Y Bont Mehefin 2015

Duw a natur….

Nid yw’r teimlad fod rhyw berthynas gyfrin cyd rhwng dyn a byd natur yn newydd. Yn wir, y mae’r fath deimlad yn blaenori’r crefyddau mawr o ran amser, a gellid dychmygu fod y fath deimladau gyn hyned â’r ddynoliaeth ei hun.

Tybed a fedrwn ddod yn ymwybodol o ‘arall’, ac o ‘gymundeb’, ac o ‘ymwybod cyfriniol’ wrth ddod wyneb yn wyneb â phrydferthwch natur, ac wrth fuddsoddi amser i ymgolli ynddo? Ond o ofyn hynny, beth yn ychwaneg y medr y mwyafrif ohonom ei ddisgwyl o oedfa neu gyfarfod gweddi? Lle felly mae’r ffin, a lle y gwahaniaeth cyd rhwng ein profiad o natur, a’n disgwyliadau o ‘Dduw’? Onid yw’r naill a’r llall yn ymblethu ac yn ymgolli yn ei gilydd, pan ddaw’n haws i ymdeimlo ag agosrwydd Duw yn unigedd yr amgylchfyd nag yng nghwmni eraill yn yr eglwysi?

Yr her yw croesawu’r eiliadau hynny o ymwybod ysbrydol, heb deimlo wedyn bod angen eu diffinio, eu dadansoddi….na chwaith orfod eu hamddiffyn.

Y Parch Morris Morris

Sylw’r Mis

Sut esiampl a dylanwad ydym ni i’n plant?

Aeth fy nhad yng nghyfraith i sêl hen greiriau ym Miwmares yn ddiweddar ac ar un o’r stondinau daeth ar draws ‘trysor’ oedd wedi ei gadw’n saff gan wraig a’i gwreiddiau’n ddwfn yn Nyffryn Clwyd, a gŵr a’i wreiddiau’n ddwfn ym myd amaethyddiaeth Dyffryn Conwy.  Rhaglenni oeddynt – rhaglen Sioe Rhuthun a rhaglenni sioeau cŵn amrywiol. Eu perchnogion gwreiddiol oedd Enid a Robat Defi Roberts – Coed Llydan Mawr, Melin y Coed yn wreiddiol, cyn ymddeol i fyw i’r Parc yn Rhuthun (ac Enid wedi ei magu yn Nyffryn Clwyd).  Y mae’r ddau wedi ein gadael erbyn hyn.

Daeth gweld y rhaglenni ag atgofion lu am y ddau, ac am fy magwraeth ym mhentref Melin y Coed – y Capel, a’r dylanwadau. Enid a Robat Defi, y ddau yn weithgar iawn ymhob ffordd yn y Capel ac yn y gymuned. Robat Defi yn canu yng Nghôr Meibion Melin y Coed ac Enid yn cyfeilio iddynt ac yn weithgar efo’r dramâu (fel y bu ar ôl symud i Fethania).  Y ddau wedi byw bywyd Capel a bywyd pentref bychan – pawb yn fodlon rhannu baich a chymryd rhan – neb yn meddwl ddwywaith, a neb yn meddwl am wrthod, achos does ‘na’m digon o bobl eraill i wneud yn eich lle – felly pawb yn cymryd ei dro ar bopeth!

Pobl fel Enid a Robat Defi a phobl weithgar eraill fel Cassie Hughes (un arall eto a ddaeth o Felin y Coed i Fethania) sydd wedi dylanwadu fy mhlentyndod a dylanwadu fy ngwreiddiau.  Pa drefn rhagluniaeth ddaeth ag Enid a Robat Defi Roberts, Cassie a Robert Hughes a minnau o Fethel i Fethania? A pha drefn rhagluniaeth ddaeth â ‘trysor’ Enid a Robat Defi at sylw fy nhad yng nghyfraith a’i daeth a nhw yn ôl i Ruthun ac yn ôl at rywun oedd yn cofio’r ddau? (Heb son am sut aethant i sêl creiriau ym Miwmares yn y lle cynta!)

Mae’r atgofion ddaeth yn ôl hefo’r rhaglenni yn dangos fod y gwreiddiau yn gryf ac yn iach o hyd! (er mod i wedi byw yn Nyffryn Clwyd erbyn hyn yn llawer hirach na fûm yn byw yn Nyffryn Conwy).

Mae’n amlwg mae profiadau a dylanwadau ein plentyndod sy’n ffurfio ein gwreiddiau a’n cymeriadau a’n gwneud ni’n beth ydym – felly mae’n codi’r cwestiwn o sut esiampl ydym ni wedi bod i’n plant ni, ac i blant yr eglwys? Pa ddylanwad ydym ni’n ei adael ar ôl? Am bwy fydd ein plant ni a phlant yr eglwys yn cofio amdanynt am eu bod wedi  dylanwadu’n bositif ar eu plentyndod a’u bywydau? Mae’r ateb yn ein dwylo ni!

Margaret Roberts

Newyddion a Chyfarchion

Babis Newydd – Llongyfarchiadau i Nia Clwyd ac Owain ar enedigaeth Wiliam Dafydd, brawd bach i Anni a Martha, ac i Elen a Dan ar enedigaeth Greta Gwen, chwaer fach i Ted. Hefyd i Clwyd a Carol a Dei ac Olwen ar ddod yn daid a nain eto.

Ysbyty – Deallwn fod Esyllt Morris wedi treulio cyfnod yn yr ysbyty yn cael tynnu ei phendics. Cofion atat ti Esyllt a gobeithio y byddi di’n gwella’n fuan.

Colli Aelod – Gyda thristwch y clywsom am farwolaeth Mair Davies, Coedlas, Y Parc. Bu’n aelod ffyddlon tra roedd ei hiechyd yn caniatáu ac roedd wrth ei bodd yn clywed hynt a helynt bobl Bethania. Cydymdeimlwn â’i theulu oll.

Cymanfa Ganu – Nos Sul, Mehefin 14 am 6.00 yng Nghapel  Tabernacl. Arweinydd y gân fydd Nia Jones, Gellifor a cheir eitemau gan gôr Lleisiau Menlli.

Atgofion am Gapel y Fron, Dinbych

Mae Capel y Fron yn gapel sydd yn agos iawn at fy nghalon. Fy atgof cyntaf ydi o Mirain, merch y Parch. Eifion Jones, yn gafael a nhywys i’r sedd fawr i ddweud fy adnod. Roeddwn i’n gwrthod mynd ar fy mhen fy hun ond yn cael hyder o afael llaw Mirain. ‘Da ni’n gwybod rŵan pam bod Cadi mor gyndyn o fentro i’r set fawr ym Methania!

Yn ystod fy mhlentyndod ac arddegau roedd Y Fron yn gapel cymdeithasol iawn. Un o uchafbwyntiau’r calendr oedd Eisteddfod y Tai. Rhannwyd yr aelodau yn ddau dŷ gyda chystadlu brwd rhwng Tŷ Castell a Thŷ Clwyd. I ni’r plant, roedd gweld aelodau parchusaf y capel yn perfformio sgetsh mewn wigs a gwisg ffansi yn agoriad llygad. Roedd y festri dan ei sang a’r hwyl yn para tan yr oriau mân.

I mi, yr arwydd cyntaf fod yr Haf ar y gorwel oedd mynd efo Mam i brynu ffrog newydd a sandalau bach gwyn ar gyfer yr Ŵyl Ysgol Sul, a gynhaliwyd yn flynyddol yng Nghapel Mawr, Dinbych. Fy hoff gystadleuaeth yn ddi-os oedd y ‘Parti Pop’ sef geiriau o’r Detholiad wedi eu gosod ar alaw bop. Roeddem yn lwcus iawn bod dwy o aelodau’r capel –  Leah Owen a Nia Wyn – yn meddu ar y ddawn o gyfansoddi caneuon gwych a chofiadwy ac roeddem wrth ein boddau yn eu perfformio.

Fe briododd Deian a fi yn y Fron ac mae Elain a Cadi ill dwy wedi eu bedyddio yno. Mae’r adeilad wedi newid gryn dipyn ers hynny. Mae’r meinciau pren a’r set fawr wedi hen fynd ac yn eu lle carped newydd ffres a chadeiriau cyfforddus. Braf yw gweld yr adeilad yn agored i’r gymdeithas gyfan ac mae yna nifer o weithgareddau megis ymarferion corau, Merched y Wawr a hyd yn oed gemau bowlio yn digwydd yno.

Ni allaf orffen heb gofio am John Glyn Jones fu farw mor sydyn fis Mai. Roedd John Glyn yn flaenor yno ers dros ddeng mlynedd ar hugain ac mae’n chwith iawn meddwl na fydd ei lais pwyllog i’w glywed eto yn darllen y cyhoeddiadau ar y Sul gyda’i ffraethineb unigryw. Do, mae’r aelodau wedi colli blaenor, ac maen nhw hefyd wedi colli cyfaill annwyl. Mae’n golled aruthrol ond yn sicr mi fydd ei waith tawel a diflino yn gadael ei ddylanwad ar Gapel y Fron am flynyddoedd i ddod.

      Llinos Gerallt

Diolch Llinos am yr hanesion diddorol yma. Cawn ddarllen atgofion Catrin Hughes-Owen mis nesaf. Diolch Catrin am gytuno i wneud.

Pererindod Bethania

2015

Dydd Sul Gorffennaf 5ed

Byddwn yn gadael wedi’r Oedfa tua 11 a dyma’r drefn am y dydd

  • 12:00 Picnic yn Y Bala (dewch a’ch pecyn eich hun!)
  • 1:00 : Ymweld a Byd Mari Jones (digon i wneud i blant ag oedolion; gan gynnwys parc a chaffi)
  • 3:00 : Ymweld a’r Hen Gapel yn Llanuwchllyn (sydd a chysylltiadau a Phatagonia). Cawn sgwrs gan Y Parch Carwyn Siddall ag ein tywys ganddo o gwmpas mannau diddorol Llanuwchllyn
  • 5:30 : Swper yn Nhafarn Eryrod.

Pris bws £10 oedolion, am ddim i blant/pobl ifanc

Pris Byd Mari Jones £3 oedolion, £2.50 i blant/pobl ifanc

Os am ymuno a’r hwyl!!!….

A fuasech mor garedig â rhoi eich enw a dewis bwyd o’r flwydlen isod i Huw a Iona ar 705074.  Bwydlen y plant ar gael ar wefan Tafarn yr Eryrod www.yr-eagles.co.uk.

Diolch

Huw a Iona

 

Bwydlen Tafarn yr Eryrod, Llanuwchllyn

Stec gamwn gyda wy neu pinafal

Gammon steak with egg or pineapple

~~~~~~~

Cyw Iâr gyda saws madarch a gwin gwyn

Chicken with mushroom and white wine Sauce

~~~~~~

Ffiled lledan ffres wedi’i grilio

Grilled fresh fillet of plaice

~~~~~~~

Cinio rhost cig eidion neu oen cartref traddodiadol a llysiau

Traditional roast home bred beef or lamb dinner and vegetable

~~~~~~

Sglodion tatws neu llysiau y tymor

Chips or seasonal vegetables

~~~~~~

Salad ham

Ham salad

~~~~

Crymbl ffrwythau cartref gyda cwstard

Homemade fruit crumble served with custard

~~~~~~

Paflofa mafon

Raspberry pavlova

~~~~~

Pwdin bara menyn cartref gyda hufen iâ

Homemade bread and butter pudding with ice cream

~~~~~~

Hufen iâ

Ice cream

~~~~~~

Te neu Goffi/Tea or Coffee

£12.50 y Person

Te yn yr Ardd

Cynhelir te prynhawn yn 37 Llwyn Menlli, sef cartref Eilir, Bethan, Sion a Dafydd Edwards ar Fehefin 20 rhwng 2.00-4.00yp. Bydd yr elw at Gapel Bethania ac elusen Cancr y Fron. Croeso cynnes i bawb.

Ysgol Sul

Athrawon Ysgol Sul Diolch o galon i’r rheiny sydd wedi bodloni helpu gyda’r dosbarth uwchradd yn yr Ysgol Sul. Cais newydd sydd gennym erbyn mis Medi am rywun ychwanegol i helpu yn y dosbarth 7 i 11 oed. Os hoffech fod yn rhan o’r tîm sy’n gofalu am y criw bach brwdfrydig yma cysylltwch â Carys (702327).

Apêl

Tybed oes ‘na rai ohonoch yn fodlon cynnig cinio i’n pregethwr ar ambell i Sul er mwyn ysgafnhau’r baich i’r criw bach ffyddlon sy’n darparu cinio ers blynyddoedd? Rhowch wybod i un o’r swyddogion.

Rhodd Cymorth

Mae Bethania wedi derbyn taliad o £4,576.79c gan ‘Cyllid a Thollau EM’ am 2014 drwy’r cynllun Rhodd Cymorth sydd yn help aruthrol at gostau’r Eglwys.

Os ydych yn drethdalwr a heb arwyddo ffurflen rhodd cymorth ar gyfer Bethania ac y dymuno gwneud cysylltwch â Mrs Einir Jones (Ffon 702834) os gwelwch yn dda.

Neges gan aelodau’r Ysgol Sul

Bwriadwn gynnal ein hastudiaethau Beiblaidd ar fore Sul o hyn ymlaen am ryw hanner awr ar ôl oedfa’r bore.

Byddem yn hynod o falch pe bai chwaneg yn ymuno â ni a hoffem gael gwirfoddolwyr i helpu Euryn Tomos fel athro gan fod Tudor Beech yn analluog i fod gyda ni ar hyn o bryd.

Heb eich cefnogaeth ni allwn barhau. Diolch.

 Dathlu 150 mlynedd

Rydym yn bwriadu trefnu penwythnos i ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu’r achos yma ym Methania ac fe hoffem gael lluniau, rhaglenni neu unrhyw atgofion o’r gorffennol er mwyn creu arddangosfa o atgofion.

Os oes gennych unrhyw beth fyddai o ddiddordeb tybed fyddech chi’n fodlon i ni eu benthyg er mwyn eu sganio a’u copïo. Gobeithiwn gael y deunyddiau erbyn diwedd mis Mehefin er mwyn cael amser i’w didoli a’u trefnu felly cysylltwch ag un o’r swyddogion gyda’ch atgofion.

Cyfle i’r Ifanc

Mae Bwrdd yr Eglwys wedi penderfynu rhoi cyfle i’r rhai ifanc gyfeilio yn ystod y casglu ar un Sul y mis a hefyd i’r aelodau sydd newydd eu derbyn helpu wrth y drws a chyda’r casgliad.  Os hoffech gyfeilio ar y piano neu offeryn arall rhowch wybod i Carys Morgan erbyn y mis nesaf.

Mae’r Bont eich angen chi!!

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at Sylw’r Mis dros y blynyddoedd. Mae’r rhestr o bawb sydd wedi cyfrannu ers 2010 ar gael i’r rhai â diddordeb gwybod pwy gyfrannodd a phryd!

Yn anffodus mae’n profi yn fwyfwy anodd i gael aelodau i ysgrifennu ac felly mae peryg y bydd rhaid mynd yn ôl ar ofyn yr un rhai i gyfrannu. Felly … os nad ydych wedi gwneud ac yn dymuno rhoi eich ‘Sylw’ mi fuaswn yn fwy na diolchgar.

Cysylltwch os gwelwch yn dda ar un o’r canlynol:

Cyfrannu at Sylw’r Mis

Gofynnaf yn garedig i chi ystyried cyfrannu at Sylw’r Mis. Mae “gwirfoddolwyr” yn brin a baswn yn ddiolchgar am gymorth. A wnewch ystyried os gwelwch yn dda cyfrannu a chysylltu â mi ar 705074 neu ar yr e-bost isod.

huw.mckee@btinternet.com

Diolch o galon.