Y Bont Medi 2017

‘Friends Reunited’

Aeth y wefan honno bellach yn angof, ond am gyfnod, roedd yn gyfrwng i gysylltu â hen ffrindiau ac adfer hen berthynas. Wrth gychwyn tymor newydd ym mywyd Bethania, tybed na fyddai ‘Friends Reunited’ yn thema ardderchog ar gyfer y flwyddyn. Yr wyf wedi bod yn Nyffryn Clwyd bellach ers dros un mlynedd ar hugain, a dwi’n sylwi fod llawer o hen ffrindiau wedi eu colli o’r cyfarfod ar fore Sul….ffrindiau da a ffyddlon, a ffrindiau yr ydym oll yn dlotach hebddynt.

Gwn fod llu o resymau i’w cadw draw, ond beth am drefnu gweithgareddau’r flwyddyn hon yn benodol er mwyn pwysleisio mai cymuned o ffrindiau yn bennaf oll yw Bethania, ac na fyddwn yn fodlon nes ennill ein hen ffrindiau yn ôl. Nid achub Capel na chynnal diwylliant, ond creu cymuned lle mae pawb yn cael croeso, a lle byddwn yno i gynnal a chefnogi ein gilydd. Dyna fyddai yn gwneud Bethania yn ddeniadol, cymuned lle mae perthyn yn seiliedig ar bresenoldeb, a phresenoldeb yn gynsail perthynas.

Edrych ymlaen am eich cwmni,

Y Parch Morris Morris

Sylw’r Mis

 “Help is coming”

Wrth orffen fy siopa mewn archfarchnad leol yn ddiweddar roeddwn wrthi’n sganio a thalu wrth y system ‘self service’. System effeithiol iawn i rai, ond system yn achosi cur pen go arw i rai eraill mae’n amlwg.

Wrth i mi sganio’n llwyddiannus roeddwn yn ymwybodol o’r truan tu ôl i mi. Roedd mewn trafferthion enbyd, y golau traffig uwch y peiriant yn fflachio’n goch a llais robotaidd uchel yn datgan “Help is coming”.

Wedi dwsin o gam sganio a’r bloeddio robotaidd diddiwedd, rhaid oedd troi i weld pwy oedd. Wel dyna sioc! Un o barchus weinidogion yr ardal!! Bydd pawb sy’n darllen Y Bont yn ei adnabod ond nai ddim ei enwi rhag embaras! Roedd druan methu’n llwyr â’r broses (neu’r dechnoleg).

“Deunydd pregeth” medde fi wrtho! “Help is coming”!!

Deunydd rwyf am ddwyn i fy ‘Sylw’ y mis hwn. Sylw bod angen cymorth ar bawb ar adegau ond debyg heb y fflachio a’r gri amlwg a didrugaredd mewn archfarchnad.

Does dim golau coch yn fflachio ar gorun ein pen siŵr iawn i amlygu ein hangen. Hefyd dim llais robotaidd yn galw ‘nôl mewn ymdrech i gysuro efo “Help is coming”.

Ein camp fel Cristion yw sylwi, gwrando, clywed a bod yno yn gymorth i’n gilydd. Pobol ydym a dim technoleg.

Trist fase meddwl bod unigolion yn ein cymdeithas mewn gwir angen cymorth ond yn aros yn ofer. Gwnewch eich rhan i’w sicrhau for cymorth ar gael. “Help is coming”.

Huw McKee

Newyddion a Chyfarchion

Brysiwch Wella – Rydym yn falch iawn o glywed bod Glain Platt adref o’r ysbyty ac yn gwella’n araf bach. Hefyd anfonwn ein cofion at Dilys Edwards sy’n derbyn triniaeth. Cymrwch ofal eich dwy.

Llongyfarchiadau i Llyr Morris a Guto Jones y ddau wedi graddio o Brifysgol Aberystwyth dros yr haf. Dymuniadau gorau i chi’ch dau, Llyr ar gwrs TAR ym Mangor a Guto yn ei swydd yn Ysgol Tremeirchion.

Gwobr Arbennig – Llongyfarchiadau i Brian Roberts, Bro Deg, ar dderbyn medal yn y Sioe Frenhinol am wasanaeth hir i fyd amaeth. Da iawn wir Brian.

Teidiau a Neiniau – Daeth Eifion a Moira yn daid a nain dros yr haf i Haf Derwen, merch fach Carwyn a Becky, ac Elwyn a Mona hwythau’n daid a nain i Noah Gruffydd, bachgen bach Huw a Kathryn. Llongyfarchiadau i’r ddau deulu bach.

Priodas – Llongyfarchiadau i Sian Clwyd ar ei phriodas â Carwyn ar Orffennaf 22 a dymuniadau gorau i’r ddau ohonynt am ddyfodol hir a dedwydd.

Eisteddfod Môn – Llongyfarchiadau calonnog i bawb gymrodd ran yn yr Eisteddfod yn feirniaid, hyfforddwyr, cyfeilyddion a chystadleuwyr. Rydym yn falch iawn o’ch llwyddiannau.

Arholiadau – Llongyfarchiadau i Gruff McKee, Dafydd Cale, Elin Roberts ac Elan Meirion ar eu llwyddiant yn eu harholiadau Safon Uwch a phob dymuniad da i chi’ch pedwar yn eich colegau – Gruff ac Elan yng Nghaerdydd, Elin ym Mangor a Dafydd ym Manceinion. Llongyfarchiadau hefyd i Erin Meirion ar ei llwyddiant yn ei harholiadau TGAU.

Eglwys y Galon Gysegredig

gan Hedd ap Emlyn

Yr haf y llynedd, aethon ni fel teulu i weld eglwys anghyffredin iawn. Wrth i chi yrru ar hyd ffordd gul, croesi’r bont ac yna i fyny’r allt am ryw ganllath, fe ddewch chi i Henllan; na, nid Henllan ger Dinbych, ond Henllan ger Castell Newydd Emlyn, de Ceredigion. Mae’n ardal goediog hardd yn Nyffryn Teifi. Yno, mae gweddillion gwersyll carcharorion rhyfel o’r enw Gwersyll 70. Ar un adeg, roedd ysbyty yno, theatr, cae pêl-droed, cwrt tennis, lawnt fowlio, ceginau, ystafelloedd molchi a thua 30 o gabanau ‘Nissen’(a ddyfeisiwyd gan Major Peter Norman Nissen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf) ar gyfer y carcharorion. Ym mis Mai, 1943, cyrhaeddodd tua 1200 o Eidalwyr y gwersyll o faes y gad yn Tiwnisia a Libya.

Arferai’r carcharorion fynd i weithio ar ffermydd yr ardal ac roedd perthynas dda rhyngddyn nhw a’r Cymry lleol, ond yn naturiol ddigon, roedden nhw’n hiraethu am eu teuluoedd ac am eu bröydd eu hunain. Roedden nhw’n hiraethu hefyd am gael addoli (ble mae’r awch hwnnw heddiw, tybed?). Roedden nhw’n Gatholigion, wrth gwrs, ond doedd ddim eglwys yn y gwersyll. Felly dyma ofyn a fyddai modd cael un. Rhoddodd swyddogion y gwersyll ganiatâd iddyn nhw gael un o’r cabanau Nissen i’w ddefnyddio fel lle o addoliad ond doedd dim unrhyw adnoddau ar gael i’w droi’n eglwys.

Aeth yr Eidalwyr ati i droi’r caban yn eglwys drwy ddefnyddio tuniau coco, jam a ‘bully beef’, bocsys pren, sachau papur gwag (a arferai ddal sment) a hen bapurau newydd. Adeiladwyd prif allor a dwy allor fach y naill ochr iddi. Defnyddiwyd tuniau ‘bully beef’ er mwyn gwneud croesau a chanwyllbrennau i’w rhoi ar yr allorau. Cafodd hoelion rhydlyd eu hailgylchu a chafodd tuniau eu rholio a’u gwneud i edrych fel sgroliau ar ben colofnau. Defnyddiwyd blawd a dŵr i ludo’r sachau papur a’r papur newydd ar y waliau a’u paentio fel eu bod yn edrych fel marmor. Dringodd un carcharor wal plasty gerllaw er mwyn ‘benthyg’ y gloch i’w rhoi ar do’r caban.

Yn goron ar y cyfan, paentiwyd llun o’r Swper Olaf ar y nenfwd crwn a grëwyd uwchben y brif allor. Mae hwn yn gampwaith gan filwr ifanc 21 oed o’r enw Mario Ferlito o Ornavasso ger Llyn Magiore yng Ngogledd yr Eidal (bu farw yn 2008). Doedd ganddo ddim paent. Yn hytrach, gwnaeth ei baent ei hun drwy ddefnyddio aeron o’r gwrychoedd, tabledi lliwio brethyn o felin wlân leol, dail te, croen nionod a moron a’u cymysgu gyda phast wedi’i wneud o esgyrn pysgod a hylif piclo. Mae’r llun ei hun yn gampwaith, yn enwedig o ystyried natur y deunyddiau crai, ac mae’r lliwiau’n edrych yr un mor llachar heddiw ag oedden nhw ym 1943.

O’r holl adeiladau a chabanau a oedd yng Ngwersyll Carcharorion Henllan, dim ond yr eglwys sydd ar ôl heddiw. Mae perchennog y safle wedi codi sied anferth newydd drosti er mwyn ei gwarchod rhag y tywydd ond mae’n haeddu cael ei throsglwyddo i Sain Ffagan er mwyn ei gwarchod i’r dyfodol – hon yw’r unig eglwys o’i bath yng Nghymru (ac mae’n un o ddim ond dwy drwy Brydain gyfan – mae’r llall ar Ynys Orkney ym mhellafoedd yr Alban). Saif Eglwys y Galon Gysegredig heddiw yn dyst i frwdfrydedd, dyhead, dawn, creadigrwydd a ffydd milwyr cyffredin a fynnai addoli Duw pa le bynnag yr oedden nhw.

 

Hedd ap Emlyn

Diolch Hedd am yr erthygl hynod a hyfryd yma.

 

Cyngerdd Bwrlwm Bethania

Yng Nghapel Bethania Nos Sul, Medi 10 am 6.00 y.h.

Eitemau gan: Robat Arwyn, Eilir Edwards, Côr Bechgyn Cytgan Clwyd, Elan ac Erin Meirion a’r ieuenctid

£6 i oedolion/ £3 i blant

Apêl Corwynt Cariad Cymorth Cristnogol, Ynysoedd y Philippines

 

Cyfrannu at ein cylchlythyr

Gofynnaf yn garedig i chi ystyried cyfrannu at eitemau i’r Bont.  Mae ‘gwirfoddolwyr’ yn brin iawn ac yr run rhai yn cyfrannu yn gyson chware teg iddynt.

Mi fuaswn yn ddiolchgar iawn os y gwnewch ystyried os gwelwch yn dda cyfrannu a chysylltu â mi ar 705074 neu ar yr e-bost isod.

huw.mckee@btinternet.com

Diolch o galon.

Rhodd Cymorth

Mae Bethania wedi derbyn taliad o £4,576.79c gan ‘Cyllid a Thollau EM’ am 2014 drwy’r cynllun Rhodd Cymorth sydd yn help aruthrol at gostau’r Eglwys.

Os ydych yn drethdalwr a heb arwyddo ffurflen rhodd cymorth ar gyfer Bethania ac y dymuno gwneud cysylltwch â Mrs Einir Jones (Ffon 702834) os gwelwch yn dda.

Cyfle i’r Ifanc

Mae Bwrdd yr Eglwys wedi penderfynu rhoi cyfle i’r rhai ifanc gyfeilio yn ystod y casglu ar un Sul y mis a hefyd i’r aelodau sydd newydd eu derbyn helpu wrth y drws a chyda’r casgliad.  Os hoffech gyfeilio ar y piano neu offeryn arall rhowch wybod i Carys Morgan erbyn y mis nesaf.

Mae’r Bont eich angen chi!!

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at Sylw’r Mis dros y blynyddoedd. Mae’r rhestr o bawb sydd wedi cyfrannu ers 2010 ar gael i’r rhai â diddordeb gwybod pwy gyfrannodd a phryd!

Yn anffodus mae’n profi yn fwyfwy anodd i gael aelodau i ysgrifennu ac felly mae peryg y bydd rhaid mynd yn ôl ar ofyn yr un rhai i gyfrannu. Felly … os nad ydych wedi gwneud ac yn dymuno rhoi eich ‘Sylw’ mi fuaswn yn fwy na diolchgar.

Cysylltwch os gwelwch yn dda ar un o’r canlynol: