Y Bont Medi 2018

 

‘Newid Tymor’

Bydd pawb yn cytuno ei bod wedi gwneud haf penigamp, a ninnau wedi mwynhau cyfnod maith o dywydd sych a phoeth, dyna, wedi’r cyfan, yw delfryd y mwyafrif. Ond roedd y cyfan yn ormod i eraill, gan greu hiraeth am niwl a rhew a chwymp y dail, a digon siŵr, fe ddaw hwnnw yn ei dro. Mae gennym oll ein hoff dywydd a’n hoff dymor, a phobl mor amrywiol (os nad mor gyfnewidiol) â’r tywydd.

Newid tymor fu hi hefyd yn stori Bethania, wrth i ni glywed y newydd am golli William Pritchard mor fuan wedi i ni ei longyfarch. Yn wir, gorfu iddo gilio i ddiogelwch Ynys Môn yn fuan wedyn, a bellach ni fedrwn ond diolch wrth gofio am ei ffyddlondeb anhygoel dros oes werthfawr yn Rhuthun ac ym Methania. Roedd yn ddyn bonheddig ac urddasol, a bydd bwlch mawr yn stori’r Capel wrth i un arall o blant yr Eglwys groesi’r trothwy mawr.

Newid Tymor yw hi o hyd…

Cofion atoch oll,

 Y Parch Morris Morris

Sylw’r Mis

‘Mewn undod mae nerth’

Mae llawer o sôn am faint mwy effeithiol ydy cyflawni gwaith a thasgau pan yn gweithio fel tîm. Gwelwn hyn yn gyson wrth wrando ar y newyddion a/neu ddarllen am lwyddiannau timau chwaraeon neu sefydliadau.

Fel y dywedodd Aristotle:

“The whole is greater than the sum of its parts”

Dyma yn wir oedd ein profiad diweddar yn Farchogion Marchan ar ein taith feics lawr o Ruthun i’r Bae cyn cystadlu yn gôr Meibion Marchan fore Sul Awst 5.

Pwrpas y fenter oedd hel cymaint o bres â phosib i Ward Enfys yn Uned Gancr Glan Clwyd (am fod dau aelod o Feibion Marchan yn cael triniaeth a gofal caredig yno ar hyn o bryd).

Roedd nifer ynghlwm â’r fenter. Hyn yn estyn o fisoedd lawer o baratoi a chynllunio drwyddi draw i’r holl waith gan bob aelod o’r côr yn hel pres at achos mor deilwng.

Wel ia, 14 yn gweithio mewn grwpiau bach mewnol ar y daith yn cynnal ei gilydd ar hyd y 175 milltir, codi ysbryd ein gilydd tra’n isel ein hegni ac ysbryd, a hefyd yn chwerthin yn braf ar adegau llai anodd o’r daith.

Ond haen arall amhrisiadwy o’r ‘nionyn’ o dîm oedd y tri yn y fan a oedd yn ein dilyn ar hyd y daith. Y ‘Tri Amigo’ a oedd yn darparu bwyd, diod, diogelwch, anogaeth, heb sôn am yr holl wenu a chwerthin i’n cynnal. Roedd Elis, Hyw a Rob yn rhan annatod a hynod werthfawr i sicrhau llwyddiant ar y daith ond yn fwy pwysig … llwyddiant saff a diogel.

Haen arall y tîm sydd yn wir angen clodfori yw’r holl gôr. Y Meibion Marchan oll. Roedd pob aelod wrthi yn ddygn yn hel pres ers tua mis Mai, pob un a’i ffurflen noddi. Pleser o’r mwyaf yw bod yr hogiau i gyd wedi bod yn rhan enfawr o’r fenter. Falle eu bod wedi blino ar fy erfyn cyson am gymorth, ond wir mae pawb wedi gwneud eu rhan ac mae’r pres yn dal i lifo fewn.

Mae swm o dros £8000 wedi ei godi erbyn hyn sydd bedair gwaith beth oeddem wedi ei osod fel targed. Hyn oll yn brawf i’r pŵer o weithio fel tîm trefnus ac effeithiol.

Diolch i’r holl oedd ynghlwm â’r fenter, nifer yn aelodau yma ym Methania. Diolch i’r teuluoedd a’r ffrindiau lu oedd yno i’n croesawu ar gyrraedd Caerdydd. Roedd yn foment emosiynol i nifer ohonom.

Diolch hefyd i bawb wnaeth gymryd gymaint o ddiddordeb yn ein taith a’n noddi. Rydym mor lwcus ohonoch.

Fel a dywedais … ‘Mewn undod y mae nerth’ … a diolch wir amdanoch.

Huw McKee

Newyddion a Chyfarchion

Colli Aelod – Gyda thristwch y clywsom am farwolaeth W J Pritchard mewn cartref yn Sir Fôn dros yr haf. Bu’n ffyddlon iawn i’r oedfaon Cymun yma ym Methania tra parodd ei iechyd. Cydymdeimlwn â’i deulu a’i gyfeillion.

O’r Ysbyty – Treuliodd Nel Edwards, Y Parc a Nia Davies, Bryn Eryl, gyfnod yn yr ysbyty ac rydym yn falch bod y ddwy yn cryfhau.

Eisteddfod – Llongyfarchiadau i Arwyn ar lwyddiant ysgubol Hwn yw fy Mrawd yn Eisteddfod Caerdydd a hefyd i bawb arall fu’n cystadlu a chymryd rhan mewn unrhyw fodd yn llwyddiant yr Eisteddfod.

Llongyfarchiadau hefyd i Farchogion Marchan ar eu camp hwythau o seiclo’r 175 milltir i’r Eisteddfod yng Nghaerdydd a chodi dros £8,000 i Ward Enfys, Uned Gancr Ysbyty Glan Clwyd.

Llwyddiant ein hieuenctid – Llongyfarchiadau i Dyfan Jones ar ennill ei radd o Brifysgol Lerpwl ac i Beca, Siwan, Rhys a Gwion ar eu canlyniadau Safon Uwch. Yr un yw’n llongyfarchion i Elan, Owain, Sion, Llio, Ben a Steffan ar eu canlyniadau TGAU. Pob dymuniad da i bob un ohonoch wrth ichi barhau â’ch haddysg a’ch gyrfaoedd.

Ysgol Sul – Byddwn yn ailafael yn yr Ysgol Sul ar Fedi 9 a byddai’n braf gweld nifer o blant a phobl ifanc yn yr oedfa hefyd.

Cyngerdd y Gymdeithas

Capel Bethania ar nos Sul, Medi 16 am 7.00yh

Eitemau gan:

Sion Edwards, Angharad Huw, Owain John, Gwenan Mars Lloyd ac Ynyr Rogers

Arweinydd y noson – Iwan Vaughan Evans

Cyfeilwyddes – Beryl Lloyd Roberts

Oedolion – £5 Plant – £3

Pererindod Bethania

 Gorffennaf 1 2018

Parc ar lannau’r Ddyfrdwy yn Llangollen oedd arhosiad cyntaf ein Pererindod eleni ac wedi mwynhau picnic aethom draw i Eglwys Sant Collen ynghanol y dref. Yno roedd aelod o’r eglwys yn aros amdanom a chawsom gyfle i sylwi ar nodweddion hardd tu mewn i’r eglwys , yn arbennig y to pren cerfiedig sy’n dyddio yn ôl i 1450.

Ymlaen â ni wedyn i gyfeiriad Glyn Ceiriog gan aros am ychydig funudau tu allan i giatiau Castell y Waun. Cawsom sgwrs ddifyr gan ein hanesydd Gwilym Evans am deulu’r Myddletons ac am y giatiau a wnaed gan y Brodyr Davies o Bersham, yr un bobl â wnaeth giatiau Eglwys Rhuthun. Soniodd Gwilym hefyd am Frwydr Crogen a ymladdwyd gerllaw’r Waun lle cafodd y Cymry dan arweiniad Owain Gwynedd fuddugoliaeth fawr yn erbyn byddin Harri’r Ail, brenin Lloegr yn y flwyddyn 1165. Mae cofeb wedi ei gosod ar bont rhyw filltir neu ddwy tu allan i’r pentref i nodi’r digwyddiad.

Roeddem yn anelu am Neuadd Goffa Glyn Ceiriog a godwyd er cof am y bardd Ceiriog ac fe’i hagorwyd ym 1911. Yno fe gawsom groeso cynnes iawn gan aelodau Pwyllgor y Neuadd a chyfle i edmygu’r ffenestri lliw arbennig sy’n coffau nifer o enwogion Cymru. Yn eu plith mae Ceiriog, Yr Esgob William Morgan, Syr Thomas Myddleton, Dewi Sant, Ann Griffiths a Chymry nodedig eraill sydd â chysylltiad â’r ardal.

Mae yno amgueddfa wych yn cynnwys creiriau ac arddangosfeydd amrywiol, hynod ddiddorol yn ymestyn o gyfnod Yr Oes Efydd i Feibl William Morgan a gweithiau Islwyn Ffowc Ellis. Roedd paned wedi ei pharatoi ar ein cyfer a chafwyd cyfle i sgwrsio a thrafod a dod i wybod mwy am yr adeilad arbennig hwn. Ewch yno os byddwch yn yr ardal, chewch chi mo’ch siomi.

I orffen y daith aethom ymlaen i bentref Llanarmon rhyw chwe milltir i fyny’r Glyn. Mae yno eglwys fechan hardd ond y nodweddion amlycaf yw Tomen Garmon o’r Oes Efydd a dwy goeden ywen hynafol o fewn y fynwent, un ohonynt dros fil o flynyddoedd oed.

Cafwyd swper ym mwyty Moreton Park yn y Waun cyn dychwelyd adref. Diolch arbennig i’n gyrrwr Harri Hughes am daith hwylus a chyfforddus ac i Gwilym am ein hatgoffa am ein treftadaeth hanesyddol.

Iwan Vaughan Evans

Adnod y Mis:

1 Ioan 4:7-12

Ffrindiau annwyl, gadewch i ni garu’n gilydd, am fod cariad yn dod oddi wrth Dduw. Mae pawb sy’n caru fel hyn wedi’i eni’n blentyn i Dduw ac yn ‘nabod Duw. Os ydy’r cariad hwn ddim gan rywun, dydy’r person hwnnw ddim yn ‘nabod Duw chwaith – am mai cariad ydy Duw.

Dyma sut wnaeth Duw ddangos ei gariad aton ni: anfonodd ei unig Fab i’r byd, er mwyn i ni gael bywyd drwyddo. Dyma beth ydy cariad – dim y ffaith ein bod ni’n caru Duw, ond y ffaith ei fod e wedi’n caru ni ac anfon ei Fab yn aberth oedd yn gwneud iawn am ein pechodau ni.

Ffrindiau annwyl, os ydy Duw wedi’n caru ni gymaint â hyn, dylen ninnau hefyd garu’n gilydd. Does neb erioed wedi gweld Duw, ond os ydyn ni’n caru’n gilydd, mae Duw yn byw ynon ni ac mae ei gariad yn dod yn real yn ein bywydau ni.

Gair o Ddiolch i’r Ieuenctid am Gyfeilio

Diolch i’r ieuenctid i gyd sydd wedi cyfeilio bob mis ers blynyddoedd bellach. Gwerthfawrogwn yn wir eich cyfraniad.

Cyfrannu at ein cylchlythyr

Gofynnaf yn garedig i chi ystyried cyfrannu at eitemau i’r Bont.  Mae ‘gwirfoddolwyr’ yn brin iawn ac yr run rhai yn cyfrannu yn gyson chware teg iddynt.

Mi fuaswn yn ddiolchgar iawn os y gwnewch ystyried os gwelwch yn dda cyfrannu a chysylltu â mi ar 705074 neu ar yr e-bost isod.

huw.mckee@btinternet.com

Diolch o galon.

Rhodd Cymorth

Mae Bethania wedi derbyn taliad o £4,576.79c gan ‘Cyllid a Thollau EM’ am 2014 drwy’r cynllun Rhodd Cymorth sydd yn help aruthrol at gostau’r Eglwys.

Os ydych yn drethdalwr a heb arwyddo ffurflen rhodd cymorth ar gyfer Bethania ac y dymuno gwneud cysylltwch â Mrs Einir Jones (Ffon 702834) os gwelwch yn dda.

Mae’r Bont eich angen chi!!

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at Sylw’r Mis dros y blynyddoedd. Mae’r rhestr o bawb sydd wedi cyfrannu ers 2010 ar gael i’r rhai â diddordeb gwybod pwy gyfrannodd a phryd!

Yn anffodus mae’n profi yn fwyfwy anodd i gael aelodau i ysgrifennu ac felly mae peryg y bydd rhaid mynd yn ôl ar ofyn yr un rhai i gyfrannu. Felly … os nad ydych wedi gwneud ac yn dymuno rhoi eich ‘Sylw’ mi fuaswn yn fwy na diolchgar.

Cysylltwch os gwelwch yn dda ar un o’r canlynol: