Y Bont Mehefin 2018

 

Cymorth ‘Cristnogol’!

Beth am Dduw ei hun … sut un ydyw … sut y mae’n rhyngweithio â’i fyd … ac a yw’n bosibl bellach i gynnal y cysyniad o gwbl o ystyried cyflwr ein byd?

A beth wedyn am ein hymateb ni iddo? Beth bynnag am ein hemynau ardderchog a’n gweddïau duwiol … yr ydym oll yn gyfalafwyr wrth reddf … cyfalafiaeth hunanol yw un o reddfau dyfnaf ein hesblygiad, a dyna pham y mae’r cryf yn trechu a’r gwan yn gwingo.

Mae’r syniad fod dynoliaeth wedi datblygu’n foesol, i’r graddau y gall drechu ei hunanoldeb greddfol, yn ffals … ac y mae ystadegau diweddaraf UNICEF yn profi’r pwynt – 8,000,000 o blant yn marw yn dawel ddi-son amdanynt bob blwyddyn, oherwydd tlodi … Dyna 670,000 bob mis, neu 167,000 bob wythnos, neu 22,000 bob dydd, neu 916 bob awr, neu 1 bob 4 eiliad!

Tybed ai eironi, neu jyst diawledigrwydd sydd yn y llinellau cyfarwydd …

‘cans o’th law y daw bob dydd

ein lluniaeth a’n llawenydd!’

 Y Parch Morris Morris

Sylw’r Mis

Wel dyma ni, mis arall a chyfanwaith gan Huw a Mrs Beti Watson. Hot off the press! Dyma ychydig o gefndir.

Roedd Mrs Watson yn gwrando un nos ar un o’r ‘Audio Books’ sydd ganddi. ‘Audio Books’ yn ddarpariaeth mor werthfawr i’r rhai sydd â’u golwg yn gwaethygu wrth fynd yn hŷn.

Llyfr oedd hwn yr oedd Mrs Waston wrth ei bodd yn gwrando arno’n cael ei ddarllen, sef ‘Rhaffau Gwellt’ gan Elfyn Pritchard. Wrth wrando ar y bennod ‘Lleoedd Cysygredig’ dyma glywed ddarn a wnaeth ei swyno’n arw. Dyna oedd geiriau Mrs Watson … “ei swyno”.

Darn yn sôn am leoliad troedigaeth Williams Williams Pantycelyn. Dyn hynod a gyfrannodd gymaint i ni Gristnogion ac i ni’r Cymry.

Mae’n ddarn arbennig ac werth ei rannu, felly gobeithio y cewch chi eich swyno fel y cafodd Mrs Watson â’r darn o lyfr Elfyn Pritchard sydd i’w weld isod.

Diolch enfawr eto i chi Mrs Watson am eich cyfraniad gwerthawr i’r Bont ar ran pawb ym Methania. Rydym yn wirioneddol lwcus iawn ohonoch yn ein teulu bach yma ym Methania.

 Mrs Beti Watson

Lleoedd Cysegredig

Oes, mae llawer ohonyn nhw yng Nghymru, ond ‘dwi am sôn am ddau yn unig.

Flynyddoedd maith yn ôl, pan oeddwn yn mynychu cynhadledd yng Nglan y Fferi, Sir Gaerfyddin, fe glywais y nofelydd Emyr Humphreys yn darlithio. Yn ystod ei ddarlith fe ofynnodd i ni enwi’r llecyn hanesyddol pwysica yng Nghymru. Ac fel y byddech yn dychmygu, cafodd nifer fawr o atebion – Merthyr, y Rhondda, Sycharth, Cilmeri, Bryn Glas, i enwi dim ond rhai. Na oedd ei ateb i bob awgrym. Y lle pwysica yn hanes Cymru, meddai, yw Mynwent Talgarth. Allen ni ddim deall pam. Mi wydde rhai ohonnom ni fod Hywel Harris wedi ei gladdu yn yr eglwys yno, ond y lle pwysica yng Nghymru!

Aeth yn ei flaen i esbonio. Mynwent Talgarth yw’r lle pwysica yn hanes Cymru, meddai, am mai yno y cafodd William Willams Pantycelyn dröedigaeth, a hynny wrth wrando ar Harris yn pregethu.

Cafwyd esboniad pellach. Williams Williams, trwy ei emynau, wnaeth y diwygiad Methodistiaidd yn ddealladwy i’r werin, meddai. A phoblogrwydd y diwygiad ymhlith y werin bryd hynny yw un o’r prif resymau fod yr iaith Gymraeg fel iaith lafar ac iaith ysgrifenedig wedi goroesi.

Fe roes dân yn eneidiau’r ail genhedlaeth o ddiwygwyr oedd yn cynnwys Thomas Charles, ac fe ddatblygwyd yr Ysgolion Sul fel dilyniant i Ysgolion Griffith Jones, a magwyd cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o Gymry llythrennog oedd yn addoli trwy gyfrwng y Gymraeg, yn darllen Cymraeg ac yn ei defnyddio fel iaith naturiol, nid er mwyn ei hachub ond er mwyn achub eneidiau. Wyddech chi fod dros dri chan mil o ddisgyblion wedi dysgu darllen ac ysgrifennu Cymraeg yn ysgolion Griffith Jones?

Ond nid cyflwyno gwers hanes i chi yw fy mwriad, dim ond esbonio pam y byddaf fi, bob tro y byddaf yn yr ardal arbennig honno o Gymru, yn ymweld ag eglwys Talgarth ac yn mynd i sefyll wrth fedd Hywel Harris ynddi, yn oedi hefyd o gwmpas y fynwent gan geisio dychmygu’r olygfa pan oedd tyrfaoedd wedi ymgasglu yno i glywed y pregethwr, ac ar y cyrion, hogyn ifanc glandeg oedd wedi aros i wrando. Gŵr ifanc a ddisgrifiodd y profiad a gafodd o mewn pedair llinell gofiadwy:

Dyma’r bore byth mi gofiwyf

Clywais innau lais y nef,

Daliwyd fi wrth wŷs oddi uchod

Gan ei sŵn dychrynllyd ef.

Diolch enfawr i Mrs Watson am gyfrannu erthygl mor wych a diolch hefyd i Elfyn Pritchard am ei waith ar y gwreiddiol a llyfr hynod.

Newyddion a Chyfarchion

Cydymdeimlo – Rydym fel eglwys yn cydymdeimlo’n ddwys â Hefina Jones ac Olwen wedi iddynt golli eu chwaer, Enid. Byddwn yn meddwl amdanoch yn eich hiraeth.

Ysbyty – Bu rhaid i Eunice Hughes dreulio noson yn Ysbyty Glan Clwyd ac rydym yn falch iawn ei bod hi gartre ac yn gwella erbyn hyn.

Gwaith Cwrs yr Ysgol Sul – Llongyfarchiadau i blant ac ieuenctid yr Ysgol Sul ar gwblhau gwaith arbennig ar y thema ‘Pwy yw dy Gymydog?’ Cafodd y gwaith ei arddangos yng nghyfarfod yr Henaduriaeth yn Llansannan a chafodd ei ganmol am fod yn amrywiol a diddorol iawn. Diolch i Elan Llŷn, Elain Gerallt, Elain Hughes, William Hughes, Tomos Roberts, Cadi Gerallt, Eunice Hughes a Mali Tudur am eu gwaith ac i Glenda Morris am lunio’r arddangosfa. Gallwch weld y gwaith yn y festri.

Pererindod – Bwriedir trefnu ein pererindod flynyddol ar Orffennaf 1. Helen ac Iwan Vaughan Evans fydd yn casglu’r enwau a bydd mwy o fanylion i’w gael naill ai yn y gwasanaethau yn ystod y mis neu ym mhorth y capel.

Eisteddfod yr Urdd – Llongyfarchiadau i bawb fu’n cystadlu yn yr Eisteddfod dros wyliau hanner tymor.

Arholiadau – Pob lwc i’r bobl ifanc sy’n sefyll arholiadau dros yr wythnosau nesaf.

 

Adnod y Mis:

1 Ioan 4:7-12

Ffrindiau annwyl, gadewch i ni garu’n gilydd, am fod cariad yn dod oddi wrth Dduw. Mae pawb sy’n caru fel hyn wedi’i eni’n blentyn i Dduw ac yn ‘nabod Duw. Os ydy’r cariad hwn ddim gan rywun, dydy’r person hwnnw ddim yn ‘nabod Duw chwaith – am mai cariad ydy Duw.

Dyma sut wnaeth Duw ddangos ei gariad aton ni: anfonodd ei unig Fab i’r byd, er mwyn i ni gael bywyd drwyddo. Dyma beth ydy cariad – dim y ffaith ein bod ni’n caru Duw, ond y ffaith ei fod e wedi’n caru ni ac anfon ei Fab yn aberth oedd yn gwneud iawn am ein pechodau ni.

Ffrindiau annwyl, os ydy Duw wedi’n caru ni gymaint â hyn, dylen ninnau hefyd garu’n gilydd. Does neb erioed wedi gweld Duw, ond os ydyn ni’n caru’n gilydd, mae Duw yn byw ynon ni ac mae ei gariad yn dod yn real yn ein bywydau ni.

Gair o Ddiolch i’r Ieuenctid am Gyfeilio

Diolch i’r ieuenctid i gyd sydd wedi cyfeilio bob mis ers blynyddoedd bellach. Gwerthfawrogwn yn wir eich cyfraniad.

Y trefniant mis yma fydd:

Bore Sul Mehefin 24:

  • Datganiad ar y corned gan Tomos WIlliams adeg y casgliad. Diolch yn fawr Tomos.

Cyfrannu at ein cylchlythyr

Gofynnaf yn garedig i chi ystyried cyfrannu at eitemau i’r Bont.  Mae ‘gwirfoddolwyr’ yn brin iawn ac yr run rhai yn cyfrannu yn gyson chware teg iddynt.

Mi fuaswn yn ddiolchgar iawn os y gwnewch ystyried os gwelwch yn dda cyfrannu a chysylltu â mi ar 705074 neu ar yr e-bost isod.

huw.mckee@btinternet.com

Diolch o galon.

Rhodd Cymorth

Mae Bethania wedi derbyn taliad o £4,576.79c gan ‘Cyllid a Thollau EM’ am 2014 drwy’r cynllun Rhodd Cymorth sydd yn help aruthrol at gostau’r Eglwys.

Os ydych yn drethdalwr a heb arwyddo ffurflen rhodd cymorth ar gyfer Bethania ac y dymuno gwneud cysylltwch â Mrs Einir Jones (Ffon 702834) os gwelwch yn dda.

Mae’r Bont eich angen chi!!

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at Sylw’r Mis dros y blynyddoedd. Mae’r rhestr o bawb sydd wedi cyfrannu ers 2010 ar gael i’r rhai â diddordeb gwybod pwy gyfrannodd a phryd!

Yn anffodus mae’n profi yn fwyfwy anodd i gael aelodau i ysgrifennu ac felly mae peryg y bydd rhaid mynd yn ôl ar ofyn yr un rhai i gyfrannu. Felly … os nad ydych wedi gwneud ac yn dymuno rhoi eich ‘Sylw’ mi fuaswn yn fwy na diolchgar.

Cysylltwch os gwelwch yn dda ar un o’r canlynol: