.mckee@btinternet.com

Diolch o galon.

Atgofion am Gapel Trinity, Wrecsam

“Jesus loves me this I know

For the Bible tells me so.”

Dyma’r emyn cyntaf i mi gofio ei dysgu yn hogan fach, er nad oeddwn i’n deall y geiriau yn iawn gan fy mod yn dod o gartref Cymraeg ond yn mynd i gapel Saesneg!

Gweinidog oedd Dad, a’i gapeli cyntaf yng Nghaerwys ac Afonwen cyn iddo symud i Gwm Tawe, i gapel y Tabernacl, Ystradgynlais.  Cafodd alwad wedyn i Gapel Trinity yn Wrecsam, at y Presbyteriaid Saesneg ac yno y bu tan iddo ymddeol.  Ac yn Wrecsam y cefais i fy ngeni a fy magu, yn siarad Cymraeg adre ac yn yr ysgol ond Saesneg yn y capel.

Tybed sawl un ohonoch sydd wedi gweld capel Trinity?  Saif yr adeilad mawr brics coch ar gornel King Street, drws nesa i orsaf bysiau Crosville ers talwm, arferai fod yn ganolbwynt i’r dref cyn dyfodiad Dôl yr  Eryrod a’r Iwerddon.  Yn Trinity y cefais fy medyddio, fy nerbyn ac yno bu i Gerallt a minnau briodi.

Roedd Trinity yn gapel bywiog a phrysur iawn ac yno roedd gen i griw o ffrindiau gwahanol yno i’r ffrindiau Cymraeg oedd gen i yn yr ysgol.  Roedd Dydd Sul yn ddiwrnod prysur yn ein tŷ ni, ond doedd dim rhaid codi’n rhy fuan gan nad oedd  gwasanaeth y bore tan 11 ac Ysgol Sul am 2.30.

Dydw i ddim yn siŵr sut oedd Mam yn llwyddo i gael cinio ar y bwrdd mewn pryd bob amser, a phwdin reis i bwdin bob Sul, hynny yw tan i Gerallt ddechrau dod acw – mae’n gas ganddo bwdin reis!

Roedd gan gerddoriaeth le amlwg yn y capel.  Rydw i’n cofio cael llyfr emynau hen nodiant am y tro cyntaf pan oeddwn i yn fy arddegau a mwynhau trïo canu alto i’r emynau.  Roedd Mam yn perthyn i gôr y capel a bob Dydd Gwener y Groglith byddai’r côr yn canu’r Croeshoeliad gan Stainer ac roeddwn i wrth fy modd yn gwrando ar y gytgan “Fling wide the gates!”

Roedd côr arall yn y capel hefyd, sef y Trinity Singers, côr plant, ieuenctid ac aelodau iau’r capel ac mi wnaethon ni berfformio sawl darn o waith cofiadwy – Joseff a’i gôt amryliw,  Capten Noa a sawl cyfanwaith gan Roger Jones; yr un sy’n aros yn y cof yw Greater than Gold, hanes Mari Jones a’i Beibl.  Roedden ni’n teithio i ambell gapel arall i berfformio a chael  hwyl ar y bws ar y ffordd.

Wrth symud i’r Ysgol Uwchradd, roedd cyfle i fynd i YPF (Young People’s Fellowship) bob nos Lun, lle roeddem ni’n chwarae tenis bwrdd neu snwcer, gwneud crefftau a gwrando ar recordiau – dyna fi’n dangos fy oed yn syth!  Efo criw YPF y bydden ni’n mynd am ambell benwythnos i Goleg y Bala a chael llawer o hwyl yn cymdeithasu efo pobl ifanc o gapeli eraill.

Mae gen i lawer o atgofion melys o helpu i addurno’r capel adeg Diolchgarwch neu’r Pasg, helpu ar stondinau wrth godi arian at amryw o achosion da, cymryd rhan mewn gwasanaethau Nadolig a thripiau Ysgol Sul i’r Rhyl neu Southport.

Mae capel Trinity yn dal i sefyll yn dalog ar gornel King Street ac yn ôl y sôn yn dal i fod yn gapel bywiog a phrysur ond faswn i ddim eisiau mynd yn ôl.  Pobl sy’n gwneud capel ac mae llawer o’r bobl oedd yn ddylanwad arna i yn ystod fy mhlentyndod wedi ein gadael erbyn hyn.

Mae’n braf cael edrych yn ôl a hel atgofion ond mae’n bwysig edrych ymlaen hefyd a chreu atgofion newydd.

Diolch i Bethan Tomos am yr hanesion diddorol yma.

Diolch hefyd i Llinos Gerallt am gytuno i rannu ei hatgofion mis nesaf.

Neges gan aelodau’r Ysgol Sul

Bwriadwn gynnal ein hastudiaethau Beiblaidd ar fore Sul o hyn ymlaen am ryw hanner awr ar ôl oedfa’r bore.

Byddem yn hynod o falch pe bai chwaneg yn ymuno â ni a hoffem gael gwirfoddolwyr i helpu Euryn Tomos fel athro gan fod Tudor Beech yn analluog i fod gyda ni ar hyn o bryd.

Heb eich cefnogaeth ni allwn barhau. Diolch.

Rhaghysbysiad Pererindod

Bwriadwn gynnal ein Pererindod eleni ar Ddydd Sul, Gorffennaf 5. Bydd mwy o fanylion yn dilyn yn fuan. Edrychwn ymlaen am ddiwrnod cofiadwy a gobeithio am dywydd braf!

 Dathlu 150 mlynedd

Ar Dachwedd 2, 1865 cynhaliwyd yr agoriad swyddogol o addoldy ‘Sebuel’, sef yr adeilad rydym yn ei adnabod heddiw fel y festri fawr.

Er mwyn nodi 150 o flynyddoedd ers sefydlu achos y Methodistiaid Calfinaidd yn ardal Llanfwrog rydym yn bwriadu cynnal gweithgaredd ac arddangosfa yn ystod yr Hydref.

Os oes gennych ddogfennau, lluniau neu hanesion o’r capel yn ystod y 150 mlynedd diwethaf buasai’r Blaenoriaid yn falch iawn o’i derbyn gennych.

Mi wnawn ni sicrhau eu bod yn cael eu dychwelyd i chwi ar ôl gwneud copïau. Diolch yn fawr.

Cyfle i’r Ifanc

Mae Bwrdd yr Eglwys wedi penderfynu rhoi cyfle i’r rhai ifanc gyfeilio yn ystod y casglu ar un Sul y mis a hefyd i’r aelodau sydd newydd eu derbyn helpu wrth y drws a chyda’r casgliad.  Os hoffech gyfeilio ar y piano neu offeryn arall rhowch wybod i Carys Morgan erbyn y mis nesaf.

Mae’r Bont eich angen chi!!

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at Sylw’r Mis dros y blynyddoedd. Mae’r rhestr o bawb sydd wedi cyfrannu ers 2010 ar gael i’r rhai â diddordeb gwybod pwy gyfrannodd a phryd!

Yn anffodus mae’n profi yn fwyfwy anodd i gael aelodau i ysgrifennu ac felly mae peryg y bydd rhaid mynd yn ôl ar ofyn yr un rhai i gyfrannu. Felly … os nad ydych wedi gwneud ac yn dymuno rhoi eich ‘Sylw’ mi fuaswn yn fwy na diolchgar.

Cysylltwch os gwelwch yn dda ar un o’r canlynol: