Y Bont Medi 2015

Ein tasg …

“Fel un oedd yn gryf o blaid uno’r enwadau, rwy’n derbyn bellach fod ein ceidwadaeth gynhenid fel Cymry wedi rhoi’r ergyd farwol (am y tro beth bynnag) i’r freuddwyd honno. Felly nid mater o ddileu’r enwadau yw hi bellach ond cael aelodau’r gwahanol enwadau i gydnabod realiti’r sefyllfa, a dod at ein gilydd mewn un lle. Cawn gadw at ein traddodiad enwadol os mynnwn, ond o leia gallwn ymdrechu i gytuno ar un man addoli – ac os nad oes un o’r capeli presennol yn addas, yna rhaid addasu adeilad arall i’r pwrpas. A rhaid i’r cyfundrefnau enwadol helpu – mae ganddyn nhw ddigon o arian, a digon o fodd i roi cynlluniau dychmygus ar waith, cyn iddi fynd yn rhy hwyr.

Bydd rhaid sathru ar ambell i gorn, a bydd rhaid bod yn barod i dorri ambell i gornel. Ond o’i gymharu ȃ’r dasg anferth a wynebai ein cyndeidiau wrth adeiladu’r rhwydwaith rhyfeddol o gapeli ar hyd a lled ein gwlad, tasg gymharol syml yw hi. Dim ond ewyllys sydd ei angen. A dogn go dda o ffydd, gobaith a chariad.”        

Dafydd Iwan (o wefan Cristnogaeth21)

Y Parch Morris Morris

Sylw’r Mis

Dathliad Gŵyl y Glaniad sydd wedi cymryd lle ym Mhatagonia yn 2015 i nodi canrif a hanner o flynyddoedd ers i ymsefydlwyr cyntaf o Gymru gyrraedd yr Ariannin.  Yn 1865 hwyliodd tua 160 o Gymry o Lerpwl ar y Mimosa (hen long de) dros fôr yr Iwerydd i ddianc o dlodi enbyd a chwilio am fywyd gwell.  Bu hon yn fordaith anodd ac anesmwyth o deithio 8000 o filltiroedd  dros ddau fis cyn glanio.  Ond siomedigaeth oedd yn eu hwynebu, nid gwlad o laeth a mêl oedd yma ond diffeithwch heb ddim cyfleusterau. 

Gyda phenderfyniad ymdrechwyd yn galed i drin y tir a llwyddwyd ymhen blynyddoedd lawer i sefydlu’r Wladfa Gymreig  gyda’r gobaith o ddiogelu’r grefydd, y diwylliant a’r iaith Gymraeg.  Mae amryw o’r disgynyddion yn siarad yr iaith a heddiw mae tua 1100 o blant ac oedolion yn dysgu Cymraeg ym Mhatagonia ac maent yn ymfalchïo yn eu hetifeddiaeth ac y mae parhad y Gymraeg yn destun llawenydd ac yn haeddu dathliad teilwng.

Byddwn ninnau ym Methania eleni yn dathlu amgylchiad arbennig gan yn yr union flwyddyn yr hwyliodd y Mimosa yr adeiladwyd Capel Sebuel (y festri fawr lle cynhelir yr Ysgol Sul, dramâu a gweithgareddu eraill). 

Diolch i’r rhai a gyfrannodd eu ceiniogau prin i sefydlu’r adeilad yma 150 o flynyddoedd yn ôl.  Mae amryw o’r swyddogion yn gwneud paratoadau ar gyfer yr achlysur yma ac mae cais wedi bod am hen luniau.  Diddorol fydd edrych ar yr arddangosfa a gweld wynebau cyfarwydd aelodau sydd wedi ein gadael erbyn hyn. 

Coffa da am y rhai fu mor weithgar am flynyddoedd yn gweinidogaethu, athrawon ysgol Sul, ysgrifenyddion, trysoryddion, cyfeilyddion, gofalwyr a llawer o ffyddloniaid eraill.

Mae gweithwyr gorau’r ne yn marw yn eu gwaith

Ond eraill ddaw’n eu lle ar hyd yr oesoedd maith

A ffyddlon i’w addewid fry yw’r hwn a fu’n sylfaenu’r tŷ.

Mae ein diolch i’r cenedlaethau a lwyddodd i sefydlu Sebuel a Bethania sydd yn lleoliad i ni addoli a chymdeithasu.  Rhaid i ninnau fel Cymry’r Wladfa ymdrechu a bod yn frwdfrydig i gadw drysau ein capeli ar agor nid yn unig i addoli ond i ddiogelu’r iaith Gymraeg.  Dal ati heb laesu dwylo a dweud wrth ein hunain “Nid da lle gellir gwell”.

Cefnogwch a mwynhewch y dathliad.    

Gwyneth Roberts

o.n  Tybed a wnaiff ymweliad â’r achlysur arbennig yma ysgogi rhagor o aelodau i ymuno yn oedfaon y Sul.

Newyddion a Chyfarchion

Cydymdeimlwn yn ddwys iawn ag Eifion Hughes, Tegla a’r teulu, Eifion wedi colli ei fam dros yr haf.

Llongyfarchiadau mawr i Sion McKee a Dyfan Jones ar eu llwyddiant yn eu harholiadau lefel A a phob lwc iddynt yng Nghaerdydd a Lerpwl. Llongyfarchiadau hefyd i Dafydd Cale, Gruffudd McKee, Elin Roberts ac Elan Meirion ar eu harholiadau TGAU a dymuniadau gorau iddynt hwythau wrth barhau â’u haddysg. Dymuniadau gorau hefyd i bawb sy’n mynd i ysgol newydd neu’n dechrau swydd newydd.

Cinio a Sgwrs – Bydd y Cinio a Sgwrs yn ailafael amser cinio Dydd Mercher Medi 2 am 12.00. Croeso cynnes i bawb ymuno am damaid o ginio a chyfle am glonc.

Cartref newydd Dymuniadau gorau i Hedd a Non a’r merched yn eu cartref newydd yn Ninbych. Gobeithio y byddwn yn dal i’ch gweld yma ym Methania.

Llongyfarchiadau i bawb gafodd lwyddiant yn Eisteddfod Meifod, braf iawn gweld cynrychiolaeth leol ac wynebau cyfarwydd yn ystod yr wythnos.

Croeso adref i Gruffudd ac Elan fu ym Mhatagonia yn perfformio yn sioe Mimosa. Mae’n siŵr eich bod wedi cael profiadau anhygoel ac edrychwn ymlaen at glywed yr hanes.

Dewch am Dro efo’r Ysgol Sul – Beth am ymuno i fynd ar bicnic i ben Moel Famau ar ôl yr oedfa ar y Fedi 6? (os bydd hi’n braf!) Cyfle i gymdeithasu ac i ail-greu’r Picnic Anferth y byddwn yn sôn amdano yn yr Ysgol Sul. Cofiwch eich sgidiau cerdded a’ch pecyn bwyd a dewch i ymuno yn yr hwyl.

Atgofion Melys Ysgol Sul Bethania

Mae gen i atgofion melys o godi ar fore Sul braf yn y gwanwyn/haf, helpu Dad i godi llysiau o’r ardd gan glywed clychau Eglwys Llanfwrog yn canu. Yna mynd â’r llysiau i mam i wneud y cinio Sul gorau ac wedyn mynd gyda Nain (sef Eunice Smith) i’r ysgol Sul am 2.00 y pnawn. Roedd fy nosbarth cyntaf yn ystafell y Blaenoriaid, wedyn symud i’r festri fach ac yna i’r festri fawr fel y tyfais i fyny a hynny o dan arweiniad Mrs Parry a Mrs Haf Jones ar y piano. Roedd yno nifer o athrawon sef fy Nain, Mrs Mary ‘Boots’ Williams, Mrs Mary Edwards a Mr Ted Roberts.

Mae yna ddau beth sydd wedi aros yn fy nghof. Y cyntaf, mynd i gartef Awelon i ganu i’r preswylwyr. Roeddem yn mynd o ystafell ddydd i ystafell ddydd i ganu i’r henoed a oedd mor ddiolchgar a hapus o’n gweld a’n clywed. Ond mi wnes i ffeindio’n anodd iawn i ganu a pheidio chwerthin un tro gan fod rhywun wedi tynnu’n sylw at wydr o ddŵr ar ben y teledu gyda set o ddannedd gosod ynddo!! Dwi’n siŵr nad dim ond fi oedd yn stryglo i gadw wyneb syth!

Yr ail beth rwy’n ei gofio’n dda yw’r trip ysgol Sul i Sw Caer. Roedd hi’n ddiwrnod braf ac ar y diwedd ar ôl mynd nôl i’r bws Rogers, dywedodd y dreifar fyse hi yn ‘treat’ neis iawn i orffen y diwrnod hefo trip ar gwch ar afon Gaer. Wel am hwyl!!  A sgwn i bwy arall oedd ar y trip sy’n cofio cael ein diddanu gan grŵp o ‘nudists’ yn ‘skinny dipio’ ar ochor yr afon. Roedd ‘na lawer o chwerthin ac ambell i wyneb coch hefyd ar y cwch ‘na.  Atgofion melys iawn wir …

      Richard Hughes

Diolch Richard am yr hanesion diddorol yma. Cawn ddarllen atgofion Catrin Hughes mis nesaf. Diolch Catrin am gytuno i wneud.

Pererindod 2015

Diolch i bawb wnaeth ddod ar ein Pererindod eleni. Cawsom lond trol o hwyl ar y daith er y glaw amser cinio wrth gyrraedd Byd Mari Jones ger y Bala.

Edrychwyd ar ein holau gan Nerys a Carwyn Siddall a rhaid ymestyn ein diolch diffuant iddynt am eu caredigrwydd. Nerys am ei chroeso ym Myd Mari Jones a’r hanes difyr yno ac wedyn Carwyn yn yr Hen Gapel ger Llanuwchllyn a’i hanes amserol iawn am Michael D Jones a’r cyswllt â Phatagonia.

Diolch hefyd i Carwyn am ein tywys o gwmpas Llanuwchllyn a’i hanesion difyr am y pentref.

Criw y Pererindod y tu allan i Gapel Tegid, Y Bala

Criw y Pererindod y tu allan i Gapel Tegid, Y Bala

******  Dathlu 150 ******

Cofiwch am y dathlu 150 ar Hydref 10 ac 11.

Bydd arddangosfa a diwrnod agored ar y dydd Sadwrn ac yna Oedfa Deulu fore Sul a chyngerdd fin nos. Rydym yn dal i chwilio am greiriau, lluniau neu atgofion ar gyfer yr arddangosfa felly os oes gennych unrhyw atgof o Fethania ers talwm cysylltwch ag un o’r blaenoriaid.

Rhodd Cymorth

Mae Bethania wedi derbyn taliad o £4,576.79c gan ‘Cyllid a Thollau EM’ am 2014 drwy’r cynllun Rhodd Cymorth sydd yn help aruthrol at gostau’r Eglwys.

Os ydych yn drethdalwr a heb arwyddo ffurflen rhodd cymorth ar gyfer Bethania ac y dymuno gwneud cysylltwch â Mrs Einir Jones (Ffon 702834) os gwelwch yn dda.

Cyfle i’r Ifanc

Mae Bwrdd yr Eglwys wedi penderfynu rhoi cyfle i’r rhai ifanc gyfeilio yn ystod y casglu ar un Sul y mis a hefyd i’r aelodau sydd newydd eu derbyn helpu wrth y drws a chyda’r casgliad.  Os hoffech gyfeilio ar y piano neu offeryn arall rhowch wybod i Carys Morgan erbyn y mis nesaf.

Mae’r Bont eich angen chi!!

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at Sylw’r Mis dros y blynyddoedd. Mae’r rhestr o bawb sydd wedi cyfrannu ers 2010 ar gael i’r rhai â diddordeb gwybod pwy gyfrannodd a phryd!

Yn anffodus mae’n profi yn fwyfwy anodd i gael aelodau i ysgrifennu ac felly mae peryg y bydd rhaid mynd yn ôl ar ofyn yr un rhai i gyfrannu. Felly … os nad ydych wedi gwneud ac yn dymuno rhoi eich ‘Sylw’ mi fuaswn yn fwy na diolchgar.

Cysylltwch os gwelwch yn dda ar un o’r canlynol:

Cyfrannu at Sylw’r Mis

Gofynnaf yn garedig i chi ystyried cyfrannu at Sylw’r Mis. Mae “gwirfoddolwyr” yn brin a baswn yn ddiolchgar am gymorth. A wnewch ystyried os gwelwch yn dda cyfrannu a chysylltu â mi ar 705074 neu ar yr e-bost isod.

huw.mckee@btinternet.com

Diolch o galon.