Y Bont Mawrth 2018

Rhai o eiriau Emyr Llew wrth ddadorchuddio cofeb Waldo, ar Fai 20 1978….

“Nid oes yng Nghymru, brinder pobl ddoeth a deallus, ond gwaetha’r modd, rydym ni yn byw mewn oes sy’n credu mai’r rheswm a’r deall yw’r allwedd i wybodaeth. Yn ein hysgolion, fe wthir pob math o ffeithiau i bennau’r plant, ac y mae gwybodusion Cymru heddiw mae’n ymddangos, yn deall ac yn gwybod y cwbwl.

Ond ni wyddant wedyn, ddim ond ffeithiau, a does dim ystyr na doethineb mewn ffeithiau moel. 

Mae meddyliau gorau’r oesoedd fel Hegel a Kant wedi rhewi yn nhywyllwch oer haniaethol y labyrinth, ac nid yw eu hymresymiadau doethaf, ond bregliach diystyr babanod. 

Does dim ffordd allan o labyrinth y rheswm. 

Sut felly, y medrwn wybod unrhyw beth?

Yr unig ffordd i dreiddio drwy’r tywyllwch sy’n cylchynu ac yn ffinio ein byd a’n bod, yr unig ffordd i wybod yr anwybod, yw trwy’r galon.

A chyn y gall y galon resymu yn iawn, rhaid i’r galon gael ei thiwnio gan fywyd….”

 Y Parch Morris Morris

Sylw’r Mis

Nid wy’n gofyn bywyd moethus

Mor briodol oedd y sgwrs gefais efo Mrs Beti Watson ar ôl gwasanaeth olaf mis Ionawr yma ym Methania, drwy ystyried ein bod yng nghanol twrnament rygbi Y Chwe’ Gwlad.

“Ti’n gwbod am Wyrosydd yndwyt?” oedd ei chwestiwn.  Wel roedd rhaid cyfaddef ac ymateb nad oeddwn.  Roedd Mrs Watson ambell gam o fy mlaen (fel arfer!) ac mi ges ddarn o bapur a chrynodeb o hanes Gwyrosydd i fynd adre â mi … a dyma ddechrau bach o ymchwil.

Bardd Cymraeg nodweddiadol ei gyfnod oedd Daniel James (23 Ionawr 1847 – 11 Mawrth 1920) a gyhoeddai dan ei enw barddol ‘Gwyrosydd’. Mae ei gerdd sy’n dechrau â’r geiriau “Nid wy’n gofyn bywyd moethus” (a gyhoeddwyd yn 1892) yn gyfarwydd i ni gyd erbyn hyn fel geiriau’r emyn-dôn ‘Calon Lân’.

Brodor o bentref Treboeth, Abertawe oedd Gwyrosydd. Bu’n gweithio fel torrwr beddau yn Aberpennar am gyfnod, yng ngwaith haearn Treforys ac mewn pwll glo yn Nowlais. Mae wedi’i gladdu ym mynwent Mynydd Bach, Abertawe.

 

Cyfansoddodd nifer o gerddi poblogaidd a gyhoeddwyd mewn cylchgronau fel darnau adrodd. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o gerddi, sef ‘Caneuon Gwyrosydd’ ac ‘Aeron Awen Gwyrosydd’.

Credir iddo ysgrifennu’r gerdd ‘Calon Lân’ pan yn byw ym Mlaengarw yn 1892 a bu llawer o ganu ar yr emyn enwog yn ystod y diwygiad (1904-5). Yn fwy diweddar agorwyd parc yn Nyffryn Blaengarw gan Huw Edwards er cof am y bardd, ‘Parc Calon Lân’.

Felly, y tro nesaf y byddwch yn morio canu’r emyn ffantasig hon (boed mewn capel neu Stadiwm y Principality!) cofiwch feddwl am Mrs Watson, a diolch iddi am ein hannog i ymchwilio i hanes y beirdd a’r cerddorion lu sydd tu ôl i’n emynau gwych ni.

Os am fwy o fanylion ewch i wefan Bywgraffiadur neu yn uniongyrchol at hanes Daniel James drwy y linc yma. http://yba.llgc.org.uk/cy/c-JAME-DAN-1847.html

‘Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad, Roddi i mi galon lân’

 Cywaith Huw a Mrs Watson

Newyddion a Chyfarchion

Dramâu – Diolch i bawb fu ynghlwm â’r dramâu mewn unrhyw ffordd eto eleni ac yn arbennig i Margaret am ei gwaith trefnus a diflino sy’n golygu llwyddiant i’r Ŵyl unwaith eto. Edrychwn ymlaen at y swper ar Fawrth 3.

Aelod Newydd – Mae Sian Clark wedi bod yn rhan o deulu Bethania ers dros flwyddyn bellach ac wedi ymroi i fywyd y capel, y gymdeithas a’r dramâu. Braf iawn oedd cael ei chroesawu’n aelod yn ystod yr oedfa ar yr 11eg. Croeso Sian!

Colli Aelod – Gyda thristwch y clywsom am farwolaeth Olwena Rogers a fu yng Nghartref Dolwen, Dinbych ers nifer o flynyddoedd. Mae’n cydymdeimlad â’i theulu oll yn eu colled.

Gwella – Rydym yn falch iawn bod Glenda Morris ac Elan Meirion yn gwella wedi cyfnod o salwch. Cymrwch ofal eich dwy.

Croeso Adref i Elan Iâl wedi iddi fod yn teithio’r byd am bedwar mis gydag Anna, Rhydwrial. Edrych ymlaen i glywed yr hanesion, Elan.

Ysgol Sul

Byddwn yn ceisio llunio cywaith ar gyfer Gwaith Cwrs yr Ysgol Sul yn ystod mis Mawrth ar y thema Caru ein Cymydog. Byddai’n braf cael cymaint â phosib o’r plant i gyfrannu i’r gwaith felly dewch i greu campwaith!

Gair o Ddiolch gan Margaret

Diolch o galon i bawb a fu’n gysylltiedig ac yn cefnogi’r Ŵyl Ddramâu ymhob ffordd i helpu tuag at ei llwyddiant.

Mae noson Swper y Dramâu eto eleni yn noson gymdeithasol, ar y cyd rhwng yr Ŵyl Ddramâu a’r Gymdeithas, gyda chroeso cynnes iawn i bawb o bob oed – does dim rhaid ichi fod yn actor neu actores i gael dod i’r swper! Bydd y delynores Angharad Huw yn ein diddanu ar y noson – yn Festri Bethania, Nos Sadwrn, Mawrth 3, 2018 – bwyta am 7 o’r gloch.

Gofynnwn i bawb ddod â chyfraniad o fwyd at y noson, felly gofynnwn i bawb roi ei enw/henw ar y rhestrau yn y festri i ddweud eu bod yn dod i’r swper ac i ddweud pa fwyd maent yn cyfrannu at y noson.

Gyda llawer iawn o ddiolch i bawb gan Margaret (705604 / 07876 291839).

Gair o ddiolch yn ôl!

Rhaid nodi ein diolch fel Eglwys i Margaret am ei gwaith diflino eto eleni yn sicrhau llwyddiant yr ŵyl ddramâu. Mae Margaret wedi arwain y trefniadau ar ein rhan ers llawer blwyddyn erbyn hyn. Mae ei hymroddiad yn unigryw ac rydym oll mor lwcus o’i gwaith anhygoel a diflino.

Diolch o waelod calon Margaret.

Diolch i’r Ieuenctid

Diolch i Gwion Glyn am gytuno i roi datganiad cerddorol i ni adeg y casgliad yn yr Oedfa ar Fawrth 25.

Diolch hefyd i’r ieuenctid oedran uwchradd am eu perfformiadau graenus yng Ngŵyl Ddramâu Bethania eleni. Rydym fel eglwys yn gwerthfawrogi eich cyfraniad a’ch hymroddiad i’r ŵyl hon eto eleni. Gwelwch luniau o’r rhai talentog yn y Bont hwn ac ar y wefan. Bydd lluniau o ddramâu’r oedolion i’w gweld mis nesaf yn Y Bont.

Diolch hefyd i Iwan Vaughan Evans ac i Eilir Lloyd Edwards am eu gwaith diflino yn cynhyrchu’r ddwy ddramodig, ac wrth gwrs diolch enfawr eto eleni i Eirlys Tomos am ysgrifennu’r ddrwy ddramodig. Braf oedd profi’r hwyl a’r chwerthin yn ystod yr ŵyl a gweld ffrwyth llafur diflio pawb.

Coes Glec Ifan

Traed Moch yn y Caffi

Clwb Cant Bethania

Penblwydd Hapus Mr Pritchard

Llongyfarchiadau i William Pritchard ar ei benblwydd yn gant oed yn ddiweddar. Bu dathlu’r penblwydd arbennig efo’i deulu a braf oedd ei weld yma ym Methania yn derbyn rhodd gan ein Gweinidog. Rhoddwyd ddwy englyn wedi eu hysgrifennu gan y Parch John Owen i Mr Pritchard i nodi’r achlysur arbennig hwn.

Englynion John Owen

William John Pritchard yn Gant Oed

 

Gŵr y ganrif yw’n cyfrifydd – heddiw

a haedda ein clodydd;

un da sy’n goleuo’n dydd

a’n huno mewn llawenydd.

 

Ei gorlan yw Bethania, – â’i llwyfan

yn llafar i’w ddrama;

un â chefn sy’n iachus chwa

i hyder cydaeloda’.

Y Parch John Owen

Mr Pritchard

 

Penblwydd Hapus i Mrs Watson

Llongyfarchiadau hefyd i Mrs Beti Watson sydd wedi bod yn y Clwb Cant ers tair blynedd bellach. Roedd Mrs Watson yn 103 mis Chwefror yma ac fe wnaeth nifer ohonom glywed y cyfarchion iddi ar raglen Aled Huws ar Radio Cymru. Roedd Aled yn clodfori Mrs Watson am ei defnydd o dechnoleg Whatsapp a Skype, ac yn ei chanmol am fod mwy “with it” na nifer ohonom sydd ddegawdau yn iau!

Penblwydd hapus Mrs Watson a daliwch ati â’r doniau digidol!

Mrs Watson

Cyfrannu at ein cylchlythyr

Gofynnaf yn garedig i chi ystyried cyfrannu at eitemau i’r Bont.  Mae ‘gwirfoddolwyr’ yn brin iawn ac yr run rhai yn cyfrannu yn gyson chware teg iddynt.

Mi fuaswn yn ddiolchgar iawn os y gwnewch ystyried os gwelwch yn dda cyfrannu a chysylltu â mi ar 705074 neu ar yr e-bost isod.

huw.mckee@btinternet.com

Diolch o galon.

Rhodd Cymorth

Mae Bethania wedi derbyn taliad o £4,576.79c gan ‘Cyllid a Thollau EM’ am 2014 drwy’r cynllun Rhodd Cymorth sydd yn help aruthrol at gostau’r Eglwys.

Os ydych yn drethdalwr a heb arwyddo ffurflen rhodd cymorth ar gyfer Bethania ac y dymuno gwneud cysylltwch â Mrs Einir Jones (Ffon 702834) os gwelwch yn dda.

 

Mae’r Bont eich angen chi!!

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at Sylw’r Mis dros y blynyddoedd. Mae’r rhestr o bawb sydd wedi cyfrannu ers 2010 ar gael i’r rhai â diddordeb gwybod pwy gyfrannodd a phryd!

Yn anffodus mae’n profi yn fwyfwy anodd i gael aelodau i ysgrifennu ac felly mae peryg y bydd rhaid mynd yn ôl ar ofyn yr un rhai i gyfrannu. Felly … os nad ydych wedi gwneud ac yn dymuno rhoi eich ‘Sylw’ mi fuaswn yn fwy na diolchgar.

Cysylltwch os gwelwch yn dda ar un o’r canlynol: