Y Bont Mai 2018

 

‘Freefall’

Weithiau, byddwn yn clywed rhywbeth y gwyddom ei fod yn wir, ac eto, mae ei glywed yn rhywfaint o sioc. Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru oedd yn siarad yn Sasiwn y Dwyrain, ac meddai… “It has been said that our Church is on the edge of a cliff, but I must tell you that we have by now fallen over, and are frantically looking for branches to cling to!’’ Gwyddom fod hyn yn wir, ac ofer fyddai i mi bedlera’r apêl arferol am fwy o deyrngarwch a ffyddlondeb i Fethania. Ond saif y ffaith fod crefydd wedi datblygu yn gyfochrog ag esblygiad dyn, i gyfarfod ag angen dwfn ym mhatrwm meddwl dynoliaeth, ac na wyddom yn iawn beth fydd canlyniad ei hepgor. A ydym yn meddwl y gall addysg, diwylliant, gyrfa a llwyddiant lenwi’r bwlch a adawyd? Efallai. Ond beth bynnag am y canlyniadau, mae yn arbrawf eithriadol o beryglus.

 Y Parch Morris Morris

Sylw’r Mis

Cymru fach ar y map!

Llongyfarchiadau i dîm Cymru ar eu llwyddiant ysgubol yng Ngemau’r Gymanwlad!  Fe gododd y ddraig goch 37 gwaith a’r cystadleuwyr  mor falch o gael cynrychioli Cymru.

Rhyfeddwn at agwedd benderfynol ac ymroddiad y cystadleuwyr.   Sut gallent gadw’r ysbryd i fyny gyhyd, a hwythau o dan y fath bwysau?  Roedd yn gysur gwrando ar sgwrs rhwng y Caplan Graham Daniels o’r mudiad ‘Christians in Sport’ a’r cyflwynydd John Roberts ar Radio Cymru.  Roedd yn un o ddwsin o Gaplaniaid oedd allan yn yr Arfordir Aur er mwyn cefnogi’r athletwyr, yr hyfforddwyr a’r swyddogion, o bob ffydd, yn ogystal â’r anffyddwyr.  Ar Sul y Pasg ymunodd 120 gyda nhw  mewn gwasanaeth arbennig.  Ar  adegau  eraill dewisodd rhai  gymryd hanner awr o seibiant o’u sesiwn hyfforddi dwys i ddilyn  astudiaeth Feiblaidd gyda’r Caplaniaid, i’w paratoi’n feddyliol a chorfforol.

Datblygodd Caplaniaeth mewn chwaraeon yn  ystod yr hanner can mlynedd ddiwetha’. Does dim strwythur i’r hyn a wnânt … gall fod  gydag  unigolyn, grwpiau neu dimau . Mae Trefnwyr yr achlysuron mawr yn cydnabod yr angen ar y bobl am gefnogaeth ysbrydol .  Maent yn ifanc ac mor bell o’u cynefin  a’u teuluoedd,  gan deimlo’r pwysau sydd arnynt i lwyddo yn llethol. Nid yw mynychu  capel neu eglwys  yn ymarferol  i rai gan nad ydynt, o bosib’, yn deall yr iaith frodorol. 

Mae’r pwysau roddant arnynt eu hunain mewn gemau o’r fath safon yn aruthrol.   Fe’m syfrdanwyd gan yr hyn ddwedodd un cystadleuydd a enillodd y Fedal Arian am wreslo. Roedd  wedi’i siomi hyd ddagrau  gan na chafodd yr Aur.

“It’s not about winning a silver medal, it’s about losing a gold” meddai. 

Sut gallai Caplan gyda’r profiad a’r hyfforddiant gorau posib’ liniaru ei boen! Pwysleisiodd  Graham Daniels eu bod yn  ceisio’u cael i feddwl amdanynt eu hunain fel person yn gynta’ a’u rôl yn y Gemau’n ail. Teimlid y pwysau a’r tensiwn  yn union wedi dechrau ennill medalau, a’r gair glywyd gan  amlaf oedd “Pam?”

A’r ateb – “Mae Rhywun wedi dy greu di ac yn dy garu di’n ddiamod”.

Dwedodd y dyfarnwr Nigel Owens wrth gyflwyno  Dechrau Canu Dechrau Canmol y byddai’n aml yn gwrando ar yr emyn ‘Mor fawr wyt Ti’ cyn camu allan ar y cae, gan deimlo y gallai ymlacio a chanolbwyntio’n llawer gwell wedyn.

Onid ydy’n braf gallu teimlo’r ffydd sy’n ein helpu ym mhob agwedd o’n bywydau?

Mae Duw yn llond pob lle,

Presennol ym mhob man …

a diolch am hynny!

 Eirian Lloyd

Newyddion a Chyfarchion

Cydymdeimlo – Rydym fel eglwys yn cydymdeimlo’n ddwys â Rhian a Gwynn V Jones a’r teulu, Rhian wedi colli ei mam yn ddiweddar. Yn yr un modd rydym yn cydymdeimlo â Meilir a Carol Edwards a’r teulu wedi i Meilir golli ei dad. Mae Iwan Vaughan Evans yntau wedi colli nai. Cofion annwyl atoch fel tri theulu yn eich hiraeth.

Croeso ’nôl – Rydym yn falch iawn o weld Morfydd Pierce wedi gwella ar ôl ei chodwm ac yn ôl yn ein plith. Braf cael eich cwmni eto Mrs Pierce. 

Babi newydd – Llongyfarchiadau calonnog i Ffion a Martin ar enedigaeth Efa Melangell, chwaer fach i Arawn ac wyres fach i Stephen a Rhian.

Ysbyty – Rydym yn deall bod Nesta Lloyd wedi cael llawdriniaeth ar ei llygad ac yn falch ei bod hi’n gwella.  Mae Marjorie Roberts wedi treulio cyfnod yn Ysbyty Glan Clwyd ac rydym yn falch iawn ei bod hi adre ac yn gwella erbyn hyn.

Llongyfarchiadau i’r plant a’r ieuenctid ar eu llwyddiant yn eisteddfodau’r Cylch a’r Sir a phob lwc i’r rhai sy’n mynd ymlaen i’r Genedlaethol yn Llanelwedd.

Pob lwc i’r bobl ifanc fydd yn sefyll arholiadau yn yr wythnosau nesaf.

Capel y Ffin

 Fel y mae’r enw’n awgrymu, capel sy’n sefyll ar y ffin yw’r capel bach hwn, sef y ffin rhwng Cymru a Lloegr, yn nyffryn hardd Afon Honddu, ychydig i’r gogledd o Aberhonddu. Buon ni yno pan oedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn un o gymoedd y De rai blynyddoedd yn ôl ac roedd yr ymweliad yn un bythgofiadwy i mi.

Eglwys y Santes Fair yw’r enw swyddogol ar y capel bach, ond Capel y Ffin ydy’r enw ar lafar, ac mae’n well gen i’r enw hwnnw a dweud y gwir. Cafodd ei godi ym 1762, gan ddisodli adeilad a oedd wedi’i godi yno’n wreiddiol rywbryd yn ystod y 15fed ganrif. Mae’n adeilad bach iawn – dim ond 26 troedfedd o hyd ac 13 troedfedd o led y tu mewn – maint ystafell fyw rhai tai heddiw! Mae’n siŵr mai dyma un o eglwysi lleia Cymru. Saif dwy garreg fedd yn y fynwent sydd wedi’u cerfio gan y cerflunydd byd enwog, Eric Gill (a fu’n byw yn yr ardal am ran helaeth o’i fywyd).

Roedd hi’n brynhawn Sul heulog, braf ar ddechrau Awst pan aethon ni am dro ar hyd y dyffryn a stopio’r car o flaen Capel y Ffin. Eisteddodd gweddill y teulu yn y car gan ein bod ni wedi gweld sawl peth eisoes y bore  hwnnw! Wrth gamu allan o’r car, y peth cyntaf a’m trawodd oedd gwres yr haul, yna’r llonyddwch a’r distawrwydd llwyr. Cerddais tuag at giât y fynwent fach gan fwynhau’r olygfa a rhyfeddu at gapel a oedd yn edrych yn debycach i fwthyn ond bod clochdy bychan twt ar gornel y to. Yn sydyn, dyma fi’n clywed hen ddyn yn canu emyn Cymraeg – “Gwaed dy groes sy’n codi fyny…” ar y dôn Bryn Calfaria. Roedd hi’n amlwg o ansawdd y llais mai hen ŵr oedd o, ond doedd dim modd ei weld o o’r man lle safwn i – roedd o’n swnio’n bell, ac eto roedd o’n agos rywsut. Er craffu’n fanwl ac edrych y tu hwnt i’r fynwent i’r cae cyfagos, doedd dim byd i’w weld ond ambell ddafad yn pori’n hamddenol yng ngwres yr haul. Doedd neb yno.

Cerddais at ddrws y capel bach a’i agor. Roedd rhai seddau yno – digon ar gyfer dyrnaid o bobl, allor fach yn y pen pella a harmoniwm bach ger y pulpud. Ond roedd y lle’n wag, yn hollol wag, a doedd dim sôn o gwbl am yr hen ŵr…  Mae’r gerdd isod yn croniclo’r profiad ond mae diwedd y stori’n rhyfeddach fyth:

Yn y dwys ddistawrwydd

ym mynwent Capel y Ffin

am un o’r gloch

mi glywaf lais

rhyw henwr mwyn

yn canu

‘Gwaed dy groes sy’n codi fyny…’

 

Clustfeinio,

a’i glywed yn canu rhywle

yn y pellter agos

y tu hwnt i derfynau’r

fynwent,

rhywle,

uwchlaw, gerllaw

y cerrig beddau cyfagos

yn unigeddau Capel y Ffin.

 

 

Ymlwybro

tuag at y capel

a phwyso

clicied yr hen ddrws trwm

a chael y capel

yn wag.

 

Yn y dwys ddistawrwydd hwn

y mae Duw,

ac yn yr aros

y mae’r addoli.

 

Ond daeth ias y noson honno

wrth glywed nodau’r dôn gyfarwydd yn atseinio o’r sgrin,

gan ddwyn i gof

yr henwr mwyn yn canu

yn y pellter agos

yng Nghapel y Ffin.

 

Ie, profiad ‘gwahanol’ oedd profiad y diwrnod hwnnw, ond aeth ias i lawr fy nghefn a chododd gwallt fy mhen pan glywais yr emyn yn cael ei ganu yng nghymanfa ganu’r Eisteddfod y noson honno.

Hedd ap Emlyn

Cyfrannu at ein cylchlythyr

Gofynnaf yn garedig i chi ystyried cyfrannu at eitemau i’r Bont.  Mae ‘gwirfoddolwyr’ yn brin iawn ac yr run rhai yn cyfrannu yn gyson chware teg iddynt.

Mi fuaswn yn ddiolchgar iawn os y gwnewch ystyried os gwelwch yn dda cyfrannu a chysylltu â mi ar 705074 neu ar yr e-bost isod.

huw.mckee@btinternet.com

Diolch o galon.

Rhodd Cymorth

Mae Bethania wedi derbyn taliad o £4,576.79c gan ‘Cyllid a Thollau EM’ am 2014 drwy’r cynllun Rhodd Cymorth sydd yn help aruthrol at gostau’r Eglwys.

Os ydych yn drethdalwr a heb arwyddo ffurflen rhodd cymorth ar gyfer Bethania ac y dymuno gwneud cysylltwch â Mrs Einir Jones (Ffon 702834) os gwelwch yn dda.

Mae’r Bont eich angen chi!!

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at Sylw’r Mis dros y blynyddoedd. Mae’r rhestr o bawb sydd wedi cyfrannu ers 2010 ar gael i’r rhai â diddordeb gwybod pwy gyfrannodd a phryd!

Yn anffodus mae’n profi yn fwyfwy anodd i gael aelodau i ysgrifennu ac felly mae peryg y bydd rhaid mynd yn ôl ar ofyn yr un rhai i gyfrannu. Felly … os nad ydych wedi gwneud ac yn dymuno rhoi eich ‘Sylw’ mi fuaswn yn fwy na diolchgar.

Cysylltwch os gwelwch yn dda ar un o’r canlynol: