Y Bont Mawrth 2015

‘Nid oes amser, ond yr amser hwn’

Braint anghyffredin yw cael dathlu dau ben-blwydd mor bwysig o fewn yr un eglwys, a hynny yn ystod yr un flwyddyn. Cawsom oll flas ar ddathlu gyda Beti Watson, a rhyfeddu at ei hegni a’i ffyddlondeb parhaus i gyfarfodydd y capel, a dymunwn oll y gorau iddi eto.

Ac yna, eleni hefyd, fe gawn ddathlu pen-blwydd yr achos ym Methania yn 150 oed, cyfnod nad yw ond ysbaid fer yn hanes hir yr efengyl yng Nghymru, ond cyfnod pwysig wrth i ni geisio cynnal y weledigaeth wreiddiol mewn cyfnod hollol newydd.

Yn nhermau Bethania, mae’r dathlu hwn yn gyfle i ddiolch am yr hyn a fu, ond hefyd i ystyried beth yw ein cenhadaeth heddiw, ac i farnu dichonolrwydd ein parhad yn nhermau eglurder ein gweledigaeth, a brwdfrydedd ein bwriadau.

Pen-blwydd hapus i bawb o deulu Bethania …

Y Parch Morris Morris

Sylw’r Mis

“Llygad am lygad”

Yn ddiweddar, yn gynamserol, bu farw gwyddonydd disglair dros ben, sef Dr  Yoshiki Sasai.  Roedd yn arbenigwr ar dechnoleg celloedd (stem cells).  Ar ôl blynyddoedd o ymchwil ac ymdrech llwyddodd  Dr. Sasai  i dyfu llygad.

Roedd llygad wedi datblygu mewn anifeiliaid tua 550 miliwn o flynyddoedd yn ôl.  Bu Darwin, hyd yn oed, yn anesmwyth o feddwl bod rhywbeth mor gywrain â llygad wedi ffurfio o ddewis naturiol.

Yn  wahanol i glustiau neu drwyn, er enghraifft, sydd ddim yn peidio â thyfu drwy gydol ein hoes, mae’r llygad yn aros yr un maint ers ein genedigaeth.

Cofiwch fod yna broses gymhleth iawn o ddyfrhad (irrigation), iriad (lubrication), glanhau ac amddiffyn yn digwydd bob tro y byddwn yn amrantu (blink).  Digwydd hyn, ar gyfartaledd tua 4,200,000 o weithiau mewn blwyddyn!!!

Ar ôl blynyddoedd o waith ymchwil mae’n debyg fod gwyddonwyr yn hyderus o ddarganfod ffyrdd o wella gwendidau’r llygaid, a hyd yn oed tyfu rhai fel y gwnaeth Dr Sasai.

Cwestiwn i’w ateb:- Sut y mae’r hyn a wel y llygad yn anfon neges i’r ymennydd i ddweud wrthym beth rydym yn ei weld?  Mewn blynyddoedd byddwn yn gwybod sut mae’r llygad yn cysylltu â’r ymennydd a bydd gobaith i ddeillion weld yr un fath a ninnau.

Ceir dros gant o gyfeiriadau at lygad yn y Beibl.  Fe enwaf un o Exodus, pennod 21 adnod 24 – “Llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed..”  Mae’n  debyg mae hwn oedd y dyfyniad mwyaf dadleuol yn y Beibl.

Dwed Martin Luther King yng nghyd-destun trais hiliol, fod yr hen ddeddf o lygad am lygad yn gadael pawb yn ddall.  Datganodd Mahatma Gandhi yr un modd y byddai talu llygad am lygad yn gadael yr holl fyd yn ddall.

Tybed gall unrhyw un gyfiawnhau llygad am lygad?

Tasg y mis:-  sawl emyn sydd gyda’r geiriau “llygad” ynddo?

Glyn Jones

Newyddion a Chyfarchion

Dathliad Pen-blwydd yn Gant Oed – Diolch i bawb a gyfrannodd at gyngerdd Dathlu Pen-blwydd Mrs Beti Watson yn GANT oed yng Nghapel Bethania nos Sul, Chwefror 8. Cafwyd noson fythgofiadwy a chyfle i gyfarfod â ffrindiau a theulu hyfryd Mrs Watson. Gwyliwch allan am luniau o’r dathlu yn rhifynnau nesaf o’r Bont! Pen-blwydd Hapus Mrs Watson!!

Newid aelwyd – Mae Bronwen Jones yn treulio cyfnod yng Nghartref Trosnant. Dymuniadau gorau iddi am wellhad buan.

Babi newydd – Llongyfarchiadau i Emyr a Nan, Galchog, ar ddod yn Daid a Nain am y tro cyntaf ac i Eirlys Lloyd yn Hen Nain. Ganwyd merch fach, Megan Llwyd, i Lisa a Bedwyr ym Mhowys.

Pen-blwydd arbennig – Pen-blwydd hapus iawn i Morfudd Pierce fydd yn 90 oed ddiwedd y mis. Mwynhewch y dathlu.

Dydd Gweddi Byd-eang y Chwiorydd – Bydd cyfarfod undebol yng nghapel Pendref am 2 o’r gloch ddydd Gwener, Mawrth 6. Croeso cynnes i bawb.

Cyfarfodydd y Grawys 12.30y.h. – 1.30y.h.

  • Mercher Mawrth 4: Eglwys Gatholig
  • Mercher Mawrth 11: Eglwys Bresbyteraidd Saesneg
  • Mercher Mawrth 18: St. Meugan (10 Stryd Mwrog)
  • Mercher Mawrth 25: Pendref

Casgliad Cenhadol y Chwiorydd

Gair bach i atgoffa’r Chwiorydd i ddod â’u cyfraniadau tuag at Gasgliad Cenhadol y Chwiorydd i Bethan Tomos neu Mari Jones erbyn diwedd mis Mawrth os gwelwch yn dda. Diolch yn fawr.

Gŵyl Ddramâu Capel Bethania

Diolch yn gywir iawn i’r holl bobl a gymrodd ran yn yr Ŵyl Ddramâu eto eleni.  Mae’ch cyfraniad chi i gyd yn werthfawr iawn i’r ŵyl. Diolch yn fawr iawn i bob yr un ohonoch am barhau i gefnogi’r ŵyl (ymhob ffordd) a’i gwneud hi’n llwyddiant bob blwyddyn. Diolch hefyd i staff Elfair am werthu tocynnau, ac am ganiatâd yr awduron i berfformio yn ddi-dâl, felly yn lle taliadau hawlfraint, fe gyflwynir rhodd ariannol o £125 eleni, tuag at elusen Cronfa Elen (Awyr Las) er hybu rhoddi organau. Diolch yn arbennig i Margaret am ei gwaith gwerthfawr a diflino eto.

Swper y Dramâu

Bydd Swper y Dramâu yn ddigwyddiad ar y cyd rhwng Y Gymdeithas a’r Ŵyl ar nos Sadwrn Mawrth 7 am 7.30 y.h. yn Festri Bethania. Bydd y bwyd gan Anne Richards a bydd Parti Sioned Roberts (Triawd Nantclwyd) yn ein diddori. Bydd angen enwau ymlaen llaw i Margaret Roberts erbyn Mawrth 1.

Atgofion am Gapel Cades, Clocaenog

(Yn dilyn o rifyn Chwefror Y Bont)

Tra’n son am y croeso a gaem ar lawer aelwyd mae’n rhaid son am Miss Gwen Evans, Bro Dawel. Byddem yn mynd ati hi am bryd aml i Sul a son am steil. Pan fyddai’r Barnwr yn y Cwrt yn Rhuthun, Miss Evans fyddai’n cadw tŷ iddo tra  roedd yn y dref a chadwai yn union yr un safon o gwrteisi a chroeso yn ei chartref ag a wnâi i’r Barnwr. Byddai’n galw’r plant i gyd wrth eu henwau llawn a Miss Rhian Jones y galwai fi er pan oeddwn yn eneth fach. Rhaid cyfaddef bod Sian a minnau yn cael pwl o chwerthin ambell dro pan fyddem yno ond dim ond am nad oeddem wedi arfer gyda’r fath dendans a pharchusrwydd. Roedd gennym feddwl mawr o Miss Evans.

Rwy’n credu i Gapel Cades fod heb fugail am nifer o flynyddoedd yn ystod fy mhlentyndod er bod y Parchedigion Gwilym Davies Bethania ac Arthur Roberts, Y Rhiw wedi bod yn cadw llygad arnom am gyfnodau . Y gweinidog cyntaf a gofiaf yn dda oedd y Parch Ieuan Lloyd a ddaeth i gylchdaith Clawddnewydd, Derwen a Chlocaenog ym 1957 ac ef a’m derbyniodd yn gyflawn aelod o’r capel. Roedd ef a Mrs Lloyd yn gyfeillgar iawn ac mae’n  braf taro arnynt ambell dro hyd heddiw pan ddônt o Sir Fôn i Ddyffryn Clwyd am dro.

Yn dilyn y Parch Ieuan Lloyd daeth y Parch G Eurwyn Hughes yn fugail i’r ofalaeth ym 1965 ond roedd ei iechyd yn weddol fregus ac ni fu gyda ni yn hir.  Cymrodd y Parch O.R. Parry ofal amdanom am ryw ddwy flynedd wedyn cyn i’r Parch Bryn Williams, Cyffylliog ddod yn weinidog Cades o 1969 tan 1974 pan gaewyd drysau’r capel am y tro olaf. Wrth gwrs, fel heddiw, byddai pregethwyr o gapeli eraill yn dod i gymryd oedfaon yn eu tro ond cynhaliwyd nifer fawr o gyfarfodydd Gweddi hefyd.

Ar hyd y blynyddoedd y bûm yn mynychu capel Cades roedd yno chwe dosbarth ysgol Sul, un i’r babanod, un i’r plant cynradd, un i’r plant ysgol Uwchradd, un i’r bobl ifanc a dau i’r bobl hŷn, y dynion a’r merched ar wahân. Roedd tri neu bedwar o gyfeilyddion yn cymryd eu tro wrth yr organ ond mae’n debyg mai Alun Roberts, Derlwyn (Trefin yn ddiweddarach) a Ceinwen Roberts fyddai’n cymryd eu tro yno amlaf.

Roedd Ceinwen Roberts yn wraig arbennig iawn. Roedd yn athrawes yn Ysgol Clocaenog drwy’r wythnos ac yn athrawes Ysgol Sul gydwybodol hefyd. Hi fyddai’n ein paratoi ar gyfer yr Ŵyl Ysgol Sul, y Sasiwn Plant, yr Arholiad Sirol, y Maes Dysgu Allan a’r Diolchgarwch. Ar ben hyn, bob Nadolig fe fyddai hi a’i gŵr, Wil Roberts, yn paratoi parti i blant Clocaenog i gyd. Roedd hyn yn waith caled gan ein bod yn cael dal i fynd i’r parti ar ôl mynd i’r Ysgol Uwchradd hefyd. Mae’n debyg eu bod yn bwydo tua deugain ohonom. Mae dyled plant Clocaenog ar hyd y blynyddoedd yn fawr i Ceinwen Roberts.

Ie, Capel bychan oedd Cades ond roedd yno gynhesrwydd a chymdeithas arbennig iawn. Roeddem fel teulu clos ac roeddwn yn ddigalon iawn pan benderfynwyd ei gau a hynny nid oherwydd diffyg aelodau ond oherwydd yr arian oedd angen ei wario i’w adnewyddu. Pan gaewyd y capel rhoddwyd gynnig i bawb ofyn am eitem er cof am Cades ac mi gefais i blât gasgliad. Yn ddiweddarach daeth y garreg gron oedd uwchben drws y capel yn eiddo i mi fel anrheg gan frodyr Y Fron ac mae’r eitemau yma yn drysorau gennyf.

Atgofion melys am ddyddiau difyr, dyddiau da.

Rhian Jones

Diolch i Rhian Jones (Pool Park) am yr hanesion hynod ddiddorol yma.

Diolch hefyd i Mari Jones am gytuno i roi hanes ei phlentyndod yng Nghapel Sïon, Bryneglwys y mis nesaf.

Cyfle i’r Ifanc

Mae Bwrdd yr Eglwys wedi penderfynu rhoi cyfle i’r rhai ifanc gyfeilio yn ystod y casglu ar un Sul y mis a hefyd i’r aelodau sydd newydd eu derbyn helpu wrth y drws a chyda’r casgliad.  Os hoffech gyfeilio ar y piano neu offeryn arall rhowch wybod i Carys Morgan erbyn y mis nesaf.

Mae’r Bont eich angen chi!!

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at Sylw’r Mis dros y blynyddoedd. Mae’r rhestr o bawb sydd wedi cyfrannu ers 2010 ar gael i’r rhai â diddordeb gwybod pwy gyfrannodd a phryd!

Yn anffodus mae’n profi yn fwyfwy anodd i gael aelodau i ysgrifennu ac felly mae peryg y bydd rhaid mynd yn ôl ar ofyn yr un rhai i gyfrannu. Felly … os nad ydych wedi gwneud ac yn dymuno rhoi eich ‘Sylw’ mi fuaswn yn fwy na diolchgar.

Cysylltwch os gwelwch yn dda ar un o’r canlynol: